CPD Amlwch yn 'torri pob cysylltiad' â hyfforddwr

Disgrifiad,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yn ystod colled Amlwch o 8-0 yn erbyn Penrhyndeudraeth

  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Amlwch yn dweud eu bod wedi "torri pob cysylltiad" ag un o'u hyfforddwyr yn dilyn ymosodiad honedig ar lumanwr.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw'n ymchwilio i ddigwyddiad yn ystod gêm rhwng Amlwch a Phenrhyndeudraeth yng Nghynghrair Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru ar gae Lôn Bach ddydd Sadwrn 27 Ebrill.

Mae dyn 43 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o ymosod, bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau yn parhau.

Mewn datganiad, dywedodd Clwb Pêl-droed Amlwch eu bod "wedi ein tristau'n fawr gan y digwyddiadau dros y penwythnos".

Maen nhw hefyd wedi ymddiheuro i Glwb Pêl-droed Penrhyndeudraeth a'r llumanwr.