Dau o dimau rygbi Cymru'n rhan o arbrawf trin cyfergyd

PolarCap
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r penwisg arbennig yn cynnwys tiwbiau o hylif ar y rhewbwynt sy'n oeri'r pen a'r gwddf am 45 munud

  • Cyhoeddwyd

Mae dau o ranbarthau rygbi Cymru yn rhan o gynllun i brofi triniaeth newydd i ddelio â chyfergydion.

Mae'r Scarlets a Rygbi Caerdydd ymhlith chwech o dimau'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig sy'n defnyddio triniaeth i oeri'r ymennydd i chwaraewyr sydd wedi cael ergyd i'r pen yn ystod gêm.

Dyma'r tro cyntaf i driniaeth fel hon fod ar gael wrth ymyl y cae.

Mae chwaraewyr yn gwisgo penwisg arbennig sy'n cynnwys tiwbiau o hylif ar y rhewbwynt sy'n oeri'r pen a'r gwddf am 45 munud.

Yn ôl doctor tîm y Scarlets, Craig Dyson, mae'n ymddangos ei fod yn cael effaith ar rai chwaraewyr, ond mae angen cael rhagor o ddata cyn penderfynu a yw'r driniaeth yn effeithiol ai peidio.

"Ry'n ni wedi gweld bod rhai chwaraewyr ry'n ni'n gwybod sy'n absennol o'r gêm am gyfnodau hirach ar ôl cael cyfergyd, wedi gallu dychwelyd i'r cae yn gynt nag o'r blaen.

"Yn y gorffennol byddai eu symptomau yn para efallai bedwar, pump neu chwe niwrnod, ond mae 'na awgrym efallai bod y PolarCap yn gallu arwain at leihau'r cyfnod yna, a bod y symtpomau yn cilio yn gynt."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhy gynnar i wybod yn sicr bod y penwisg yn helpu chwaraewyr i wella'n gynt, medd Craig Dyson, meddyg tîm y Scarlets ond mae o'n falch o roi cynnig arno

'Trin yn y cyfnod cynnar, acíwt'

Cafodd PolarCap ei ddatblygu yn Sweden gan gyn-chwaraewr hoci proffesiynol, fu'n rhaid ymddeol oherwydd iddo gael problemau cyfergyd.

"Dwi'n gweld sawl elfen i ddelio â chyfergydion," meddai Erik Andersson.

"Mae angen i ni ganolbwyntio ar bob elfen - sut i sicrhau bod chwaraewyr yn dychwelyd i chwarae yn ddiogel, sy'n bwysig iawn, a sut allwn ni eu trin yn y cyfnod cynnar, acíwt - erbyn fe allwn ni wneud hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r chwaraewr yn gwisgo'r penwisg am 45 munud yn fuan wedi'r cyfergyd

I chwaraewyr fel Macauley Cook, sydd bellach yn chwarae i Bontypridd ar ôl cyfnodau gyda Rygbi Caerdydd a Jersey, mae pob ymchwil i effaith cyfergydion i'w groesawu.

"Doedd dim lot o waith wedi mynd mewn pan o'n i'n dechrau fy ngyrfa - doedd pobl ddim yn gwybod lot am hyn, rili," meddai.

"So mae'n grêt i weld hwn yn mynd ymlaen nawr a gobeithio mae'n gallu gwneud y gêm yn well ac yn saff yn y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Macauley Cook yn croesawu'r ymchwil, gan obeithio y bydd rygbi'n saffach yn y dyfodol

Hyd yn hyn, y driniaeth i chwaraewyr sydd wedi dioddef cyfergyd yw cyfnod o orffwys corfforol a meddyliol, a dychwelyd yn raddol i'r cae.

Dangosodd astudiaeth dros bum mlynedd gyda chwaraewyr hoci iâ proffesiynol yn Sweden bod 'na bosibilrwydd y gall y driniaeth hon leihau'r cyfnod mae chwaraewyr yn gorfod bod oddi ar y cae.

'Angen mwy o ymchwil'

Yn ôl yr Athro Huw Williams, sy'n seicolegydd niwrolegol ym Mhrifysgol Caerwysg, mae angen mwy o ymchwil i'r driniaeth benodol hon.

"Hwyrach mae am fod yn rhywbeth fydd yn help ond 'dan ni ddim yn rhy siŵr," dywedodd.

"'Dan ni ddim yn gwybod eto ond mae'n beth da ofnadwy bod pobl yn edrych i mewn i drio dod â thechnoleg i fewn i drio arbed yr effaith o gael cyfergyd - felly mae hynna'n beth da ynddo'i hun."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Caerwysg
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Huw Williams yn croesawu ymdrechion i fynd i'r afael ag anafiadau gyda thechnoleg

Fe fu Macauley Cook yn chwarae yn y pac i Rygbi Caerdydd 167 o weithiau, cyn cael cyfnod gyda thîm Jersey.

Mae'n dweud bod cyfergyd yn rhywbeth sydd ym meddyliau chwaraewyr yn aml y dyddiau hyn, yn enwedig wrth i fwy o gyn-chwaraewyr ddatgelu eu bod yn cael triniaeth am broblemau i'r ymennydd.

Ym mis Rhagfyr 2023 datgelodd cyn-flaenwr Cymru Andrew Coombs ei fod wedi cael diagnosis o ddementia a chlwyf tebygol i'r ymennydd.

"Ni yn meddwl am e eitha lot, yn enwedig pan ti'n clywed am y bois sy'n dod allan gyda phroblemau - pobl fel Andrew Coombs," meddai Macauley Cook.

"Mae'n agos i gartref wedyn pan chi wedi chwarae yn erbyn bois sydd gyda fe.

"Chi'n trio peidio meddwl amdano fe pan ti'n actually chwarae, ond pan ti'n dod gartref mae e yng nghefn y meddwl."