Gigiadur Mis Mai 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae'n fis Mai! Ac mae hynny'n golygu bod tymor y gwyliau cerddoriaeth ar ddechrau.

Cynan Evans o dîm Gorwelion sydd wedi bod yn pori drwy pa gigs sy'n digwydd yn ystod y mis gan ddewis y rhai mwyaf cyffrous i ffans a bandiau ac artistiaid Cymraeg.

Mellt a mwy, Victoria Dalston, Llundain – 3/5/24

Ffynhonnell y llun, KLUST

Mae Klust, gwefan gerddoriaeth a sefydlwyd gan Owain Williams yn 2022, yn cynnal eu pumed gig. Ychydig dros flwyddyn ers eu gig cyntaf, mae criw Klust yn dychwelyd i’r Victoria Dalston gyda lineup hollol newydd i’r gynulleidfa yn Llundain.

Mellt, y triawd o Aberystwyth a chyn-enillwyr Albym Cymraeg y Flwyddyn (2018) yw’r prif grŵp i berfformio. Rhyddhaodd Mellt eu hail albym ‘Dim Dwywaith’ y llynedd ac fe'i enwyd yn un o 10 albym Cymraeg gorau 2023 gan gylchgrawn Y Selar.

Disgrifiad,

Sesiwn Gorwelion: Mellt ar raglen BBC Radio Wales Huw Stephens

Yn cefnogi Mellt yn y Dalston, mae enillwyr y Wobr Triskel (rhan o'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig), Half Happy, a’r ddeuawd bop newydd Siula. Mae’r ddau grŵp yma hefyd wedi gwneud sesiynau gyda Gorwelion. Hefyd yn cefnogi mae Melfed Melys, sef prosiect cyffrous newydd Gruff Jones o’r band Sŵnami.

Melda Lois, The Sustainable Studio, Caerdydd – 7/5/24

Ffynhonnell y llun, melda lois

Daeth Melda Lois i'r amlygrwydd fel cantores-gyfansoddwraig fedrus pan gystadleuodd gyda dwy gân yng Nghân i Gymru, a hynny yn yr un flwyddyn!

Nawr, dair blynedd yn ddiweddarach mae Melda yn paratoi i ryddhau ei EP gyntaf, Symbiosis. Bydd hi'n lansio'r EP yn The Sustainable Studio yng Nghaerdydd gyda pherfformiad a sgwrs dan arweiniad Elan Evans.

Mewn post Instagram yn cyhoeddi'r EP, dywedodd,

"Heb fod rhy soppy, mai di cymryd blynyddoedd i fi gyrraedd pwynt yn fy mywyd lle dwi ddigon cyfforddus yn rhannu nghaneuon hefo bobol, ac i gredu bo' be dwi'n neud werth ei rannu."

Ychwanegodd mewn post arall ei bod yn "Gaddo fydd hon yn noson lysh!"

FOCUS Wales, Wrecsam – 9/5/24-11/5/24

Mae FOCUS Wales wedi bod yn ŵyl flynyddol yn Wrecsam ers 2011, ac mae hi’n dal i dyfu bob blwyddyn. Bydd yr ŵyl yn croesawu dros 20,000 o bobl i’r dref er mwyn dathlu ac arddangos y dalent sydd ar gael yn y diwydiant creadigol yng Nghymru a thu hwnt.

Ffynhonnell y llun, focus wales

Caiff FOCUS ei hadnabod fel gŵyl sy'n arddangos yr artistiaid gorau ar eu llwyfannau, ac mae’r ŵyl eleni yn glynu at y traddodiad yma. Eleni bydd perfformiadau gan The Royston Club, Aleighcia Scott, Islet, a dros 200 o artistiaid gwahanol. Hefyd bydd talent o dramor yn ymddangos, fel CHALK o’r Iwerddon a Deerhoof o’r Unol Daleithiau.

Does unlle’n debyg i Wrecsam yn ystod FOCUS Wales.

Taith Dydd Miwsig Cymru

Ffynhonnell y llun, clwb ifor bach
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dydd Miwsig Cymru yn mynd ar daith

Nod Dydd Miwsig Cymru yw hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, ac eleni mae Clwb Ifor Bach yn cyflwyno Taith Dydd Miwsig Cymru 2024.

