Dyffryn Aman: Brawd Cefin Campbell AS yn athro yn yr ysgol

Wedi achos o drywanu yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher dywedodd Cefin Campbell, cyn-ddisgybl yn yr ysgol ac Aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, fod ei frawd yn athro yn yr ysgol.

"Mae'n debyg mai 'mrawd oedd un o'r cyntaf i gyrraedd y digwyddiad ac wedi gorfod delio gyda sefyllfa gwbl frawychus a dweud y gwir," meddai yn fyw ar raglen Newyddion S4C.

Dywedodd ei fod yn "llawn emosiwn" am fod y digwyddiad yn "gwbl, gwbl annisgwyl".