Wrecsam: Fy Ardal i

Y cyfrannydd gyda'i ffrindiau Jenko, Huw a MartinFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Matthew Edwards (canol, rhes gefn) gyda'i ffrindiau ers dyddiau'r ysgol - Jenko, Huw a Martin

  • Cyhoeddwyd

Mae Wrecsam wedi cael ei siâr o sylw dros y dair blynedd ddiwethaf, ond lleoliadau, atgofion a phobl tu hwnt i olwg y camerâu sy'n gwneud y lle yn arbennig i’r bobl sy’n byw yno.

Dyma gyflwyniad personol i’r ddinas gan un o’i brodorion Matthew Edwards… a does ond un lle iddo gychwyn y daith.

'Fy ail gartref - Y Kop'

Dwi wedi bod yn mynd i’r Cae Ras ar hyd fy mywyd a’r rhan ro'n i'n ei drysori fwya' oedd y Kop, y teras concrit enfawr fyddai’n dod yn fyw ar ddiwrnodau gêm.

Es i ar y Kop gyda fy nhad Mike Edwards, oedd yn dysgu yn y dref fel athro daearyddiaeth yn Ysgol Uwchradd y Groves, a fy mrawd Ben. Y Kop oedd ein hail gartref.

Bydden ni’n parcio ym mharc Bellvue ac yn cerdded rhyw filltir dros y bont rheilffordd i'r stadiwm. Yna anelu i lawr Crispin Lane, trwy'r hen gatiau ac i fyny'r clawdd cerrig at y teras hanner ffordd i fyny wrth hen ‘siop y Kop’.

Fydden ni’n mynd at yr un barrier bob gêm - a gweld yr un ffrindiau a wynebau bob wythnos, rhai pobl doedden ni erioed wedi siarad efo nhw ond roedd 'na bob amser ‘nod’ o gydnabyddiaeth.

Mae'r synau a'r sgwrsio yn dal gyda fi - ac arogl mwg sigarét yn wafftio yn yr awyr.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Matthew yn dathlu ar ôl buddugoliaeth Wrecsam yn erbyn Forest Green ar y Cae Ras fis Ebrill 2024 - gan sicrhau dyrchafiad unwaith eto eleni

Efallai nad oedd ein Kop ni mor fawr ac enwog a'r hen deras i fyny'r ffordd yn Anfield, ond roedd ganddo galon enfawr ac awyrgylch unigryw.

Yn anffodus dydi fy nhad ddim gyda ni bellach, fuodd o farw cyn i’r clwb ddisgyn allan o’r gynghrair - diolch i’r perchnogion ar y pryd.

Dwi’n cofio rhannu un o’n hamseroedd olaf gyda’n gilydd ar y Kop pan gurodd Wrecsam Cambridge United 5-0 yn 2003 i gael dyrchafiad i Gynghrair Un, felly mae’n anhygoel ein bod ni wedi cyrraedd y lefel hwnnw eto o’r diwedd ar ôl 21 mlynedd.

Mae hen deras y Kop wedi diflannu oherwydd gwaith ailddatblygu'r stadiwm, ond dwi'n dal i fynd i gemau gyda fy mrawd Ben a'i fab Jac.

Cyn dymchwel y Kop, daeth cyfle i brynu Kop barrier oedd yn cael eu gwerthu gan y Supporters Trust i godi arian at elusen leol. Ro'n i’n ddigon ffodus i brynu barrier i'm hatgoffa o wylio gemau ar y Kop gyda fy nhad.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Atgofion da - Matthew Edwards (ar y chwith) gyda'i nai Jac a'i frawd Ben, ac wrth gwrs darn o'r Kop

Dwi’n dal i edrych yn hiraethus ar y lleoliad lle roedden ni'n sefyll ar y Kop ac yn meddwl beth fyddai fy nhad yn ei wneud o’r amseroedd rhyfeddol rydyn ni, cefnogwyr Wrecsam, yn eu mwynhau ar hyn o bryd.

Mae ein perchnogion newydd, gwych nid yn unig wedi rhoi gobaith a balchder i gefnogwyr CPD Wrecsam, mae hefyd yn rhoi optimistiaeth i’r dref gyfan am ddyfodol disglair.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Matthew (ar y chwith) a'i frawd Ben gyda'u tad

'Byw ar hen safle fy ysgol'

Mae fan yma - ardal Hightown yn Wrecsam - wedi bod yn rhan fawr o’m mywyd i.

Roedd fy ysgolion cynradd ac uwchradd, Ysgol Bodhyfryd ac Ysgol Morgan Llwyd, yn yr ardal yma o’r dref. Ar wahân i dreulio ychydig flynyddoedd yn y brifysgol, rydw i wedi treulio'r rhan fwyaf o fy mywyd yn cael addysg neu'n byw yn ardal Hightown.

