'Ni gyd mewn bach o sioc ac ofn'

Mae merch yn ei harddegau wedi cael ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i dri o bobl gael eu hanafu ar dir ysgol.

Cafodd dau athro ac un disgybl yn ei arddegau eu cludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman fore Mercher.

Roedd y tri wedi cael anafiadau o ganlyniad i gael eu trywanu.

Nos Fercher dywedodd Heddlu Dyfed-Powys nad oedd yr anafiadau yn ddifrifol.

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio ac wedi apelio ar bobl i ddileu fideos o'r digwyddiad ar-lein.

Dywedodd Osian, un o ddisgyblion yr ysgol fod pawb yn "rhedeg rownd a sgrechen".

"O ni gyd jyst bach yn shocked, oedd pawb i gyd dros y lle.

"O ni'n ofn iawn... o fi i gyd a ffrindiau fi yn rhedeg ffordd arall o ni jyst yn trio cadw i ffwrdd o beth oedd yn digwydd".