Bwrdd iechyd yn talu £1m y mis am ofal iechyd meddwl tu hwnt i'r gogledd

Nia Foulkes
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Nia Foulkes gael triniaeth ym Manceinion

  • Cyhoeddwyd

Mae bwrdd iechyd gogledd Cymru wedi gwario dros £1m bob mis eleni yn anfon cleifion iechyd meddwl tu hwnt i'r rhanbarth am driniaeth.

Roedd 48 claf â phroblemau iechyd meddwl yn cael triniaeth y tu allan i'r ardal ar 1 Mawrth eleni.

Daw'r ffigyrau i'r amlwg wedi i raglen Newyddion S4C wneud cais rhyddid gwybodaeth (FOI) at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sydd dan fesurau arbennig.

Datgelodd y cais hefyd mai 22 o gleifion oedd yn cael eu trin tu allan i ardal y bwrdd ar yr un dyddiad y llynedd, gyda dim ond tri wedi eu hanfon o ogledd Cymru ar 1 Mawrth 2022.

Cyfaddefodd Dr Alberto Salmoiraghi, cyfarwyddwr meddygol iechyd meddwl y bwrdd iechyd, eu bod yn gwario "swm eithafol ar drin pobl yn rhywle arall" a bod "risg ynghlwm â hynny", gan ddweud hefyd bod y bwrdd "yn ceisio gwella" y sefyllfa.

Ym Mhentrecelyn ger Rhuthun, mae Nia Foulkes yn byw gydag anhwylder deubegynnol (bipolar).

Yn 2019, wedi genedigaeth ei mab, Gwilym, bu'n rhaid iddi gael gofal arbenigol ym Manceinion.

"[Mae] mynd o adre, i gleifion, yn frawychus," meddai.

"Dwi wedi bod drwy gymaint, ac mae'n bwysig bod o fewn cyrraedd adref, os yn bosib.

"Mae'n andros o lot o straen. Mae cymorth ffrindiau a theulu yn hynod bwysig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bwrdd yn ceisio mynd i'r afael â'r sefyllfa a'r gost "anferthol", yn ôl Dr Alberto Salmoiraghi

Dywedodd Dr Salmoiraghi bod nifer o ffactorau'n gyfrifol am y cynnydd mewn cleifion yn cael eu hanfon o'r gogledd am driniaeth.

Mae'r rhain, meddai, yn cynnwys cynnydd mewn galw am wasanaethau, diffyg staff a cheisiadau rhai cleifion am driniaeth tu hwnt i'w cynefin.

Yn ôl Dr Salmoiraghi, mae'r ffordd y mae'r bwrdd iechyd yn casglu data hefyd yn golygu y gallai rhai sy'n cael eu trin o fewn ardal y bwrdd iechyd, ond mewn rhan arall o'r gogledd, gael eu cynnwys yn y ffigyrau.

Pryderon staff

Cysylltodd aelod o staff gwasanaethau iechyd meddwl Betsi Cadwaladr â Newyddion S4C yn gynharach eleni, gan ddweud eu bod yn poeni am les cleifion.

Dywedodd hefyd eu bod yn siomedig bod Llywodraeth Cymru, sy'n goruchwylio'r bwrdd iechyd yn agos tra'i fod dan fesurau arbennig, wedi dweud ym mis Chwefror bod pethau'n gwella o fewn y bwrdd iechyd.

Yn ôl y ffynhonnell, mae gweithwyr yn yr adran yn ddig bod nifer cynyddol o gleifion yn cael eu hanfon o'r ardal am driniaeth, gan gostio'n ddrud i'r bwrdd iechyd.

Yn eu barn nhw, "cyfuniad o fethiannau gweithdrefnol a chlinigol" oedd yn gyfrifol.

Mewn ymateb i'r cais rhyddid gwybodaeth, dywedodd y bwrdd iechyd i £35,589.76 gael ei wario ar drin cleifion iechyd meddwl tu hwnt i'r gogledd ar 29 Chwefror eleni.

Mae Newyddion S4C wedi cael cadarnhad wedi hynny i dros £3.5m gael ei wario gan y bwrdd yn anfon cleifion tu allan i'r gogledd am driniaeth yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n awyddus i bobl gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl mor agos at eu cartrefi â phosib.

Ond maen nhw hefyd yn cydnabod "mewn nifer fach o achosion, mae'n bosib bod gan rai anghenion mwy cymhleth sydd angen gofal arbenigol iawn, all ond gael ei ddarparu mewn canolfannau arbenigol tu hwnt i'w bwrdd iechyd lleol".

Galw am atebion

Cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei roi yn ôl dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2023.

Bu dan fesurau arbennig hefyd rhwng 2015 a 2020.

Ym mis Mawrth, dywedodd Llywodraeth Cymru bod "arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaeth iechyd meddwl yn parhau yn fregus, ond mae nifer o arolygon mwy cadarnhaol dros y 12 mis diwethaf yn awgrymu gwasanaeth sydd yn sefydlogi".

Disgrifiad o’r llun,

Mae ASau'r gwrthbleidiau, Mabon ap Gwynfor a Darren Millar, yn galw am atebion

Yn y Senedd, mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn feirniadol.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, ei fod yn ymwybodol o gleifion iechyd meddwl yn cael cynnig gwelyau yn Portsmouth a Newcastle.

Mae e'n galw am "atebion" gan y bwrdd iechyd a'r Gweinidog Iechyd "am ganiatáu i hyn ddigwydd".

Dywedodd Darren Millar, llefarydd gogledd Cymru y Ceidwadwyr: "Maen nhw [y bwrdd iechyd] mewn mesurau arbennig.

"Mae'n glir nad yw gweithdrefnau'r llywodraeth i wella gwasanaethau yn llwyddo."