Ffrwydradau a thân mewn ffatri gemegau yn Yr Wyddgrug

Cafodd trigolion yn Yr Wyddgrug yn cael eu rhybuddio i gadw eu drysau a'u ffenestri ar gau yn sgil ffrwydradau a thân ar safle cwmni cemegau Synthite yn y dref ddydd Mawrth.

Dywed Heddlu'r Gogledd iddyn nhw gael eu galw gan Wasanaeth Tân ac Achub y Gogledd am 14:34 wedi adroddiadau o dân.

Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod wedi gyrru pedwar criw yno, ynghyd ag unedau eraill, yn dilyn "adroddiadau o dân yn yr ardal gynhyrchu".

Cafodd un person ei gludo i'r ysbyty. Y gred yw nad yw'r anafiadau'n rhai difrifol.

Dywedodd y gwasanaeth tân am 19:00 fod y digwyddiad dan reolaeth.

Mae Synthite wedi bod yn gwneud cemegion ar y safle ar Ffordd Dinbych ers yr 1950au.

Mae ffordd yr A541 wedi bod ar gau rhwng cyffyrdd y Dreflan a chyffordd Rhyd y Golau.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn "cefnogi'r gwasanaethau brys trwy eu cynghori ynglŷn â sut i leihau'r effaith ar yr amgylchedd".

Dywedodd Sam Evans, 31, sy'n gweithio dros y ffordd o'r ffatri, ei fod wedi clywed ffrwydradau a gweld fflamau'n dod o'r safle.

Dywedodd ei fod yn y gwaith pan ganodd "larwm bach", a dechreuodd gweithwyr ddod allan o'r ffatri.

"Yna yn sydyn daeth y frigâd dân, a dechreuodd y mwg ddod yn weladwy," meddai wrth BBC Cymru.

"Roedd yna fwg am sbel, ond wedyn roeddech chi'n gallu gweld y fflamau'n codi, ac roedd 'na bangs uchel iawn, bron fel caniau nwy yn ffrwydro.

"Aeth hynny ymlaen am dri neu bedwar munud, dim byd enfawr, ond yn ddigon uchel i gymryd sylw."