Chwe Gwlad: Cymru'n curo'r Eidal

CymruFfynhonnell y llun, Huw Evans
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi curo'r Eidal yn eu gêm olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Y sgôr terfynol yn Stadiwm Principality oedd Cymru 22-20 Yr Eidal.

Er bod Cymru wedi gorffen ar waelod y tabl gyda phum pwynt ar ôl colli pob gêm arall, roedd y canlyniad ddydd Sadwrn yn hwb i dîm Ioan Cunningham.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC, dywedodd y prif hyfforddwr, Ioan Cunningham: "Mae hyn yn enfawr. Mae pawb wedi rhoi cymaint o waith, egni ac ymdrech i'r ymgyrch yma a dydi pethau ddim wedi mynd y ffordd roedden ni wedi ei obeithio.

"Mae'r fuddugoliaeth yma'n golygu gymaint i ni gyd.

"Mae'n beth da ein bod ni wedi ennill heddiw fel ein bod ni'n gallu adeiladu ar hynny. Beth bynnag fydd nesa' i ni mi fyddwn ni'n ceisio ffocysu ar hynny ac ennill mwy o gemau."

Disgrifiad,

Gwenllian Pyrs: 'Mae'r gwaith caled 'di bod werth o'

Mae'r fuddugoliaeth yn ryddhad i'r chwaraewyr hefyd.

Dywedodd y prop, Gwenllian Pyrs: "Mae'n anhygoel... rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn wythnos yma a wedyn es i drosodd a chael cais.

"Mae wedi bod yn ymgyrch anodd iawn i ni ond mae'r canlyniad heddiw yn anhygoel a bydd y merched yn hapus gyda'n perfformiad ni."

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd y capten Hannah Jones: "Roedden ni'n haeddu hyn 100%.

"Rydw i mor falch o'r merched am ennill heddiw. Dwi eisiau diolch i'r cefnogwyr sydd wedi dal i'n cefnogi ni drwy gyfnodau anodd ac mae'r fuddugoliaeth heddiw iddyn nhw.

"Byddwn ni'n dal i fynd, byddwn ni'n dal i wella a dim ond y dechrau ydi hyn i ni."

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Vittoria Ostuni Minuzzi yn sgorio cais i'r Eidal

Cyfnodau rhwystredig

Roedd dechrau addawol i Gymru a bu bron iddyn nhw sgorio cais yn y deg munud cyntaf ond fe aeth y bêl ymlaen fodfeddi'n brin o'r llinell gais.

Roedd cyfle arall i Gymru ychydig funudau yn ddiweddarach wrth i Carys Phillips redeg lawr y cae. Ond fe aeth y bêl ymlaen eto, ar ôl i Georgia Evans a Lleucu George gamddeall ei gilydd.

Roedd hwb i obeithion Cymru wrth i Carys Phillips sgorio cais cynta'r gêm, cyn i'r Eidal daro yn ôl lai na munud yn ddiweddarach wrth i Vittoria Ostuni Minuzzi sgorio cais. Cymru 5-7 Yr Eidal.

Gyda chamgymeriadau gan chwaraewyr y ddau dîm, roedd cyfnodau rhwystredig i Gymru a'r Eidal.

Gyda chic arbennig gan Lleucu George lawr y cae, roedd Cymru bum medr o'r llinell gais. Roedd cyfle perffaith i Gymru cyn iddyn nhw gael eu gosbi am beidio gyrru'n syth mewn sgrym.

Ym munudau ola'r hanner cyntaf, fe gafodd yr Eidal gic cosb ar ôl i Georgia Evans gael ei chosbi ac fe lwyddodd Beatrice Rigoni i anelu'r bêl rhwng y pyst.

Y sgôr ar yr hanner oedd Cymru 5-10 Yr Eidal.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans

Roedd 'na ddechrau gwych i Gymru ar ddechrau'r ail hanner, wrth i Gwenllian Prys sgorio cais yn y munudau cyntaf, cyn i Keira Bevan gicio'r bêl rhwng y pyst.

Er gwaetha'r dechrau addawol i Gymru, fe darodd yr Eidal nôl wrth i Francesca Granzotto sgorio cais gan ddod â'r sgôr yn gyfartal, 15-15.

Roedd 'na ergyd arall i Gymru wrth i Emma Stevanin sgorio cais i'r Eidal ond fe ddaeth trydydd cais i Gymru wrth i Sisilia Tuipulotu groesi'r llinell gyda rhai munudau'n weddill o'r gêm.

Fe ddaeth Cymru ar y blaen o 22-20 wrth i Lleucu George gicio rhwng y pyst.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Emma Stevanin yn sgorio trydydd cais yr Eidal

Roedd Cymru angen ennill y gêm er mwyn osgoi pum colled am y tro cyntaf yn eu hanes.

Flwyddyn yn ôl roedd pob dim yn fêl i gyd i dîm rygbi menywod Cymru, wrth iddyn nhw ddathlu eu llwyddiant mwyaf yn y Chwe Gwlad ers 13 mlynedd.

Wedi sawl blwyddyn gythryblus ar ac oddi ar y cae, mi oedd hi'n ymddangos fod tîm Ioan Cunningham wedi troi cornel.

Flwyddyn yn ddiweddarach ac mae'r tîm wedi gorffen ar waelod y tabl, ond mae'r canlyniad yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn yn hwb i'r chwaraewyr ac i'r tîm hyfforddi.

Bydd Cymru'n chwarae gêm ail-gyfle yn erbyn Sbaen yn ddiweddarach eleni i weld a fyddan nhw’n chwarae yn yr ail neu’r drydedd haen yng nghystadleuaeth WXV yn yr Hydref.

Lloegr enillodd y Gamp Lawn am y chweched tro yn olynol.