Ar y daith bydd llawer o'r artistiaid Cymraeg mwyaf poblogaidd yn perfformio a hynny ledled Cymru . Yn ogystal â hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, bwriad y daith yw annog pobl ifanc i fynd i gigs lleol.

Felly edrychwch i weld os oes gig yn digwydd yn eich ardal chi:

03.05.24: Adwaith + Ffenest @ Cŵps, Aberystwyth

03.05.24: Fleur de Lys + Ciwb @ Galeri, Caernarfon

10.05.24: Y Cledrau + Dadleoli @ Clwb Ifor Bach, Caerdydd

11.05.24: Morgan Elwy + Band Bacana @ Cell B, Blaenau Ffestiniog

17.05.24: Tara Bandito + Ynys @ Bunkhouse, Abertawe

18.05.24: Lloyd a Dom + Mali Hâf @ Le Pub, Casnewydd

24.05.25: Dafydd Owain + Cyn Cwsg + Lila Zing @ Tŷ Pawb, Wrecsam

25.05.25: Pys Melyn + Pasta Hull @ Cwrw, Caerfyrddin

Gŵyl In it Together, Parc Margam, Port Talbot – 24/5/24-26/4/24

Ffynhonnell y llun, in it together

In It Together yw gŵyl gerddoriaeth fwyaf Cymru. Mae’r ŵyl yn ddathliad o gymuned, amrywiaeth a chynhwysiant.

Bydd rhai o artistiaid mwyaf Prydain yn cael eu croesawu i Barc Margam, gan gynnwys Rag ‘n’ Bone Man, Sugababes, Dizzee Rascal a Sam Ryder.

Mae’r ŵyl hefyd yn rhoi platfform i fandiau ac artistiaid lleol Cymru. Bydd dros 50 o artistiaid gorau Cymru yn ymddangos yn yr ŵyl. Yn eu plith, bydd artistiaid fel Gillie. Cara Hammond, Eleri, ac artistiaid hip-hop fel Ogun a Lemfreck.

The Great Escape, Brighton – 15/5/24-18/5/24

Ffynhonnell y llun, AMRYWIOL
Disgrifiad o’r llun,

Bydd llwyfan i dalent Cymreig yng ngŵyl The Great Escape

Mae Gorwelion, mewn cydweithrediad â Chlwb Ifor Bach, Cymru Greadigol a LŴP, yn cyflwyno ‘Showcase Cymru’ fel rhan o ŵyl The Great Escape.

Mae’r lineyp ar gyfer y llwyfan yma wedi'i ddewis er mwyn dangos amrywiaeth talent artistiaid o Gymru.

Bydd ‘Showcase Cymru’ yn digwydd ar yr 16eg a 17eg o Fai.

Mewn mannau eraill yn yr ŵyl bydd Hana Lili a Ben Ellis yn perfformio, felly mae llawer o gynrychiolaeth Gymreig yn yr ŵyl.

Razkid, Tiny Rebel, Caerdydd – 17/5/24

Ffynhonnell y llun, Razkid

Bydd Razkid, cerddor rap a grime o Gaerdydd, yn rhyddhau ei brosiect hir-ddisgwyliedig ‘Welsh Weather’ ym mis Mai. Bydd yn nodi rhyddhau'r prosiect gyda gig yn Tiny Rebel, Caerdydd ar Fai'r 17eg.

Un o’r caneuon sydd ar yr EP yw ‘Ragz’, cân sydd yn trafod a dathlu’r cymhlethdodau sy’n dod gyda hunaniaeth Gymreig

Yn cefnogi Razkid bydd Noah Bouchard a Benny Flowz, dau artist pwysig yn sîn hip hop Cymru.

Slate, Clwb Ifor Bach – 31/5/24

Ffynhonnell y llun, Slate

Ar ddiwrnod ola'r mis bydd gig lansio EP y band Slate, Deathless.

Dim ond ers cwpl o flynyddoedd mae Slate ar y sîn, ond mae llawer o bobl yn edrych ymlaen at EP y band o Gaerdydd. Yn eu plith mae'r cyflwynydd Huw Stephens sydd wedi chwarae trac oddi ar yr EP ar ei raglen ar BBC 6Music.

Bydd tipyn o gyffro yn Clwb Ifor Bach yn y gig yma.