Dioddefwraig o iselder yn cynnig cyngor yn y Sioe Fawr

  • Cyhoeddwyd
therapi ceffylauFfynhonnell y llun, Lilwen Joynson

Yr wythnos hon yn y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd bydd ffermwraig sydd wedi dioddef o iselder ei hun yn cadeirio trafodaeth ar faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig.

Dywedodd Lilwen Joynson: "Dwi'n gobeithio y bydd nifer yn dod i'r seminar - rhaid cael gwared o'r stigma sydd 'na am iechyd meddwl yn enwedig yn y byd ffermio."

"Pan adawodd y plant y nyth 'nes i ddioddef llawer," meddai Lilwen wrth Cymru Fyw.

"Ar ôl priodi roeddwn i'n ffermio yn Llanllwni - fe briodais i'n ifanc a magu plant ond pan ddaeth hi'n amser iddyn nhw adael fe deimlais wacter rhyfeddol.

"Wedi i'r plant adael dim ond fi a'r gŵr oedd ar ôl a doedden ni ddim yn dod mhlân," meddai Lilwen, "roedd ein perthynas ar ben."

"Ro'n i'n teimlo'n ofnadwy o isel a methu credu bod pethau wedi dod i hyn.

"Ar ben hyn i gyd roedd rhaid delio gyda bywyd pob dydd ar y fferm - sefyllfa ariannol, tywydd a'r tasgau arferol.

"Doedd 'da neb syniad wrth gwrs bo fi'n teimlo fel hyn - dwi'n cofio siarad â chymdogion wedi i ni wahanu ac roedd y cyfan yn andros o sioc iddyn nhw - a dyna'r pwynt does neb yn sylwi.

"Gyda ffermio mae pethau yn gorfod cael eu gwneud ac mae gofyn am help os oes pwysau yn isel iawn ar y 'to do' list.

Ffynhonnell y llun, Lilwen Joynson
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gofyn am help yn isel iawn ar y 'to do' list, medd Lilwen Joynson

'Seicotherapi ceffylau yn help'

Yr hyn a wnaeth Lilwen oedd gadael y fferm a mynd i wneud cwrs cwnsela tair blynedd yn Llundain.

"Rodd hi'n benderfyniad mawr gadael y fferm ond unwaith ro'n i wedi cydnabod bod rhywbeth yn bod ro'dd pethau yn edrych yn well.

"Dwi bellach yn byw yn fy sir enedigol yn Sir Benfro - ac wedi cefnu ar bryderon 2007.

"Dwi'n rhoi cyngor busnes i nifer o bobl ond hefyd yn cwnsela a hynny llawer o'r amser drwy arfer seicotherapi anifeiliaid - ceffylau rhan amlaf.

Ffynhonnell y llun, Lilwen Joynson

"Yn aml dyw pob ddim eisiau siarad am eu problemau ac felly does dim pwynt taclo pethau 'head on' - mae siarad trwy gyfrwng anifeiliaid yn lot haws.

"Trwy wneud hynny mae modd edrych ymla'n, er enghraifft, at y pum mlynedd nesaf. Mae modd sefydlu busnes gwell a gweld darlun ehangach yn hytrach na'r darlun bach.

"Mae'r dull yma yn helpu pobl o ran sefydlu busnes ond hefyd i drafod yr hyn sy'n eu poeni.

"Mae pobl wir yn gweld pethau'n wahanol wedyn."

Mae'r seminar yn rhan o weithgareddau Undeb Amaethwyr Cymru yn y Sioe.

'Does 'na ddim cywilydd'

Y llynedd yn y Sioe fe ymrwymodd yr Undeb i gynnal gweithgaredd ar iechyd meddwl yn y sioe bob blwyddyn er mwyn rhoi cyfle i bobl rannu profiadau ac i fod yn fwy ymwybodol o anghenion eraill.

"Dwi'n annog cymaint â phosib i ddod," meddai Lilwen.

"Gwrando ar yr hyn fydd yn cael ei ddweud fyddai i fwyaf - yn aml does 'da chi ddim syniad o gwbl am salwch neb arall - mae pawb yn edrych yn iawn .

"Ond mae'r corff yn gallu effeithio ar y meddwl mewn ffordd ryfedd ac yn yr un modd mae'r meddwl yn gallu effeithio ar y corff hefyd.

"Does yna ddim cywilydd cyfaddef gwendid - rhaid i ni ddysgu sylwi ar ein gilydd, fel ein bod yn gallu edrych ar ôl ein gilydd yn well.

"Dwi wedi wynebu cyfnod tywyll iawn ond mi ddes i allan ohono.

"Rhaid peidio cuddio ac esgus fod pethau'n iawn. Does 'na ddim cywilydd."