Dyn yn y llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth menyw, 25

Demi MabbittFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Demi Mabbitt o'i hanafiadau yn dilyn gwrthdrawiad ar 5 Ebrill

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn lleol wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth menyw 25 oed trwy yrru'n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad car yn ardal Merthyr Tudful.

Bu farw Demi Mabbitt, o Aberfan, o ganlyniad i'w hanafiadau yn dilyn y gwrthdrawiad ar Heol Abertawe, ger canolfan siopa Trago Mills, am 23:45 ar 5 Ebrill.

Mae Cameron Jones, 29, hefyd yn wynebu cyhuddiadau o fethu â stopio ar ôl gwrthdrawiad, methiant i hysbysu gwrthdrawiad ffordd, ac achosi marwolaeth trwy yrru heb drwydded neu yswiriant a phan roedd wedi ei wahardd rhag gyrru.

Fe gafodd ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr Tudful fore Mawrth.

Siaradodd Mr Jones ond i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad.

Doedd dim cais am fechnïaeth, ac mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys Y Goron Merthyr Tudful ar 28 Mai.

Mae swyddogion arbenigol Heddlu De Cymru'n parhau i roi cymorth i deulu Ms Mabbitt.

Pynciau Cysylltiedig