Wylfa: Ynys Môn yw'r dewis cyntaf am atomfa newydd - Llywodraeth y DU

Safle WylfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y gwaith o gynhyrchu ynni yn hen atomfa Wylfa i ben yn 2015

  • Cyhoeddwyd

Safle Wylfa ar Ynys Môn yw'r dewis cyntaf ar gyfer adeiladu gorsaf bŵer niwclear, meddai Llywodraeth y DU.

Cafodd y safle ei brynu gan y llywodraeth am £160m gan y datblygwyr diwethaf Hitachi - wnaeth roi'r gorau i'w cynlluniau am atomfa newydd yn 2019.

Mae cwmnïau ynni rhyngwladol wedi dechrau trafodaethau gyda'r llywodraeth ar adeiladu'r orsaf newydd yn Wylfa.

Dywedodd Ysgrifennydd Ynni'r DU, Claire Coutinho, y byddai'r safle yn cynnig "miloedd o swyddi â chyflogau da".

Byddai'r atomfa newydd yn Wylfa ar raddfa debyg i'r un yn Hinkley a'r un sydd wedi'i chynllunio ar gyfer Sizewell.

Mae'r safle ar arfordir gogleddol Ynys Môn, a daeth yn gartref i atomfa ar ddechrau'r 1970au.

Bwriad Llywodraeth y DU yw creu pedair gwaith yn fwy o gapasiti ynni niwclear erbyn 2050 - hyd at 25 GW.

Y gobaith yw cyflawni hynny gyda phwerdai newydd wrth i hen safleoedd ddod i ddiwedd eu hoes.

Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw y byddai atomfa newydd ar raddfa debyg i safle Hinkley yng Ngwlad yr Haf

Dywedodd Ms Coutinho bod Ynys Môn yn "falch o'i hanes niwclear a'i bod ond yn iawn, unwaith eto, iddi chwarae rhan ganolog wrth gryfhau diogelwch ynni'r DU".

Ychwanegodd y byddai Wylfa yn creu ynni "glân, dibynadwy ar gyfer miliynau o gartrefi, ac yn creu miloedd o swyddi â chyflogau da a denu buddsoddiad i ogledd Cymru i gyd".

Daeth y gwaith o gynhyrchu ynni i ben yn hen atomfa Wylfa yn 2015.

Roedd cwmni Hitachi o Japan wedi cynllunio ar gyfer atomfa newydd, ond cafodd y cynlluniau yna eu hatal yn 2020.

Ym mis Mawrth eleni cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bod wedi prynu'r safle gan Hitachi, yn ogystal â safle arall yn Sir Gaerloyw.

Great British Nuclear, corff hyd-braich o'r llywodraeth, sydd wedi bod yng ngofal prynu'r safleoedd, ac mae'n ystyried defnydd atomfeydd bach modiwlar a phwerdai mawr.

Dywedodd Gwen Parry-Jones, Prif Weithredwr Great British Nuclear, eu bod yn edrych ymlaen at y "rhaglen ymgysylltu gyda'r farchnad" ar gyfer darparwyr mawr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd bwriad i adeiladu atomfa newydd ger yr hen un yn Wylfa tan i gwmni Hitachi dynnu'n ôl yn 2020

Mae adroddiadau bod cwmni o Dde Korea, Kepco, ymysg y rhai sydd mewn trafodaethau cynnar gyda gweinidogion dros Wylfa.

Roedd partneriaeth rhwng Bechtel a Westinghouse hefyd wedi dangos diddordeb yn y safle.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, wrth BBC Cymru fore Mercher bod sawl cwmni ynni rhyngwladol â diddordeb mewn buddsoddi.

Mae "wedi cwrdd yn anffurfiol" mewn cinio gyda chynrychiolwyr cwmni Kepco, sydd, meddai "â diddordeb mawr" ond rhaid "mynd trwy'r sianeli cywir".

Ar raglen Dros Frecwast, fe wfftiodd awgrym mai addewid hawdd yw datgan ffafriaeth i safle Wylfa gydag etholiad cyffredinol ar y gorwel, gan bwysleisio na fyddai'r Trysorlys yn talu £160m am y safle heb reswm.

"Fi'n gallu dweud mae'r llywodraeth yn glir bod nuclear reactor yn mynd i gael ei adeiladu yna," dywedodd.

Ychwanegodd na allai awgrymu erbyn pa flwyddyn y byddai atomfa wedi ei chodi ac yn weithredol, ond bod y llywodraeth yn gwahodd "cwmnïau sy'n gallu adeiladu [safleoedd] ynni niwclear i ddod i mewn am drafodaeth am y peth".

'Môn eisiau sicrwydd'

Mae AS Ynys Môn wedi dweud y bydd y cyhoeddiad yn "drawsnewidiol" i'r ardal a gogledd Cymru yn ehangach yn dilyn degawdau o "esgeuluso".

Dywedodd Virginia Crosbie, AS Ceidwadol, y byddai'r atomfa'n creu swyddi, "sy'n bwysig gan ei fod yn golygu bod pobl ifanc yn gallu aros yn eu cymunedau, a dyma'r peth gorau allwn ni ei wneud i'r iaith Gymraeg".

Dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru yn San Steffan, Jo Stevens, bod "unrhyw gam ymlaen i'w groesawu", ond y byddai pobl Môn eisiau gweld sicrwydd.

