Dod o hyd i fodrwy goll ar ôl 54 mlynedd mewn cae

Disgrifiad,

Marilyn Birch yn disgrifio ei sioc o gael ei modrwy yn ôl wedi'r holl flynyddoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw o Gwm Tawe sydd wedi dod o hyd i’w modrwy dyweddïo 54 mlynedd ar ôl iddi fynd ar goll yn dweud ei bod "mor falch" bod y fodrwy "wedi dod gytre".

Roedd Marilyn Birch o Bontardawe yn bwydo gwartheg ar ei fferm pan gollodd hi’r fodrwy yn 1966.

Fe brynodd gŵr Marilyn, Pete Birch, y fodrwy am £18.

Dywedodd Marilyn nad oedd hi wedi dychmygu y byddai’n dod o hyd i'r fodrwy, ond iddi ddod i'r amlwg ar ôl iddi sôn wrth ddyn oedd yn defnyddio synhwyrydd metel ar y tir.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe brynodd gŵr Marilyn, Pete Birch, y fodrwy am £18

Mae Marilyn yn cofio'r diwrnod pan aeth y fodrwy ar goll.

Dywedodd: “Es i mas i siopa ac am ddim rheswm o gwbl, nes i roi’r modrwy engagement ar y bys.

“Fel arfer o'n i ond yn gwisgo hi pan o'n i'n mynd mas yn y nos.

“Es i mas i siopa, dod 'nôl a nes i benderfynu rhoi bwyd i’r da cyn mynd mewn i’r tŷ am y nos.

“Dod nôl i’r tŷ wedyn, golchi dwylo , dim modrwy ar y bys.”

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Marilyn Birch o Bontardawe yn bwydo gwartheg ar ei fferm pan gollodd hi’r fodrwy yn 1966

Dywedodd Marilyn iddi dreulio oriau yn chwilio am ei modrwy, cyn dod i’r casgliad na fyddai hi'n ei gweld eto.

“O ni’n upset amdano fe,” dywedodd Marilyn.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Marilyn Birch a'i gŵr, Pete, ar ddiwrnod eu priodas

“O i’n meddwl mwy am y modrwy hyn na beth o'n i am y modrwy priodas.

“O ni’n cadw edrych nawr ac yn y man, rhag ofn o ni’n gweld e, ond dros y blynyddoedd o'n i 'di rhoi lan wedyn, o'n i’n gyfarwydd â’r ffaith bydden ni ddim yn gweld e eto.”

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Marilyn ei bod yn "teimlo fel llefen, achos o ni mor falch i weld e... mae wedi dod gytre"

Roedd dyn lleol, Keith Phillips, yn defnyddio synhwyrydd metel ar dir y cwpl pan ddaeth o hyd i rywbeth sgleiniog yn y gwair.

“Dyma fi’n dweud wrtho fe, dim ots am y rubbish yma ti’n ffeindio, i ti’n gallu ffeindio engagement ring fi plis?”, meddai Marilyn.

“Wel tua wythnos wedyn, ma' fe’n dod nôl a dweud 'fi’n credu bod fi di ffeindio modrwy ti'.

“Nawr fel arfer fi gyda digon i ddweud, ond o'n i methu gweud dim byd!

“Dyna gyd o'n i’n gwneud oedd edrych arno fe, oedd e’n llawn mwd, ond oedd e’n ffito ar y bys.

"O'n i’n teimlo fel llefen, achos o ni mor falch i weld e... mae wedi dod gytre.”

Ar ôl glanhau’r fodrwy, mae Marilyn yn addo na fydd hi fyth yn ei thynnu oddi ar ei bys eto.