Diffyg gofal erthylu yn 'frawychus' ac yn peri 'gofid'

Prawf beichiogrwyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae modd cael erthyliad hyd at 24 wythnos o feichiogrwydd yng Nghymru, yr Alban a Lloegr

  • Cyhoeddwyd

“Ro' ni wrth fy modd yn feichiog - doeddwn i byth yn disgwyl dod â’r beichiogrwydd i ben - roedd yn drawmatig iawn dod i’r canlyniad yna.”

Gwnaeth Katie a’i phartner y penderfyniad i erthylu ar ôl cael gwybod na fyddai ei babi’n debygol o oroesi, neu’n dioddef bywyd “anodd a phoenus”.

Nid oedd y driniaeth yr oedd Katie’n ffafrio ar gael iddi yng Nghymru a bu’n rhaid iddi deithio dros y ffin.

Fe gafodd lawdriniaeth o dan anesthetig cyffredinol yn Lloegr er mwyn arbed “llawer iawn o drawma, poen a dioddefaint”.

Mae menywod yng Nghymru sydd dros 18 wythnos yn feichiog yn cael eu cyfeirio at glinig cynghori gan fwyaf, sy'n eu cyfeirio i Loegr i gael erthyliadau.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod disgwyl i fyrddau iechyd “sicrhau bod cymorth ar gael yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ystod o ddewisiadau atgenhedlu, gan gynnwys erthyliad”.

'Brawychus' bod erthyliad ddim ar gael

Roedd Katie a’i phartner wrth eu boddau yn darganfod ei bod yn feichiog gyda’u plentyn cyntaf y llynedd.

Ond wedi sgan fe ddaeth i’r amlwg bod rhywbeth o’i le, ac ar ôl aros am wythnosau am brofion a chanlyniadau, fe gafodd y pâr y newyddion gwaetha’ un.

Gan bod Katie, 35 oed o Gaerdydd, wedi gorfod aros wythnosau am ganlyniadau profion roedd dros 17 wythnos yn feichiog.

Petai'n cael erthyliad yng Nghymru, ei hunig ddewis oedd geni ei babi ar ward wedi’i hamgylchynu gan famau a’u plant newydd-anedig.

Disgrifiad o’r llun,

Petai Katie yn cael erthyliad yng Nghymru, yr unig opsiwn oedd geni'r babi ar ward gyda mamau eraill

Ar ôl gwneud ymholiadau, cysylltodd â chlinig gwasanaeth cynghori beichiogrwydd yng Nghaerdydd (BPAS).

Clywodd y byddai’n gorfod teithio i Loegr i gael erthyliad llawfeddygol a hynny o dan anesthetig cyffredinol.

“Roedd cael gwybod nad oedd hynny’n bosib i fi yng Nghymru, i gael gwybod nad oedd y gofal yr oeddwn ei angen ar gael yn fy ngwlad enedigol yn frawychus ac yn peri gofid,” meddai.

Teithiodd y cwpl i Bournemouth a gwario dros £1,000 ar lety ar ôl gorfod aros pedwar diwrnod yno er mwyn casglu llwch eu babi.

“Ro’n i eisiau bod gyda Mam, ro’n i eisiau bod gyda fy nheulu ac yn fy nghartref.

“Roedden ni ar dân i ddod adre' a galaru,” ychwanegodd.

Dywedodd Katie ei bod wedi “siomi” gyda’r gwasanaeth iechyd ac mae’n poeni nad yw llais rhai menywod yn cael eu clywed.

“Rwy’n torri fy nghalon ein bod ni wedi colli ein babi ond rydyn ni’n edrych ymlaen, rwy’n gobeithio cael babi arall rywbryd, a’r unig reswm mae hynny’n bosib yw fy mod wedi gallu cael y driniaeth oedd yn llai trawmatig i fi,” ychwanegodd.

Beth yw'r drefn yng Nghymru?

Yn gyfreithlon, mae modd cael erthyliad hyd at 24 wythnos yng Nghymru, yr Alban a Lloegr wedi cymeradwyaeth gan ddau feddyg.

Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru’n cyfeirio menywod sydd dros 12 wythnos yn feichiog i ganolfan BPAS.

Yno mae modd gwneud erthyliadau hyd at 18 wythnos gan ddefnyddio tawelyddion, ond mae’n rhaid i’r claf fod yn ymwybodol.

Yng Nghymru, dywedodd y rhan fwyaf o fyrddau iechyd eu bod yn cyfeirio menywod 18 wythnos neu fwy at BPAS am driniaeth yn Lloegr.

Ond mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynnig triniaeth yn Ysbyty Glangwili i wragedd sydd 19 wythnos a 6 diwrnod.

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 100 o fenywod o ardal Gwent, Caerdydd ac Abertawe yn cael eu cyfeirio i Loegr yn flynyddol am erthyliad, medd Viv Rose o BPAS

Mae Viv Rose wedi bod yn rhedeg clinig BPAS yng Nghaerdydd am bron i 20 mlynedd.

Mae’n “erchyll” dweud wrth fenywod eu bod nhw’n gorfod teithio dros y ffin i gael triniaeth, meddai.

“Mae’n ofnadwy bod pob Cymraes sydd angen erthyliad ar ôl 18 wythnos… maen rhaid i ni eu danfon i un o’n clinigau arbenigol ac maen nhw fel arfer yn mynd i Richmond yn Llundain,” meddai.

Mae’r Women’s Equality Party yng Nghymru wedi lansio deiseb yn galw ar y gweinidog iechyd i flaenoriaethu gwasanaethau.

Dywedodd Hanna Andersen, cyd-arweinydd y grŵp fod llawer o “stigma” o amgylch erthylu.

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o bob tair menyw yn cael erthyliad yn ystod ei hoes, medd Hanna Andersen o'r Women’s Equality Party

Yn ogystal, meddai, mewn sawl ardal nid oes gofal erthyliad y tu hwnt i naw wythnos o feichiogrwydd ac ar ôl 18 wythnos nid oes gofal ar gael o gwbl yng Nghymru.

Dywedodd Hanna bod un o bob tair menyw yn cael erthyliad yn ystod ei hoes: “Mae llawer o lefydd yng Nghymru lle does dim abortion access o gwbl, mae tele-medical abortion yn y cartef yn helpu ond mae menywod dal yn teithio i Loegr.

“Gall hyn olygu teithiau hir a drud, weithiau y clinig agosaf yw Llundain neu Lerpwl. Mae hyn yn waeth i fenywod tlawd, menywod anabl a’r rhai mewn cymunedau gwledig,” meddai Hanna.

“Mae’r Women’s Equality Party am weld gofal erthylu ar gael mewn lleoliadau lleol, lle’n bosib ac addewid i dalu costau i fenwyod sy’n gorfod teithio oddi cartref.”

'Penodi arweinydd newydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i wella gwasanaethau iechyd i fenywod a merched.

“Mae Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod wedi ei phenodi a bydd yn arwain datblygiad Cynllun Iechyd Menywod o fewn y gwasanaeth iechyd.”