Mae ein tŷ ni hyd yn oed wedi ei adeiladu ar hen safle Ysgol Morgan Llwyd!

Mae'r ardal ger parc Ymddiriedolaeth Genedlaethol Erddig - a’r fan yma yn gartref i goedwig Brynycabannau, lle ro’n i’n rhedeg traws gwlad anodd yn ein dyddiau ysgol uwchradd.

Dwi'n cofio’r ras traws sirol flynyddol lle byddwn i’n rhedeg gydag un o fy ffrind gorau, Huw Griffiths. Byddai’n fy annog ac rwy’n siŵr y byddai hyd yn oed yn arafu weithiau i adael i mi ennill! Byddai bob amser yn rhoi eraill yn gyntaf.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mynd a Beti am dro yng nghoedwig Brynycabannau

Bob gwanwyn mae coedwig Brynycabannau yn llenwi fy synhwyrau diolch i garped lliwgar o glychau’r gog a blodau gwyn garlleg gwyllt.

Yr holl flynyddoedd yn ddiweddarach rwy'n dal i redeg drwy'r goedwig ac yn ymweld bob dydd gyda fy ffrind gorau Beti, fy cockerpoo.

Mae’r lle wedi bod yn lleoliad diogel i nifer o bobl - yn lloches i boblogaeth Wrecsam yn ystod y pla. Fe wnaethon nhw adeiladu cytiau pren i gysgodi ar yr allt sy'n wynebu'r gogledd, a’r ardal wedi ei enwi ar ôl hynny.

'Peint yn yr hen Oak Tree'

Yr haf olaf cyn mynd i'r brifysgol byddai fy ffrindiau Huw, Jenko a Martin yn treulio nosweithiau yn nhafarn y Oak Tree ar Ffordd Rhiwabon, sydd wedi'i lleoli yn ardal Penybryn o'r dref.

Roedd y dafarn ar un o'r prif lwybrau i mewn i'r dref, ac yn boblogaidd ar ddechrau'r 1990au. Ymhlith y rhai rheolaidd roedd hoelion wyth fel Hywel fu'n mynd yno ers degawdau.

Byddai'n eistedd wrth y bar, yn yr un lle, ac yn yfed o'i dancard ei hun.

Byddai bob amser yn rhannu ei ddoethineb gyda ni'r bobl ifanc, rhai yn bethau alla i ddim eu hail-adrodd!

Bydden ni hefyd yn chwarae snwcer ar y bwrdd maint llawn yn ystafell gefn y dafarn, neu’n gorffen y noson yn chwarae dartiau gyda rhai o’r bobl leol.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Atgofion da... hen dafarn yr Oak Tree - sydd bellach wedi cau

Caeodd yr Oak Tree tua wyth mlynedd yn ôl, sy'n arwydd o dranc y dafarn leol. Flynyddoedd yn ôl, roedd Penybryn yn gartref i wyth o dafarndai gwahanol, gan gynnwys y Red Cow, Swan Inn, yr Albion, Y Caernarfon a'r Kings Arms.

Yn anffodus, dim ond un dafarn sydd ar ôl, sef y Bowling Green gyda'i salŵn draddodiadol a'i ffenestri gwydr frosted yn yr ystafell ysmygu.

Cerddoriaeth a Focus Wales

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae Focus Wales wedi dod yn rhan annatod o'n calendr digwyddiadau cymdeithasol blynyddol lle rydyn ni'n cwrdd â ffrindiau.

Mae’r ŵyl gerddoriaeth ryngwladol yn cael ei chynnal ddechrau mis Mai bob blwyddyn - pedwar diwrnod mewn lleoliadau ar draws y dref ar gyfer talent gerddorol - rhai sydd yn datblygu a rhai bandiau sydd eisoes wedi sefydlu.

Mae ‘na sawl lleoliad ar gyfer cerddoriaeth byw yn Wrecsam erbyn hyn – y prif un ydi William Aston yn y Brifysgol, mae 'na venue mawr arall o'r enw The Rockin' Chair - Central Station oedd ei enw fo, mae Tŷ Pawb a weithiau bydd 'na fandiau yn dod i chwarae yn y Cae Ras.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Matthew gyda'i teulu yn gwylio Kings of Leon yn y Cae Ras llynedd

Mae Focus Wales wedi cyfrannu at yr hyder newydd yn Wrecsam, lle rydyn ni'n croesawu artistiaid ac ymwelwyr o bob rhan o’r byd, gan arddangos popeth sydd yma i’w gynnig.

Mae hefyd yn gyfle gwych i daro i mewn i ffrindiau hen a newydd.

Eleni, Royston Club, un o fandiau gorau Wrecsam fydd y prif fand ar y llwyfan mawr ac mae wedi bod yn wych eu gweld nhw'n datblygu i fod yn fand llwyddiannus iawn.

Pynciau Cysylltiedig