Achos marwolaeth ar ôl gadael y ddalfa yn ddirgelwch

Mohamus HassanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mohamud Hassan, 24, mewn fflat yg Nghaerdydd ym mis Ionawr 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae rheithgor cwest wedi dod i gasgliad agored yn achos dyn fu farw 14 awr ar ôl iddo gael ei ryddhau o ddalfa’r heddlu.

Bu farw Mohamud Hassan, 24, mewn fflat ar Heol Casnewydd yng Nghaerdydd ym mis Ionawr 2021.

Dyfarnodd y crwner Graeme Hughes bod “tystiolaeth annigonol” bod marwolaeth Mr Hassan wedi’i achosi gan “unrhyw weithred neu ddiffyg gweithred gan unrhyw swyddog heddlu".

Clywodd y cwest ym Mhontypridd nad oedd modd sefydlu achos meddygol ei farwolaeth.

Dywedodd teulu Ms Hassan eu bod "wedi llethu" gan gasgliad y cwest.

"Mae’r casgliad agored, sef yr unig opsiwn oedd ar gael i’r rheithgor, yn un sy’n adlewyrchu'r dirgelwch parhaus ynghylch marwolaeth Mohamud," meddai eu datganiad.

Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) ar ôl y cwest bod eu hymchwiliad nhw wedi dod i'r casgliad na wnaeth gweithredoedd swyddogion Heddlu'r De gyfrannu at farwolaeth Mr Hassan.

Roedd Mr Hassan wedi cael ei arestio’r noson gynt ar amheuaeth o dorri’r heddwch (breach of the peace).

Clywodd y rheithgor ei fod wedi brwydro nôl tra'n cael ei arestio, a'i fod wedi treulio'r noson yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.

Cafodd ei ryddhau'r bore canlynol.

Clywodd y rheithgor fod Mr Hassan wedi treulio gweddill y diwrnod yn "ymlacio a smocio canabis" cyn mynd i'w wely yn teimlo'n wael am 17:00.

Aeth ffrind i'w ddeffro am 22:00 a'i ganfod yn anymwybodol.

Cafodd parafeddygon eu galw, ac fe ddaethon nhw i'r casgliad ei fod wedi marw ers tipyn o amser.

Roedd y crwner wedi dweud wrth y rheithgor am gyrraedd canlyniad agored, gan ddweud fod "y dystiolaeth ddim yn dangos sut y bu farw".

Daeth y rheithgor i'r casgliad ei fod wedi marw "o ganlyniad i ddigwyddiad meddygol", ond nad oedd modd gwybod beth oedd y digwyddiad hwnnw.

Pynciau Cysylltiedig