Tad Rob McElhenney'n gobeithio am fudd economaidd

Bob McElhenney
Disgrifiad o’r llun,

Mae tad Rob McElhenney, Bob McElhenney, yn gobeithio y bydd y ddinas yn elwa o "gyfle euraidd"

  • Cyhoeddwyd

Mae tad un o berchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam yn gobeithio y bydd arweinwyr y ddinas yn sicrhau bod yr ardal yn elwa o lwyddiant diweddar y clwb.

Llai na phedair blynedd ers i'r clwb gael ei brynu gan ddau o sêr Hollywood, Rob McElhenney a Ryan Reynolds, mae’r Dreigiau wedi ennill dyrchafiad am yr ail dymor yn olynol ac yn derbyn sylw byd-eang o gyfres deledu Welcome to Wrexham.

Wrth ymweld â thafarn newydd yn y ddinas yr wythnos hon, dywedodd Bob McElhenney wrth BBC Cymru bod gan yr ardal "gyfle euraidd" a bod gweld dinas yn codi ar ei thraed yn "bwerus".

Ond yn ôl yr arbenigwr busnes, yr Athro Dylan Jones-Evans, mae angen “buddsoddiad sylweddol” gan lywodraethau lleol a chenedlaethol er mwyn manteisio ar y proffil sydd gan y ddinas ar hyn o bryd.

Mae Cyngor Wrecsam yn dweud eu bod yn gweithio gyda’r clwb pêl-droed wrth ddatblygu’r ddinas.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyn-chwaraewr Wrecsam a Chymru, Neil Roberts, newydd agor busnes yng nghanol y ddinas

Un busnes sydd newydd agor ei ddrysau ar y stryd fawr ydy bar Vault 33, o dan gyd-berchnogaeth cyn-chwaraewr Wrecsam a Chymru, Neil Roberts.

Mae’n dweud mai rŵan ydy’r amser i fuddsoddi yn y ddinas, a bod angen cymorth i fusnesau.

“Mae angen mwy. Mae angen workaround i ddenu busnesau, unai trwy ostwng trethi busnes neu gymorth arall.

“Mae’n rhaid cael cymorth ariannol. Mae’n rhaid iddo ddigwydd achos ar hyn o bryd, mae 'na gaffis, siopau trin gwallt, dydy eu overheads nhw ddim yn gynaliadwy.

“Os ydy’r lle yma yn mynd i fod yr hyn allai fod, sef canol dinas lewyrchus, mae angen rhywbeth i ddigwydd ar lefel uwch.”

Y tymor nesaf bydd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn chwarae yn nhrydedd haen pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd.

Bydd y drydedd gyfres o Welcome to Wrexham yn cael ei darlledu o amgylch y byd fis nesaf.

Ers i’r rhaglen ddogfen gael ei rhyddhau mae acenion tramor, yn enwedig o ogledd America, yn lled-gyffredin yn Wrecsam.

Wrth i mi sgwrsio â Neil Roberts am y bar, fe darodd tad Rob McElhenney i mewn ar ymweliad.

Wrecsam yn 'codi ar ei thraed'

Pan ofynnais i Bob McElhenney am sgwrs, roedd ganddo neges debyg am yr angen i arweinwyr Wrecsam achub ar y cyfle economaidd.

“‘Dan ni’n gobeithio y bydd pobl bwysig, yr hierarchies yn Wrecsam yn cymryd mantais o hyn a gweld bod hyn yn gyfle euraidd i’r dref,” meddai.

“Anghofiwch y clwb, bydd y clwb yn mynd mor uchel ag y gallan nhw - ac fe allan nhw sôn am yr Uwch Gynghrair, iawn ynde?”

“Ond dydy hynny ddim mor bwerus â thref sy’n codi ar ei thraed a chymryd mantais a chreu pethau sy’n denu twristiaeth a swyddi, a phopeth sy’n ei gwneud yn ddinas yn fwy pwysig, a’i rhoi ar y map a gwneud i bobl fod eisiau dod yma.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceri Jones yn gobeithio gweld rhagor o fuddsoddi yn Wrecsam

Mae’r gyfreithwraig Ceri Jones yn aelod o grŵp Busnes Proffesiynol Wrecsam ac yn cytuno bod cyfle gwych i’r ddinas ar hyn o bryd.