"Mae'n bum mlynedd ers i weinidogion eistedd yn ôl wrth i'r cynlluniau blaenorol i Wylfa fethu", meddai.

"Byddai'r cynllun hwnnw hanner ffordd at y diwedd erbyn hyn, ac fe fydden ni'n gweld budd y miloedd o swyddi adeiladu a'r hyd at 1,000 o swyddi parhaol fyddai'n dod."

"Efallai bod y cyhoeddiad yma wedi bod ar y gorwel ers peth amser, ond mewn blwyddyn etholiadol mi fydd y Ceidwadwyr yn gobeithio y bydd hefyd yn rhoi hwb iddyn nhw.

"Yn enwedig yn sedd Ynys Môn, ble mae’r Ceidwadwyr dan fygythiad gan y blaid Lafur a Phlaid Cymru.

"Mae’r pleidiau i gyd yn croesawu’r addewid o swyddi mewn ardal sydd wedi bod yn galw am waith da i bobl ifanc lleol ers i hen safle Wylfa gau ei drysau.

"Ac er i Ysgrifennydd Cymru addo y bydd atomfa yn cael ei hadeiladu ar yr ynys - y cwestiwn mawr yw pryd?

"Mae Llafur a Phlaid Cymru yn dadlau ein bod wedi bod yma o’r blaen. Ac na fydd pobl yr ynys yn coelio’r addewid o swyddi newydd hyd nes eu bod yn eu gweld hefo’u llygaid eu hunain.

"'Da ni’n debygol o fod yn trafod hyn am ddegawdau eto. Yn sicr ymhell ar ôl unrhyw etholiad cyffredinol."

Dywedodd yr undeb sy'n cynrychioli gweithwyr y sector niwclear, Prospect, mai Wylfa oedd y "safle gorau yn Ewrop" ar gyfer pwerdy niwclear mawr, sy'n "hanfodol ar gyfer cyrraedd sero-net a diogelwch ynni".

"Maent hefyd yn golygu swyddi gyda chyflogau da, fyddai'n golygu bod y cynllun yn hwb sylweddol i economi Cymru," dywedodd Sue Ferns o'r undeb.

"Nawr mae angen canolbwyntio pendant ar sicrhau cynlluniau niwclear newydd a gwneud yn siŵr nad yw sgiliau a phrofiad yn mynd ar goll, a bod costau'n cwympo wrth symud ymlaen."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Robat Idris o'r grŵp gwrth-niwcliar PAWB yn wfftio awgrym bod dablygu atomfeydd yn rhan o'r ateb i dargedau sero net

Mae mudiadau gwrth-niwclear ac amgylcheddol yn dadlau bod angen canolbwyntio ar ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan ddweud mai methiant fu pob ymdrech hyd yma i leoli adweithyddion niwclear mawr newydd ar safle'r Wylfa.

Wrth ymateb ar ran y grŵp gwrth-niwclear, Pobl Atal Wylfa B (PAWB), dywedodd Robat Idris bod modd creu swyddi ar yr ynys yn "gynt o lawer efo'r technolega' gwyrdd, cyn belled â bod rheiny'n cael eu defnyddio er lles ein pobl ni a bod o ddim yn cael ei gwthio arnon ni o'r tu allan gan gorfforaethau enfawr".

"Yn fyd-eang ma' technolega' adnewyddol yn denu gymaint yn fwy o fuddsoddiada' masnachol," dywedodd ar raglen Dros Frecwast. "Dydi niwclear ddim yn hyfyw heb i lywodraetha' roi arian mawr."

Awgrymodd nad yw datblygliadau niwclear mor lân ag y mae cefnogwyr yn honni, gan fydd "blynyddoedd o ddyled carbon cyn bod yr atomfa'n dechrau cynhyrchu trydan", a hynny cyn dechrau ystyried sut mae claddu'r gwastraff yn y pen draw.

Risgiau ariannol mawr

Prif wyddonydd mudiad Greenpeace yw Dr Doug Parr, ac fe ddywedodd "nad yw cyhoeddiad y llywodraeth am Wylfa yn un sy'n codi hyder" o gofio bod "trychineb ariannol Hinkley yn dal i fynd yn y cefndir".

"Mae perygl ychwanegol yn Wylfa," meddai, "oherwydd wedi'r difrod a ddioddefodd EDF ni fydd yr un datblygwr yn fodlon derbyn y risgiau ariannol [i godi atomfa newydd].

"Go brin y bydd yr adweithydd yma'n cael ei godi, ond os fydd e fe fydd y trethdalwr yn gyfrifol am biliynau o gostau ychwanegol.

"Cafodd hynny ei weld mewn un ardal lle mae'r strwythur ariannol sy'n cael ei ffafrio gan y llywodraeth mewn grym, sef De Carolina yn yr UDA. Yno mae trethdalwyr y dalaith wedi gweld biliynau'n cael eu hychwanegu i'w biliau treth er bod y cynllun am adeithyddion wedi cael ei hepgor yn llwyr.

"Yn waeth na hynny, mae'r cynllun am yr adweithyddion yno yn un o'r rhai sy'n cael ei ystyried gan y llywodraeth ar gyfer Wylfa."

Pynciau Cysylltiedig