'Angen rheolau llymach' ar ôl syrthio i lawr seler

Olwen CollierFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Mae merch dynes a fu farw ar ôl syrthio i lawr seler tafarn yn Sir Gaerfyrddin yn galw am reolau llymach mewn tafarndai.

Roedd Olwen Collier, 68 oed, wedi mynd i dafarn y Stag and Pheasant ym mhentre Carmel ger Cross Hands y llynedd i addurno ystafell ar gyfer parti pen-blwydd ei merch.

Ond wrth iddi chwilio am yr ystafell, fe agorodd hi'r drws anghywir a syrthio lawr i'r seler.

Cafodd y tafarnwyr, Philip a Tracy Hawkins, ddedfryd o ddeunaw wythnos o garchar wedi ei gohirio am flwyddyn ar ôl pledio'n euog i fethiannau iechyd a diogelwch.

Clywodd y llys bod golau gwan ac arwyddion aneglur wedi golygu ei bod hi wedi agor y drws anghywir.

Bu farw ym mis Ionawr 2023, ar ôl torri ei phenglog yn y digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Allison Raymond gyda'i mam Olwen Collier

Mae merch Olwen Collier yn galw am reolau llymach ar ôl i'r landloriaid osgoi cyfnod yn y carchar a chael cadw eu trwydded.

Eglura Allison Raymond bod ei mam wedi cyrraedd y dafarn i addurno'r ystafell ar gyfer ei phen-blwydd ac "wedi gofyn i Philip Hawkins [y landlord] lle'r oedd angen iddi fynd. Fe ddywedodd wrthi hi i gario 'mlaen drwy'r drws ar y dde".

"Heb yn wybod iddi, fe wnaeth mami wthio drws y seler oedd wedi ei adael yn gilagored. Fe syrthiodd hi, taro ei phen ar dop y concrid a syrthio lawr 10 neu 12 gris."

'Bywyd wedi troi ben i waered'

Dywedodd Mrs Raymond, sy'n 51, bod ei mab yn sefyll y tu ôl i'w fam-gu pan syrthiodd hi, ac fe geisiodd afael yn ei chôt.

"Roedd yn rhaid iddo sefyll yna gyda'i dortsh yn chwilio i weld lle'r oedd mami wedi mynd achos roedd hi wedi syrthio mewn tywyllwch.

"Fe ffonion nhw fi a dyna pan wnaeth fy mywyd i droi ben i waered. Fe es i yno mor gyflym ag y gallen i ac roeddwn i'n disgwyl ei gweld hi gyda'i braich wedi torri."

Fe wnaethon nhw ddod o hyd iddi yn tagu ac roedd gwaed yn dod o'i cheg.

"Pan nes i gyrraedd, roedden nhw'n dal i weini pobl yn y dafarn," ychwanegodd.

"Wrth iddyn nhw dynnu mami o'r seler, roedd cwsmeriaid yn dod ata i ac yn edrych i weld be' oedd yn mynd 'mlaen."

Cafodd Ms Collier ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ond bu farw ym mis Ionawr 2023.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Olwen Collier ac aelodau o'i theulu

Clywodd y llys bod y digwyddiad wedi cael effaith sylweddol ar y landlordiaid, Philip a Tracy Hawkins.

Ond mae Mrs Raymond wedi beirniadu eu dedfryd ac am weld y ddau yn colli eu trwydded.

Mae hi hefyd yn galw am reolau llymach mewn tafarndai, gan ddweud bod "methiannau enfawr".

"Maen nhw [Philip a Tracy Hawkins] yn dal i gael rhedeg tafarn er bod y digwyddiad erchyll yma wedi digwydd. Mae hyn wedi'n chwalu ni fel teulu."

'Damwain drasig'

Fe ddisgrifiodd cyfreithwyr y landlordiaid, Aled Owen, y digwyddiad fel "damwain drasig" gan ddweud bod Cyngor Sir Caerfyrddin "wedi cadarnhau bod y dafarn yn cadw at yr holl faterion iechyd a diogelwch i'r safon uchaf".

Ychwanegodd bod Mr a Mrs Hawkins wedi pledio'n euog i'r cyhuddiadau ar y cyfle cyntaf.

Meddai: "Doedden nhw ond wedi bod yn landlordiaid ers pedwar mis, ac roedden nhw wedi cael archwiliad tân llwyddiannus ar bob drws, wythnos cyn i hyn ddigwydd.

"Roedd hon yn ddamwain drasig... fe wnaeth swyddogion iechyd a diogelwch o Gyngor Sir Gaerfyrddin wneud rhai awgrymiadau ac maen nhw [Philip a Tracy Hawkins] wedi gwneud y newidiadau hynny yn syth."

Dywedodd Jonathan Morgan o Gyngor Sir Caerfyrddin: "Rydyn ni'n meddwl ac yn cydymdeimlo gyda'r teulu, ar ôl colli aelod gwerthfawr o'r teulu.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd gwersi ehangach yn cael eu dysgu o'r digwyddiad yma."