Protestio yn erbyn 'arafwch' adeiladu ffordd osgoi

Disgrifiad,

Daeth dros 60 o bobl leol at ei gilydd fore Llun i gerdded drwy Lanbedr

  • Cyhoeddwyd

Mae’r Ysgrifennydd dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth yn dweud ei fod yn “deall rhwystredigaeth” cymuned Llanbedr yng Ngwynedd sy’n parhau i alw am ffordd osgoi o amgylch y pentref.

Daeth dros 60 o bobl leol at ei gilydd fore Llun i gerdded yn araf drwy Lanbedr i fynegi eu siom nad yw'r cynllun wedi dwyn ffrwyth eto.

Yn ôl Ken Skates, mae angen “darn o waith” er mwyn ateb pryderon y gymuned ond mae'n mynnu y bydd yn gwrando ar lais y gymuned cyn dod i benderfyniad terfynol.

Dywedodd hefyd y byddai £200,000 yn cael ei wario eleni er mwyn deall anghenion yr ardal lle mae tagfeydd sylweddol yn ystod cyfnodau prysur.

Disgrifiad o’r llun,

Mae trigolion yr ardal yn dweud eu bod nhw am weld newid “go iawn”

Dywedodd Mr Skates: “Os mai ffordd sydd ei hangen, mae’n rhaid sicrhau fod y lôn yn cael ei hadeiladu i’r safon gorau posib er mwyn cydymffurfio gyda’n targedau hinsawdd.”

Yn ystod y tymor gwyliau mae 'na dagfeydd yn yr ardal wrth i lorïau, ceir a charafanau geisio teithio drwy’r pentref ac ar draws pont gul, a hynny'n achosi heriau sylweddol i bobl.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn 2021 na fyddan nhw’n bwrw mlaen â chynllun i godi ffordd osgoi o ganlyniad i dargedau newid hinsawdd.

Ond y llynedd, fe ddywedodd y cyn weinidog trafnidiaeth, Lee Waters, y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffordd osgoi gyda therfyn cyflymder is.

Mae trigolion yr ardal yn dweud nad oes cynllun wedi dwyn ffrwyth ac maen nhw am weld newid “go iawn”.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ei fod yn "ymwybodol o’r heriau mae’r gymuned hon yn eu hwynebu"

'Da ni am gwffio'

Un oedd yn rhan o'r brotest oedd Emsyl Davies, sy'n byw'n lleol.

Mae'n dweud bod y gymuned yn rhwystredig iawn.

"'Da ni’n teimlo nad oes dim yn digwydd a bod o’n araf”, meddai.

“Mae isho stopio’r dadlau a chael rhywbeth yn digwydd a da ni mor frustrated a da ni am gwffio yr holl ffordd”.

Yn ystod yr haf, dywedodd Ms Davies fod y ffordd drwy Lanbedr yn “ddifrifol o wael”.

“Dy'n nhw ddim yn gwybod beth yw 20 milltir yr awr ac ma' nhw’n mynd mor wyllt, dy'n nhw’n malio dim am gefn gwlad.”

'Ddim yn saff rili cerdded efo'r babi'

Yn ôl Delyth Jones, sy’n byw yn Harlech ond yn wreiddiol o Lanbedr, mae’r sefyllfa yn heriol tu hwnt.

“Dwi di bod yn styc mewn traffic o blaen am awr a dwi eisiau bypass... mae’n anodd rŵan gyda babi”, meddai.

“Dydi o ddim yn saff rili cerdded yn y pentref efo’r babi... mae’n beryg, dydi palmant y bont ddim yn ddigon wide i gerdded efo bygi so dwi gorfod mynd ar y ffordd”.

Un o’r rhai sydd wedi bod yn ymgyrchu ydi Goronwy Davies ac mae'n dweud bod “gymaint o addewidion wedi bod ond dim yn digwydd”.

“Mae’n drychinebus, dwi ddim yn gwybod lle mae’r arian yn mynd... rhyw bwyllgorau mashwr.”

Ychwanegodd bod yn rhaid i'r pleidiau gwleidyddol gydweithio er mwyn gwireddu’r cynllun.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd un o'r ymgyrchwyr bod “gymaint o addewidion wedi bod ond dim yn digwydd”

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ei fod yn deall y pryderon.

Dywedodd Ken Skates: “Dwi’n clywed be' sydd gan y gymuned i ddweud a dwi’n deall eu rhwystredigaeth... dwi’n ymwybodol o’r heriau mae’r gymuned hon yn eu hwynebu bob dydd.

“Mae’n rhaid edrych ar y manylion a gweithio ar hynny i weld sut fath o lôn neu ffordd sydd ei hangen ac edrych ar y cydbwysedd rhwng llwybrau teithiau llesol ac unrhyw lôn i fodurwyr.

“Mae’n rhaid i ni bori dros hynny i gyd ac yna bydd modd bwrw ati."

Ychwanegodd bod y Llywodraeth wedi cynnal trafodaethau cadarnhaol gyda Chyngor Gwynedd dros y mater.