Oes gobaith i Geraint Thomas yn y Giro d’Italia?

Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

A welwn ni Geraint Thomas ar y podiwm ar ddiwedd y Giro d’Italia yn 2024?

  • Cyhoeddwyd

Wedi iddo orffen yn ail y llynedd, bydd y Cymro o Gaerdydd Geraint Thomas yn gobeithio cymryd cam yn uwch ar bodiwm y Giro d’Italia yn 2024.

Mae’r ras eleni yn dechrau yn Turin ac yn gorffen yn Rhufain dair wythnos a 3,321 o gilometrau yn ddiweddarach.

Mae’r cwrs eleni yn cynnwys chwe chymal sy’n gorffen ar gopa mynyddoedd, bron i 70 cilometr o rasio yn erbyn y cloc a hyd yn oed un cymal ar raean.

Ond pwy yw’r ffefrynnau i ennill y ras dair wythnos?

Tadej Pogacar

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Talent ryfeddol, yr etifedd i goron Eddy Merckx fel y beiciwr mwyaf amryddawn yn hanes y gamp.

Mae’n anodd cofio grand tour diweddar gyda ffefryn cliriach.

Does dim amheuaeth bod Pogacar, ar bapur, ben ac ysgwyddau’n gryfach na’r gweddill.

Mae’r Slofeniad wedi bod ar dân, yn ennill saith o’r 10 ras iddo gystadlu ynddynt y tymor yma.

Er bod Jonas Vingegaard a haul crasboeth y Tour de France wedi tanlinellu ambell i wendid mewn blynyddoedd diweddar, mae absenoldeb Vingegaard - pencampwr y Tour 22/23 - a nifer o sêr eraill a thywydd mwynach yr Eidal yn gweithio o’i blaid.

Sgôr: 5/5

Geraint Thomas

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Y gorau o’r gweddill.

Mewn gwirionedd byddai Thomas yn bum seren petai Pogacar ddim yn y ras.

Er nad yw wedi creu argraff y tymor yma a’r ffaith y bydd yn 38 erbyn cyrraedd Rhufain ddiwedd mis Mai, mae Thomas yn arbenigwr ar amseru ei baratoadau a mesur ei gyflwr ar gyfer y rasys mawr.

Mae’r ffaith bod dau gymal yn erbyn y cloc yn gweithio o’i blaid, ac mae ei dîm cryf yn cynnwys cadfridogion megis Thymen Arnesman, a allai orffen ar y podiwm.

Ond mae’n siŵr bod Thomas fel pawb arall yn croesi ei fysedd am anffawd neu anlwc i Pogacar.

Sgôr: 3/5

Ben O’Connor

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae’r Awstraliad yn mwynhau tymor llewyrchus wrth iddo orffen yn ail yn y Tour of the Alpes a’r UAE Tour.

Mae O’Connor yn ddringwr o safon ac fe orffennodd yn y pedwerydd safle yn y Tour de France yn 2021.

Does dim amheuaeth bod ganddo’r gallu i orffen ar y podiwm mewn grand tour - mae’r Giro yma yn gyfle euraidd.

Sgôr: 2/5

Romain Bardet

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ffrancwr sydd wedi sefyll ar bodiwm y Tour ddwywaith.

Roedd yn ymddangos bod ei yrfa yn dirwyn i ben ond fe orffennodd yn ail yn ras undydd Liège-Bastogne-Liège fis diwethaf, sy’n arwydd ei fod mewn cyflwr da iawn.

Mae’n ddringwr cydnabyddedig ac yn ddisgynwr penigamp. Does dim modd ei ddiystyru.

Sgôr: 2/5

Yr Eidalwyr

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe orffenodd Damiano Caruso yn dryddydd y llynedd

Y Giro yw uchafbwynt y calendr i’r Eidalwyr ac mae yna draddodiad balch o’u beicwyr yn gor-berfformio yn y ras unigryw hon.

Fe orffennodd Damiano Caruso yn drydydd y llynedd ac mae’r gŵr 36 oed yn un i’w barchu yn y mynyddoedd.

Mae Antonio Tiberi, 21, hefyd wedi disgleirio mewn sawl ras yn barod y tymor yma

Sgôr: 1/5

Y gweddill

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Daniel Martinez yn llygadu’r dosbarthiad cyffredinol

Mae ‘na siarad mawr am ddyfodol y beiciwr ifanc o Wlad Belg, Cian Uijtdebroeks, tra bod unigolion megis y Colombiad Daniel Martinez a’r Gwyddel Eddie Dunbar hefyd yn llygadu’r dosbarthiad cyffredinol.

Sgôr: 1/5

Pynciau Cysylltiedig