Stormydd ar eu ffordd i rannau helaeth o'r de

Map y rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd mewn grym o 20:00 nos Fercher tan 08:00 fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl glaw trwm ar gyfer rhannau helaeth o dde Cymru dros nos, gyda'r posibilrwydd o fellt a tharanau.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd o daranau sy'n dod i rym am 20:00 nos Fercher, tan 08:00 fore Iau.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i 14 o siroedd Cymru - Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Fe allai'r amodau gwaethaf achosi trafferthion i deithwyr, llifogydd a thoriadau i gyflenwadau trydan.

Mae'r arbenigwyr yn rhagweld rhwng 20 a 40mm o law mewn ardal eang - a hyd at 50mm mewn rhai llefydd - o fewn cyfnod o ddwy neu dair awr.

Pynciau Cysylltiedig