a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Dyna ni, mae Vaughan Gething wedi ateb cwestiynau am yr eildro fel prif weinidog.

    Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

  2. Rhestr aros ganolog ar gyfer deintyddiaeth y GIG

    Mae Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am "restr aros ganolog ar gyfer deintyddiaeth y GIG, sy'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n gwybod beth yw'r galw, eich bod chi'n gwybod beth yw'r angen ac felly rydych chi'n gallu ymateb".

    Mae Mr Gething yn ateb "dyna lle mae Llywodraeth Cymru eisiau cyrraedd".

    Ychwanegodd, "mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn siarad â mi yn rheolaidd am yr angen i sicrhau bod gennym fwy o fuddsoddiad yn ein systemau digidol a data o fewn y GIG fel eu bod yn addas i'r diben.

    "Gallant helpu'r ddau berson, yr ymarferwyr ond hefyd y person unigol, i gymryd rhan yn eu triniaeth a’u gofal eu hunain ac i ddeall lle mae’r cyfleoedd hynny’n bodoli i wneud yn well”.

    Jane Dodds
    Image caption: Jane Dodds
  3. Yr argyfwng parhaus yn y Dwyrain Canol

    Mae'r prif weinidog yn dweud y bydd yn ystyried beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu pobol sydd wedi eu heffeithio'n uniongyrchol gan yr argyfwng parhaus yn y Dwyrain Canol.

    Meddai, "rwy'n gwybod o fy mhrofiad fy hun yn fy etholaeth fy hun fod gennyf deuluoedd yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ar bob ochr i'r gwrthdaro. Felly, nid mater sydd wedi digwydd yn rhywle arall yn unig yw hwn. Mae yna effaith wirioneddol mewn cymunedau ar draws ein gwlad ein hunain, a dyna pam mae angen i ni barhau i gymryd diddordeb; hyd yn oed os nad ydym yn gwneud penderfyniadau yn y gwrthdaro, mae’n rhaid i ni ddelio â chanlyniad yr hyn sy’n digwydd a chefnogi ein dinasyddion ein hunain yn briodol.”

    Vaughan Gething
    Image caption: Vaughan Gething
  4. 'Angen ymchwiliad annibynnol i'r rhodd'

    Dywed arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod y ffrae dros benderfyniad Vaughan Gething i gymryd £200,000 gan gwmni gwastraff dadleuol wedi ei ddwysau gan y datguddiad bod arno ddyled o £400,000 i Fanc Datblygu Cymru sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru.

    Fe wnaeth Banc Datblygu Cymru fenthyg £400,000 i un o is-gwmnïau Dauson, Neal Soil Suppliers, ym mis Chwefror 2023 i brynu fferm solar.

    Mae'n galw am ymchwiliad annibynnol i'r rhodd gan Dauson Environmental Group i Mr Gething ar gyfer ei ymgyrch lwyddiannus i ddod yn arweinydd Llafur Cymru.

    Mae'n gofyn i Mr Gething a oedd wedi cwestiynu o ble y daeth yr arian.

    “A ofynnodd y prif weinidog o bwy yr oedd, a gafodd wybod am orffennol troseddol y rhoddwr a dweud nad oes ots - fe gymeraf yr arian beth bynnag - ac os felly mae hynny’n codi cwestiynau sylfaenol.

    “Neu ai er gwaethaf maint y rhodd hon, nid oedd yn meddwl gofyn am ddiwydrwydd dyladwy. Byddai hynny eto yn farn wael iawn.”

    Dywed Mr Gething fod “yr holl ddiwydrwydd dyladwy wedi’i wneud ynghylch a oedd hwn yn rhoddwr a ganiateir y gellid derbyn arian ganddo.”

    Ychwanegodd fod prosesau ar waith i sicrhau na all ymgeiswyr yn yr etholiad arweinyddiaeth wneud dewisiadau am fusnesau rhoddwyr.

    Dywed Mr ap Iorwerth fod Mr Gething wedi sôn am fod eisiau arwain gwlad “llawn gobaith, uchelgais ac undod”.

    “Ni all hyd yn oed uno ei blaid ei hun ynghylch a oedd yn iawn ai peidio.”

    Dywed Mr Gething fod pwyllgor gwaith Llafur Cymru – swyddogion y blaid a gytunodd ar yr adolygiad gan y cyn Brif Weinidog Carwyn Jones – “wedi bod yn unedig iawn”.

    Pan ofynnwyd iddo gan arweinydd Plaid Cymru a fyddai’n ymrwymo i wneud y canfyddiadau’n gyhoeddus, dywedodd Mr Gething nad oedd ganddo “ddim amheuaeth o gwbl” y bydd adolygiad Carwyn Jones “yn y parth cyhoeddus”.

    Rhun ap Iorwerth
    Image caption: Rhun ap Iorwerth
  5. Y rhodd o £200,000

    Andrew RT Davies
    Image caption: Andrew RT Davies

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at weinidog economi Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles yn dweud na fyddai wedi derbyn rhodd o £200,000 a roddwyd i Vaughan Gething yn ystod eu hymgyrchoedd i fod yn brif weinidog.

    Mae Mr Davies yn gofyn a oedd yna wahaniaeth mewn egwyddor rhyngddo fe a Jeremy Miles.

