Prifysgol Aberystwyth yn creu bara gwyn iachach

Bara
  • Cyhoeddwyd

Fe allai bara gwyn iachach fod ar gael ar silffoedd siopa cyn hir, diolch i waith ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Drwy gydweithio gyda melinwyr organig Shipton Mill, bydd y tîm yn Aberystwyth yn astudio'r broses o falu a chymysgu ar gyfer blawd gwyn.

Mae’r gwaith, a allai weld pys, ffa a cheirch o’r DU yn cael eu hychwanegu at flawd gwenith i'w wneud yn fwy maethlon, wedi’i ariannu gan fenter ‘Gwell Bwyd i Bawb’ Innovate UK.

Mae’r fenter yn un o 47 o brosiectau buddugol fydd yn derbyn cyfran o £17.4m gan Innovate UK i wella ansawdd bwyd, creu bwydydd ymarferol, hybu maeth, datblygu proteinau newydd, ac ymestyn oes silff bwydydd iach a ffres.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Catherine Howarth o Brifysgol Aberystwyth fod "hwn yn gyfle cyffrous i wella diet pobl"

Bydd y prosiect ymchwil yn defnyddio cyfleusterau campws arloesi’r brifysgol, ArloesiAber.

Dywedodd Dr Catherine Howarth o sefydliad ymchwil IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i wella diet pobl, yn enwedig y rhai sy’n ffafrio ymddangosiad a nodweddion synhwyraidd bara gwyn.

"Mae’r prosiect yn tanlinellu sut mae ein hymchwil planhigion sy’n arwain y byd yma yng Nghymru yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

"Felly, gobeithio y bydd hwn yn gyfle arall i ni wneud defnydd da iawn o’n gwaith yma, yn enwedig ar ffa, ceirch a phys.”

Ychwanegodd Dr Amanda Lloyd o Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae diet gwael yn chwarae rhan fawr mewn afiechyd, clefydau cronig a chyfran sylweddol o achosion o ganser.

"Mae cyfraddau gordewdra yn uchel iawn yn y Deyrnas Gyfunol, gyda chostau tybiedig i’r gwasanaeth iechyd yn £9.7bn erbyn 2050 a bron i £50bn y flwyddyn i’n cymdeithas.

"Gan ddefnyddio ein harbenigedd yn y brifysgol, rydyn ni’n gobeithio y gall y prosiect hwn chwarae rhan wrth fynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon o afiechydon a lles sy’n gysylltiedig â’r diet."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd pys, ffa a cheirch o’r DU yn cael eu hychwanegu at flawd gwenith i'w wneud yn fwy maethlon

Gyda 65% o holl geirch y Deyrnas Unedig wedi’u tyfu o fathau wedi’u datblygu yn Aberystwyth, mae’r brifysgol yn cael ei chydnabod fel canolfan flaenllaw ar gyfer datblygu mathau newydd o geirch, ffa a phys.

Dywedodd Dr Stella Peace o Innovate UK: “Mae'r prosiectau hyn yn amlygu ystod eang ac ansawdd gwaith arloesol y sector bwyd-amaeth yn y Deyrnas Gyfunol.

"Gyda heriau byd-eang fel diogelwch bwyd, cynaliadwyedd a maeth, mae angen atebion creadigol i gael effaith wirioneddol."