'Peidiwch anwybyddu profion ceg y groth, fel wnes i'

Elin SionFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Elin Siôn gael llawdriniaeth hysterectomi pan oedd hi'n 39

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Fethesda wedi annog merched i fynd am brawf ceg y croth wedi iddi hi ei hun anwybyddu gwahoddiadau am flynyddoedd.

Mae Elin Siôn, 40, newydd gael llawdriniaeth fawr i dynnu ei chroth, ceg y groth a thiwbiau ffalopaidd wedi iddi gael rhywfaint o boenau cyn y Nadolig.

Roedd arbenigwyr yn meddwl mai haint ar y dŵr oedd ganddi i ddechrau ond yna wedi profion pellach darganfuwyd bod ceg ei chroth yn llawn o gelloedd anarferol - y newid sy'n digwydd cyn i ganser ddatblygu.

Ers y profiad, a oedd yn sioc anferthol, dywed ei bod yn hollbwysig i ferched fynd am brofion ceg y groth wedi iddyn nhw gael gwahoddiad.

Mae merched rhwng 25 a 64 yn cael eu gwahodd am brofion bob pum mlynedd.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, dolen allanol mae tua 160 o achosion newydd o ganser ceg y groth yng Nghymru bob blwyddyn.

Dyma'r canser mwyaf cyffredin mewn menywod o dan 35 oed.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Elin yn ymlacio wedi'r llawdriniaeth tra bod ei phartner Siôn yn mynd â Roxy am dro

Wrth siarad ar raglen Dros Ginio dywedodd Elin Siôn nad oedd hi "erioed wedi gwerthfawrogi pa mor bwysig" oedd y profion.

"Do'dd o ddim fel bo fi ofn na dim byd - o'n i just yn rhoi nhw i un ochr a deud 'na'i neud o rhywbryd eto.

"Dwi'm isio gwario diwrnod off fi o gwaith yn gorfod mynd i 'neud rhywbeth fel hyn.

"O'n i'n meddwl pe buasai 'na rhywbeth yn wrong y byddwn i'n gwybod amdano fo.

"Wel, mi a'th rhywbeth yn wrong ac mi o'n i'n gwybod amdano wedyn.

"O'dd y newidiadau o'dd gynnai i wedi datblygu y gwaethaf allen nhw fod heb fynd yn ganser.

"Petawn i wedi mynd am y smears pan ges i'r gwahoddiadau flynyddoedd yn ôl gallwn fod wedi osgoi llawdriniaeth fawr o bosib."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Elin a'i phartner Siôn yn Ne Affrica wedi iddi gael gwybod ei bod angen llawdriniaeth

Mae'n dweud na allith orbwysleisio pa mor bwysig yw'r profion, ac nad yw newid yn y celloedd yn dangos unrhyw symptomau.

"Dwi just ddim isio gweld neb arall yn y sefyllfa lle ydw i. Dwi'n reit ffodus dwi'm isio plant ond 'se lot o ferched yn fy sefyllfa i wedi bod â phenderfyniad lot anoddach.

"Yn amlwg dwi wedi bod yn ffodus - dim ond pre-cancer oedd o ac wedi'r llawdriniaeth dwi'm yn gorfod mynd am driniaeth arall.

"Dwi'm isio i neb arall ffindio'u hunain yn y sefyllfa lle dwi wedi bod - llawdriniaeth fawr, gorfod cael amser i ffwrdd o'r gwaith a bod yn sâl.

"Fues i'n ffodus bo' fi wedi cael symptomau - ond dyw hynna ddim yn digwydd fel arfer.

"Heb y symptomau dwi ddim yn gwybod pryd fydden i wedi cael fy smear cynta'.

"Ewch am y profion. Cyn gynted y mae celloedd anarferol yn cael eu hadnabod, y gorau really."

Pynciau Cysylltiedig