Rhyddhau llanc, 15, a gafodd ei arestio yn Cross Hands

  • Cyhoeddwyd
heddluFfynhonnell y llun, Matthew Horwood

Mae'r llanc 15 oed a gafodd ei arestio yn Cross Hands yn ystod oriau mân fore Iau wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Roedd e wedi cael ei holi yn sgil honiadau cysylltiedig â negeseuon bygythiol i Ysgol Dyffryn Aman.

Mae e wedi cael ei ryddhau ar yr amod nad yw'n mynd i unrhyw sefydliad addysgol nag i ardaloedd Dyffryn Aman na Chwm Gwendraeth.

Mae ei amodau mechnïaeth hefyd yn cynnwys cyrffyw a pheidio cael mynediad i gyfryngau cymdeithasol heb arolygiaeth.

Mae'r ymchwiliad i'r honiadau yn parhau ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu sgrinluniau perthnasol o'r cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â nhw.

Pynciau Cysylltiedig