Atyniad newydd Stadiwm Principality

Disgrifiad,

Atyniad newydd Stadiwm y Principality

  • Cyhoeddwyd

Bydd Stadiwm y Principality yn agor atyniad cyffrous newydd ar 29 Ebrill wedi gwaith 15 mlynedd o gynllunio.

Mae Scale yn caniatau i ymwelwyr â'r stadiwm gerdded ar hyd to'r stadiwm, gwneud 'zip line' o un pen y stadiwm i'r llall ac abseilio'n ôl i'r ddaear!

Disgrifiad o’r llun,

Troy Williams

Mae Troy Williams, 23 o Dreharris, sy'n ymladdwr tân ar alw wedi dechrau gweithio yno'n arwain y cyhoedd drwy'r antur. Eglurodd ef "Roedd [y cyfle hwn] yn agor ac o'n i'n chwilio am job arall i 'neud on the side. Dw i'n hoffi bod tu fas, so hyn yw beth fi'n gwneud nawr."

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Troy yn paratoi'r offer ar gyfer Y Gwyll/The Drop

Dywedodd Troy nad oedd arno angen cymhwyster diogelwch ond bu rhaid iddo fynd ar hyfforddiant am bythefnos, ymarfer a chadw ar ben yr hyfforddiant ac yna sefyll prawf.

Mae'r antur sy'n cael ei rhannu'n dri rhan sef, Y Ddringfa (Climb), Y Wifren Wib (Zip Wire) a'r Gwyll (The Drop) ac yn cyrraedd uchder o 60m.

"Pan ti lan 'na," eglura Troy, "ti'n gallu gweld y pitch lle mae Cymru'n chwarae, Castell Caerdydd, Bannau Brycheiniog, yr afon Taf a Bae Caerdydd a llawer mwy.

Fy hoff beth i yw bod fyny 'na. Ti'n gallu gweld popeth. Ti'n gallu siarad gyda pobl eraill o places eraill."

Felly, beth sy'n digwydd pan ti'n cyrraedd Scale?

Ffynhonnell y llun, WRU

"Pan ti'n cyrraedd ti'n mynd i gael dy kitio i fyny a wedyn ti'n mynd lawr i basecamp, ac ar ôl cyrraedd y basecamp ti'n mynd lan y staer i'r to.

"I unrhyw un sydd ofn [uchder] fydda i'n siarad â nhw a dweud 'peidiwch â phoeni, peidiwch a meddwl amdano gormod, a jest cael hwyl!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Robert Griffin yn gweithio ar atyniad newydd Stadiwm Principality, Scale

Un arall sy'n gweithio yno yw Robert Griffin, 66, o Fynwent y Crynwyr ger Treharris. Mae wedi ymddeol ond yn gweithio yn Scale yn rhan amser. Dywedodd:

"Ro'n i'n edrych am rhywbeth anturus yn yr awyr agored, gweithio gyda grwpiau twrisiaeth."

"Dw i'n hoffi gwneud pethau yn yr awyr agored a nes i sôn [wrth y cwmni] bod fi wedi ymddeol. Dw i'n cerdded y ci bob dydd, dw i'n chwarae golff hefyd ond ro'n i'n chwilio am rhywbeth arall hefyd, sialens arall.

Ac felly dyma benderfynu ymuno â'r tîm yn Stadiwm Principality: " Dwi'n 66 felly dw i'n un o'r hen fois gyda Scale. Dw i'n gweithio gyda myfyrwyr... so mae'n cadw fi'n ffit!

Mae'n gyfle grêt, ac mae'n gyfle hefyd i hysbysebu Caerdydd hefyd."

Sut mae delio â phobl sydd ag ofn?

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llwybr o amgylch y Stadiwm ar uchder o 50m

"O safbwynt pobl sydd ag ofn, ni wedi cael hyfforddiant fel staff fan hyn. Ni'n teimlo'n eitha' hyderus. Mae technegau i'w helpu nhw o safbwynt iaith a bod yn positif iawn. If that fails, mae 'na ffordd arall i'w helpu nhw hefyd."

Pynciau Cysylltiedig