Mwy o holi ar ddiwedd wythnos 'letchwith' i Gething

Vaughan Gething yn y SeneddFfynhonnell y llun, Comisiwn y Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething yn ystod sesiwn holi'r prif weinidog cyntaf wrth y llyw

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i aelodau'r gwrthbleidiau holi Vaughan Gething am y rhoddion i'w ymgyrch i arwain Llafur Cymru pan mae'n wynebu pwyllgor craffu ddydd Gwener.

Daniel Davies sy'n dadansoddi wythnos letchwith i'r prif weinidog.

Senedd gwrtais sydd gan Gymru, ar y cyfan.

Dyw e ddim fel Tŷ'r Cyffredin yn San Steffan, gyda'r aelodau'n gweiddi ar ei gilydd o naill ochr y siambr yn ystod sesiynau holi'r prif weinidog.

Ym Mae Caerdydd, mae gwleidyddion yn disgwyl cael eu clywed pan maen nhw'n siarad.

Ond ar adegau roedd y distawrwydd o fewn y siambr ddydd Mawrth yn fyddarol, wrth i arweinwyr y gwrthbleidiau ymosod ar y rhoddion ariannol mawr i ymgyrch arweinyddol Vaughan Gething.

Cwestiynu gonestrwydd Mr Gething wnaeth Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru.

Honnodd bod 'na "anesmwythder amlwg" ar feinciau'r Blaid Lafur.

O le yr oeddwn i'n eistedd yn yr oriel gyhoeddus, roedd rhai yn sicr yn edrych yn eithaf anghyfforddus.

Ffynhonnell y llun, Comisiwn y Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething a rhai o'r ASau Llafur yn y siambr yr wythnos hon

Holodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr, am sylwadau gan Jeremy Miles, yr ymgeisydd arall i arwain Llafur Cymru.

Deuddydd yn gynharach dywedodd Mr Miles na fyddai ef wedi derbyn y £200,000 a roddwyd i Mr Gething gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Ceisiodd rhai o gefnogwyr brwd Mr Gething ymyrryd â Mr Davies, ond fe syllodd Mr Miles ar y papurau ar ei ddesg wrth i'w enw gael ei grybwyll.

'Dim gwrthdaro'

Galw am ymchwiliadau mae'r pleidiau eraill, ond does dim eu hangen, meddai Mr Gething.

Does dim gwrthdaro rhwng y rhodd gan gwmni Dauson Environmental a'i ddyletswyddau fel prif weinidog, meddai.

Dywedodd bod Llafur wedi penodi'r cyn-arweinydd, Carwyn Jones, i adolygu’r rheolau mewnol ar gyllido ymgyrchoedd.

Ac er i Dauson fenthyg £400,000 gan Fanc Datblygu Cymru, sy'n eiddo i'r llywodraeth, nid oes gan y llywodraeth ddylanwad dros benderfyniadau'r banc.

Efallai bydd cyfle arall i Mr Gething ddefnyddio'r un dadleuon ddydd Gwener, pan fydd yn rhaid iddo wynebu aelodau mewn fforwm arall.

Gall y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog holi am faterion sy'n berthnasol i waith Llywodraeth Cymru.

Yn ôl gelynion gwleidyddol Mr Gething, mae sgandal y rhoddion yn tynnu sylw o'r gwaith hwnnw ac mae'n rhaid ei holi'n bellach.

'Sbwylio mis mêl'

Beth bynnag ddaw o'r pwyllgor, nid dyma ddiwedd y cwestiynau.

Bydd Mr Gething yn wynebu'r sesiwn holi nesaf yn y Siambr ddydd Mawrth - a phrynhawn Mercher bydd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn gosod dadleuon a phleidleisiau ynglŷn â'r rhoddion.

Ychydig dros fis sydd ers i Lafur Cymru ddewis Mr Gething fel arweinydd.

Fe ddylai fod yn mwynhau ei fis mêl fel prif weinidog newydd.

Ond mae'r gwrthbleidiau'n benderfynol o ddifetha hynny.