Llanfairpwll: Ymgais newydd i godi tai yn pryderu trigolion

Medwyn Roberts a Gwyn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Medwyn Roberts a Gwyn Thomas yn byw ar Stad y Garnedd. Byddai'r 27 o dai yn cael eu hadeiladu ar y cae yma

  • Cyhoeddwyd

Mae cais o'r newydd i adeiladu 27 o dai ar gae sy'n ffinio'r A55 yn pryderu'r bobl leol.

Maen nhw'n bwriadu ail gynnau ymgyrch i rwystro datblygu yno.

Y llynedd fe gafodd cynlluniau i adeiladu tai ger stad y Garnedd yn Llanfairpwll eu gwrthod gan nad oedd y broblem llifogydd wedi cael sylw priodol.

Dywed y datblygwyr, DU Construction, fod y datblygiad o dai fforddiadwy yn ymateb i alw yn lleol.

Ond wedi iddyn nhw gyflwyno cynllun o'r newydd i Gyngor Môn, sy'n cynnwys mesurau i geisio ateb y pryderon, mae trigolion cyfagos yn dweud eu bod yn parhau i wrthwynebu.

'Galw am dai cymdeithasol llai'

Er fod y darn o dir y tu allan i ffin ddatblygu Llanfairpwll, mae'r ymgeiswyr yn dadlau bod angen y cartrefi i gwrdd â'r galw lleol am dai fforddiadwy.

Yn ôl DU Construction, sy'n gobeithio datblygu'r stad newydd ar y cyd gyda Thai Clwyd Alyn, byddai pob o'r 27 yn rai fforddiadwy.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw trigolion y stâd ddim am weld tai yn cael eu codi yma

Dywedodd Du Constructios ei bod hi'n "amlwg" fod "angen tai cymdeithasol llai" yn Llanfairpwll gan ychwanegu nad oes modd " eu diwallu o fewn amserlen resymol ar dir oddi fewn y ffin ddatblygu."

Fe wnaethon nhw ychwanegu bod sylwadau cyn ymgeisio gan Adran Strategaeth Tai'r Cyngor yn dweud bod "galw mawr iawn am dai fforddiadwy yn Llanfairpwll" a'u bod yn "cefnogi'r datblygiad arfaethedig."

Ond er bod y darn o dir union drws nesaf i'r A55, maen nhw hefyd yn dweud fod asesiad sŵn wedi dod i'r casgliad "na fyddai unrhyw effeithiau annerbyniol ar fwynderau preswyl deiliaid oherwydd sŵn a llygredd aer".

Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Darlun artist o'r stad wedi ei adeiladu

Ond wfftio sylwadau'r datblygwyr mae rhai o drigolion Stad y Garnedd, sy'n dweud byddai'n achosi mwy o draffig ar y stad ac yn arwain at golli tir glas.

Mae Medwyn Roberts, cadeirydd y pwyllgor lleol sydd yn erbyn y datblygiad, o'r farn fod y safle yn "gwbl anaddas".

Aeth ymlaen i ddisgrifio'r cais newydd fel "ddannodd yn dod yn ei ôl", gan hefyd gwestiynu os oes gymaint â hynny o alw am dai yn y gymuned.

"Oedd adran dai [Cyngor} Ynys Môn am gymryd yr awenau gyda'r cais gwreiddiol ond rŵan mae'r adeiladwr wedi mynd at Clwyd Alyn, sef cymdeithas dai.

"Mae'r cymdeithasau ma'n gosod tai allan ar sail pwyntiau, ond 'da ni'n pryderu bydd neb o Lanfairpwll yn byw ynddyn nhw os cawn nhw eu codi.

"Does na'm llawer o neb yn cnocio ar ddrws cynghorwyr rownd ffor'ma yn gofyn am dai.. dwi'n yn gwybod pwy ydi'r 700 o bobl 'ma."

'Mae hwn yn or-ddatblygu'

Pan gafodd y cais gwreiddiol ei drafod ym mis Mawrth 2023, cafodd ei wrthod yn unfrydol gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Môn.

Gan nad oedd gwybodaeth ddigonol wedi'u gyflwyno mewn perthynas â draenio dŵr wyneb, barn swyddogion oedd na allen nhw "gefnogi'r cynllun yn ei ffurf bresennol".

Y tro hwn mae'r datblygwyr wedi cynnwys manylion mesurau i leddfu ffasiwn bryderon sy'n cynnwys system i wasgaru'r dŵr wyneb drwy ffurf tanciau.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle yn ffinio'r A55 ar un ochr a Stad y Garnedd ar y llall

Ond dywedodd Gwyn Thomas, sydd hefyd yn byw ar Stad y Garnedd, fod y stad yn "unfrydol yn erbyn y cais".

"Mae hwn yn or-ddatblygu a fydd yn golygu llawer iawn mwy o geir, loriau ac yn y blaen i gyd yn mynd drwy'r stad.

"Dim ond un mynediad sydd na i'r datblygiad yma, ar dop y stad ac mae 'na gornel reit hegar.

"'Da chi'n sôn am 60 ella o geir ychwanegol sy'n fwy o bwysau."

Ychwanegodd fod problemau eisoes wedi bod gyda charthffosiaeth a bod y system bresennol eisoes o dan straen.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed trigolion byddai'r datblygiad yn cynyddu'r traffig drwy'r Garnedd

Roedd dros 700 o bobl wedi arwyddo deiseb yn erbyn y cais gwreiddiol, ychwanegodd, gan gyfeirio at y cae presennol fel "buffer rhwng y pentref a'r A55".

"Mae'r ganolfan iechyd a fferyllfa o dan straen yn barod a fysa hwn yn golygu straen ychwanegol.

"Os fydd y datblygiad yma yn mynd yn ei flaen fydd yn gosod cynsail peryg iawn i'r cyngor oherwydd fydd hi'n anodd iawn iddyn nhw wrthod ceisiadau tu allan i'r ffin datblygu.

"Os 'da ni'n datblygu fel hyn, yn Llanfairpwll, bydd Llanfairpwll yn dioddef ac yn darfod fel cymuned."

Mae disgwyl i Gyngor Môn wneud penderfyniad dros y misoedd nesaf.

'Cryfhau'r economi leol'

Mewn datganiad, dywedodd Clwyd Alyn fod datblygu tai fforddiadwy a chynaliadwy yn flaenoriaeth iddyn nhw.

"Ry'n ni'n gobeithio sicrhau y bydd gan bobl leol fynediad at dai o ansawdd ardderchog, ac mi fydd datblygiad y Garnedd yn Llanfairpwll yn darparu 27 o gartrefi fforddiadwy mewn ardal lle mae galw uchel.

"Ry'n ni wedi gwrando ar bryderon y gymuned, ac mae'r datganiad trafnidiaeth yn awgrymu na fyddai'r datblygiad yma yn cael effaith niweidiol ar y rhwydwaith ffyrdd lleol.

"Bydd gan bob eiddo fan parcio, tra bod maes parcio i ymwelwyr hefyd yn rhan o'r cynllun.

"Mae Clwyd Alun yn gweithio'n galed i helpu gwireddu cynlluniau Gweinidog Tai Llywodraeth Cymru, a bydd ein buddsoddiad yn y datblygiad yma yn cryfhau'r economi leol drwy greu swyddi a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol."

Pynciau Cysylltiedig