Canser y croen yr AS Chris Bryant wedi dychwelyd

Chris BryantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Chris Bryant ei fod yn awyddus i rannu ei stori fel rhan o fis ymwybyddiaeth canser y croen

  • Cyhoeddwyd

Mae Aelod Seneddol Rhondda, Chris Bryant, wedi datgelu ei fod yn derbyn imiwnotherapi ar ôl i'w ganser y croen ddychwelyd.

Cafodd y gwleidydd Llafur driniaeth ar gyfer canser y croen bum mlynedd yn ôl, ond fis Ionawr daeth doctoriaid o hyd i felonoma ar ei ysgyfaint a'i dynnu oddi yno.

Dywedodd Syr Chris fod y driniaeth yn un "anodd" ond ei fod yn awyddus i rannu ei stori er mwyn sicrhau fod eraill yn diogelu eu hunain o'r haul ac i fynd i gael unrhyw fannau du (moles) ar y croen wedi gwirio.

Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, fe esboniodd fod ei ŵr wedi sylwi ar "mole gwahanol" ar gefn ei ben bum mlynedd yn ôl, ac aeth at y doctor.

Dywedodd i'r doctoriaid ddweud bryd hynny mai ond 40% siawns o fyw blwyddyn oedd ganddo, ond yn dilyn triniaeth fe wnaeth hyn wella yn syfrdanol, ac fe drechodd y canser.

Ers hynny mae wedi derbyn sgan pob chwe mis, a phob un wedi dod yn ôl yn glir, nes yr un yn gynharach eleni.

Wrth siarad am ei ddiagnosis, dywedodd: "Yn anffodus roedd y sgan olaf fod ym mis Ionawr ac ro'n i'n helpu gydag isetholiad Kingswood pan wnaeth y doctor fy ffonio ar fy mhen-blwydd gan ddweud 'dwi'n sori i ddweud bod y sgan diweddaraf yn dangos rhywbeth ar dy ysgyfaint'."

"Pythefnos yn ddiweddarach roeddwn mewn gwely yn yr ysbyty, fe wnaethon nhw roi robot yn fy ysgyfaint, torri darn ohono, ac yna dod i gasgliad mai melonoma oedd o.

"Yn y gorffennol fyse hynny wedi golygu'r diwedd i mi, ond diolch i'r imiwnotherapi dwi'n dilyn, mae fy siawns o fod yn rhydd o ganser ymhen 10, 15 mlynedd, yn hynod o dda.

"Diolch byth am yr holl arloesi y mae'r doctoriaid wedi cyflwyno. Mae gen i obaith o fod yn rhydd o ganser am weddill fy oes."

Awyddus i godi ymwybyddiaeth

Dywedodd yr AS ei fod yn awyddus i rannu ei stori fel rhan o fis ymwybyddiaeth canser y croen.

"Plîs, plîs, plîs cymrwch ganser y croen o ddifri'. Os ydych yn poeni ewch at y doctor," meddai.

"Plîs gwarchodwch eich hun rhag yr haul. Mae'r holl niwed o'r haul yn gallu cael ei osgoi, felly gorchuddiwch eich hun, defnyddiwch eli haul cryf a gwnewch yn siŵr fod plant yn cael eu gwarchod rhag yr haul.

"Rydym yn gallu achub ein hunain o ganser y croen."

Pynciau Cysylltiedig