    “Dw i ddim yn meddwl bod ‘na wahaniaeth mewn egwyddor o gwbl,” meddai Mr Gething wrth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

    Dywedodd fod yr holl roddion wedi’u cofrestru a’u cofnodi, a dywedodd fod pwyllgor gwaith Llafur Cymru wedi cael “cyfarfod cytûn a chadarnhaol iawn” pan wnaethon nhw gytuno ar adolygiad o reolau ymgyrch yr arweinyddiaeth.

    Dywedodd Mr Davies y byddai “person rhesymol… yn dweud bod yna wrthdaro buddiannau posib yno”.

    Ond dywedodd Mr Gething y bydd gan “berson rhesymol ddiddordeb yn y ffeithiau” – gan ddweud bod Banc Datblygu Cymru yn gwneud penderfyniadau “hollol annibynnol ar Lywodraeth Cymru”.

    Dywed Mr Davies ei fod yn cael "effaith andwyol ar y llywodraeth" ac mae'n galw am ymchwiliad llawn, annibynnol i fynd i'r afael â'r pryderon am gyllid ei ymgyrch.

    Mae Mr Gething wedi cyhoeddi y bydd y cyn Brif Weinidog Carwyn Jones yn cadeirio adolygiad o ymgyrchoedd arweinyddiaeth gan gynnwys cyllid ymgyrchu.

    Derbyniodd Mr Gething £200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

    Cafodd David Neal ddedfryd o garchar wedi'i gohirio yn 2013 am dipio gwastraff yn anghyfreithlon ar safle cadwraeth.

    Bedair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei erlyn eto am beidio â chael gwared arno.

    Daethpwyd o hyd i bentyrrau mawr o wastraff heb ei reoleiddio ar hen dir fferm David Neal ar Wastadeddau Gwent
    Image caption: Daethpwyd o hyd i bentyrrau mawr o wastraff heb ei reoleiddio ar hen dir fferm David Neal ar Wastadeddau Gwent
  6. Y sefyllfa yn Gaza

    Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru yn gofyn "beth mae'r llywodraeth yn ei wneud i gefnogi teuluoedd yng Nghymru y mae'r sefyllfa yn Gaza yn effeithio arnynt?"

    Mae'r prif weinidog yn ailadrodd galwadau am gadoediad ar unwaith.

    Mae'n dweud "mae gweinidogion a chydweithwyr yn y cabinet wedi cyfarfod ag arweinwyr Iddewig a Mwslimaidd ac aelodau o'r gymuned ers dechrau rhyfel Israel-Gaza. Rydym yn parhau i gydymdeimlo â'r holl bobl hynny y mae'r argyfwng presennol yn effeithio arnynt.

    "Byddwn yn parhau i gefnogi unrhyw ddioddefwyr troseddau casineb trwy ein Canolfan Cymorth Casineb Cymru."

    Dywed Peredur Owen Griffiths "yr wythnos diwethaf mewn digwyddiad yn y Senedd, clywsom gan Mr a Mrs Brisley o Ben-y-bont ar Ogwr, y lladdwyd eu merch a'u hwyresau gan Hamas ar 7 Hydref. Dywedasant nad oedden nhw wedi clywed gan unrhyw un o Lywodraeth Cymru ers colli eu hanwyliaid.

    "Hoffwn wybod a yw'r un peth yn wir am bob dinesydd Cymreig sydd wedi colli perthnasau yn y rhanbarth yn ystod y chwe mis a hanner diwethaf o wrthdaro gwaedlyd".

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "Rydyn ni'n siarad am gymorth ymarferol ac emosiynol i deuluoedd... mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir yr ydym eisiau agwedd fwy hael tuag at bobl sy’n ceisio lloches, pobl sy’n ffoi rhag rhyfeloedd, ac am wasanaeth aduniad teuluol priodol”.

  7. Gwasanaethau cyswllt toresgyrn

    Mae Natasha Asghar o'r blaid Geidwadol yn gofyn am ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau cyswllt toresgyrn ar draws byrddau iechyd yng Nghymru.

    Ar ddechrau 2022, ymchwiliodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarpariaeth gwasanaethau cyswllt toresgyrn.

    Dangosodd y data hyn, meddai'r llywodraeth ar y pryd, "amrywiad sylweddol a lle i wella".

    Ym mis Chwefror 2023, gwnaeth y gweinidog iechyd Eluned Morgan "ymrwymiad i gyflawni gwasanaethau cyswllt toresgyrn cant y cant ar gyfer pob bwrdd iechyd , ac i gryfhau’r mandad i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau yn y maes hwn. Rwy’n disgwyl i fyrddau iechyd gyflawni cant y cant erbyn mis Medi 2024."

    Mae Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething yn dweud bod "cynnydd da" ar gyflawni'r ymrwymiad hwnnw, ond mae Natasha Asghar yn dweud "ei bod hi'n edrych yn fwyfwy annhebygol y bydd y targed yn cael ei gyrraedd".

    Mae gwasanaeth cyswllt toresgyrn yn sicrhau bod cleifion 50 oed a hŷn sydd wedi torri asgwrn ar ôl cwympo yn cael gwiriad o iechyd eu hesgyrn a’u risg o gwympo, a bod hyn yn cael ei reoli er mwyn lleihau’r risg o dorri asgwrn eto.

    Natasha Asghar
    Image caption: Natasha Asghar
  8. Croeso

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm – ail sesiwn Vaughan Gething yn y swydd.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.