“‘Dan ni wedi gweld lot o newid mewn buddsoddiad yma, ond mae angen gwneud mwy," meddai.

“A dyna ‘dan ni fel grŵp o bobl broffesiynol yn meddwl amdano. ‘Dan ni angen sicrhau bod yr amwynderau yn cyfateb i gyfeiriad y clwb.

“’Dan ni angen gweld mwy o westai, mwy o fwytai, mwy o weithgareddau i sicrhau bod y momentwm yn parhau.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans y byddai "pob tref a dinas ym Mhrydain yn rhoi miliynau i gael y cyfle 'ma"

Ond yn ôl yr arbenigwr busnes, yr Athro Dylan Jones-Evans, mae angen i lywodraeth leol a chenedlaethol achub ar y cyfle a’r sylw byd-eang i ddenu buddsoddwyr i’r ardal.

“Mae hyn yn amser unigryw i Wrecsam,” meddai.

“Dwi’n meddwl fyse pob tref a dinas ym Mhrydain yn rhoi miliynau i gael y cyfle 'ma.”

“Felly mae'n rhaid i ni wneud y mwyaf o’r cyfle a gwneud yn siŵr bod y cyngor lleol yn gwneud pob dim sy’n bosib i helpu buddsoddwyr ddod i fewn a helpu nhw drawsnewid y ddinas, ac yn bwysicach, trawsnewid economi’r ddinas.

“Dwi’n meddwl fydd y rhan fwyaf o’r arian yn dod o’r tu allan. Mae pobl isio bod yn rhan o lwyddiant.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe brynodd Rob McElhenney a Ryan Reynolds y clwb pêl-droed yn 2020

Ar ran Cyngor Wrecsam, dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, bod y clwb pêl-droed yn “bwysig iawn” i’r ddinas.

“Mae’r cyngor yn gweithio gyda’r clwb wrth ailddatblygu’r Cae Ras. Mae’r Cae Ras wrth galon ailddatblygu Ffordd yr Wyddgrug, prosiect Porth Wrecsam," meddai.

“Mae llawer mwy i Wrecsam. Mae stad ddiwydiannol, Tŷ Pawb, Eglwys San Silyn, Castell y Waun, gerddi Erddig - lot o attractions i bobl ddod i Wrecsam.

“Mae lot o fuddsoddi gan lywodraethau lleol a chenedlaethol.”

'Llysgenhadon gwych'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam a pherchnogion y clwb yn llysgenhadon gwych ar gyfer y ddinas, y rhanbarth a Chymru gyfan.

"Rydym yn blaenoriaethu buddsoddi yng nghanol y ddinas drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi gyda chynlluniau cyffrous a fydd o fudd i'r ardal.

"Mae’r rhain yn cynnwys gwneud gwelliannau i'r farchnad dan do a'r stryd fawr, a sefydlu Hwb Creadigol i gefnogi entrepreneuriaeth mewn cerddoriaeth, y celfyddydau a diwydiannau creadigol eraill.

“Rydym hefyd yn cefnogi cynlluniau i sefydlu Amgueddfa Dwy Hanner ar safle Amgueddfa Wrecsam, sef Amgueddfa Bêl-droed newydd i Gymru ac orielau hanes lleol.

"Rydym yn cefnogi Porth Wrecsam ac yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid gan gynnwys Cyngor Wrecsam, y Brifysgol a'r Clwb Pêl-droed.

"Rydym hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid ar brosiectau tymor hir a fydd yn datblygu diwydiannau Wrecsam ymhellach ac yn dod â’r buddsoddiad, twf a’r swyddi y mae mawr eu hangen i'r ardal.

"Bydd hyn yn cynnwys gwella cysylltiadau trafnidiaeth, yn ogystal â datblygiadau economaidd a thwristiaeth."