Dwy athrawes gafodd eu trywanu yn diolch i bobl am eu cefnogaeth

AthrawonFfynhonnell y llun, Llun cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddwy athrawes a gafodd eu trywanu yn diolch am bob cefnogaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae dwy athrawes a gafodd eu trywanu ddydd Mercher wedi diolch i bobl am eu negeseuon o gefnogaeth.

Fe gafodd Fiona Elias, Liz Hopkin a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman eu cludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

Nid oedd yr anafiadau yn peryglu bywyd, ac fe gafodd y tri eu rhyddhau o'r ysbyty erbyn y diwrnod canlynol.

Maen nhw wedi rhoi datganiad yr un, a bellach yn gofyn am breifatrwydd iddyn nhw a'u teuluoedd.

Yn gynharach ddydd Gwener, ymddangosodd merch 13 oed yn Llys Ynadon Llanelli i wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.

'Dyled yn fawr' i'r gwasanaethau brys

Mewn datganiad dywedodd Fiona Elias, Pennaeth Cynorthwyol yr ysgol: "O waelod calon, hoffwn i a'r teulu ddiolch yn fawr iawn am yr holl negeseuon rydym ni wedi eu derbyn o bell ac agos yn ystod y diwrnodau diwethaf.

"Mae fy nyled yn fawr i'r Heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans a staff y GIG yn Nhreforys am eu gofal arbennig a'u hymateb sydyn."

Aeth ymlaen i ddiolch am ofal yr Ambiwlans Awyr gan ddweud fod y digwyddiad yn "enghraifft arall o pa mor hanfodol ydy'r gwasanaeth yma i ni yng Nghymru".

Dywedodd fod y digwyddiad yma wedi "effeithio'n enfawr ar fy nghydweithwyr a'r disgyblion arbennig sydd gyda ni yn Ysgol Dyffryn Aman".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Fiona Elias ei bod hi a'r teulu yn diolch am yr holl negeseuon

Fe aeth ymlaen i ddiolch "aelodau'r staff am flaenoriaethu lles a diogelwch disgyblion yr ysgol am bedair awr, ac i'r disgyblion am ymateb mor aeddfed a synhwyrol".

Dywedodd mai "un o werthoedd craidd ein hysgol ydy 'gwytnwch', a does dim dwywaith bod y disgyblion wedi arddangos y gwerth yma wrth ymdopi gyda sefyllfa na ddylent byth fod wedi ei phrofi".

Wrth gloi'r datganiad mae'n diolch i'r rhieni ac i'r ysgol "am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth mewn cyfnod mor anodd ac wrth gwrs i'r gymuned ehangach ac asiantaethau allanol sydd wedi bod mor barod i gefnogi'r staff a'r disgyblion".

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Liz Hopkin bod ei dylen "yn fawr" i'r holl wasanaethau brys

Mewn datganiad ar wahân, dywedodd Liz Hopkin, Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol ei bod yn "diolch i bawb am y gefnogaeth yr wyf fi a fy nheulu wedi'i chael ers y digwyddiad ddydd Mercher.

"Mae fy nyled yn fawr i'r holl wasanaethau brys am eu hymateb cyflym ac am y gofal a roddwyd i mi ac eraill a gafodd eu cludo i'r ysbyty."

'Anodd deall bod hyn wedi digwydd'

Aeth ymlaen i ddweud fod "Ysgol Dyffryn Aman yn rhan fawr o fy mywyd, ac mae'n anodd deall bod hyn wedi digwydd".

Dywedodd ei bod yn "diolch i'n cymuned ysgol am yr holl gefnogaeth a negeseuon caredig rwyf wedi’u cael. Mae caredigrwydd y gymuned glos sydd gyda ni yma wedi cael effaith fawr arnaf.

Gan gloi'r datganiad, dywedodd ei bod angen "amser i ystyried beth sydd wedi digwydd" gan ofyn am breifatrwydd i "fyfyrio a gwella".

Pynciau Cysylltiedig