Dyn wedi marw ar ôl disgyn o chweched llawr neuadd

Campws Singleton Prifysgol AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae myfyriwr 19 oed wedi marw ar ôl disgyn o ffenestr ar chweched llawr un o neuaddau preswyl Prifysgol Abertawe.

Bu farw Matthew Gilbert o'i anafiadau yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ddydd Mercher, 24 Ebrill.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw i gampws Singleton y brifysgol yn oriau mân bore Sul, 14 Ebrill.

Mae swyddogion arbenigol Heddlu De Cymru yn rhoi cefnogaeth i'w deulu.

'Myfyriwr hynod addawol'

Dywedodd y brifysgol eu bod "wedi’n syfrdanu a’n tristau yn arw o glywed am farwolaeth Matthew Gilbert".

"Danfonwn ein cydymdeimlad dwysaf i’w deulu yn eu galar.

"Roedd Matthew yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf hynod addawol a oedd yn astudio LLB y Gyfraith gyda Throseddeg.

"Bydd colled fawr ar ei ôl, ymysg ei gyfeillion a’i gydnabod.

"Rydym yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr a staff yn ystod y cyfnod heriol hwn."

Disgrifiad o’r llun,

“Dyw e ddim yn teimlo’n real," meddai Mia Brown

Mae Mia Brown, 19, yn byw yn y fflat lle wnaeth Matthew Gilbert gwympo, ond doedd hi ddim wedi cwrdd â’r myfyriwr.

“Mae’n iasol,” dywedodd. “Dyw e ddim yn teimlo’n real.

“Mae pawb yn siarad amdano - rhywbeth mor anghyffredin. Doeddwn i byth yn disgwyl i hyn ddigwydd.

“Ry’n ni wedi cael cefnogaeth achos fe ddaeth rhai o hyd iddo, roedd pobl yn ei adnabod, rhai yn yr un darlithoedd â fe.

“Ro’n i’n gobeithio y byddai’n goroesi. Mae’n ofnadwy.”