Corff dyn wedi ei ddarganfod mewn sgip - cwest

SgipFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Vitalij Maceljuch ei ddarganfod mewn sgip yng nghanolfan Thorncliffe yn Ewlo

  • Cyhoeddwyd

Clywodd cwest fod corff dyn wedi ei ddarganfod gan weithwyr wrth iddyn nhw wagio sgip mewn canolfan ailgylchu yn Sir y Fflint.

Fe ddaeth hi i'r amlwg yn ddiweddarach mai Vitalij Maceljuch, 36, o'r Wcráin oedd y dyn fu farw.

Roedd ganddo anafiadau i'w ben a'i asgwrn cefn.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud nad oedd amgylchiadau amheus i'r farwolaeth.

Mewn gwrandawiad byr yn Rhuthun, dywedodd y crwner John Gittins bod gweithwyr yng nghanolfan Thorncliffe yn Ewlo wedi dod o hyd i gorff Mr Maceljuch wrth iddyn nhw wagio eitemau o sgip i lori fin ar 10 Mai.

Dywedodd bod "ymchwiliadau wedi dechrau ac yn parhau".

Dywedodd y patholegydd Dr Jonathan Metcalfe fod gan Mr Maceljuch anafiadau mawr i'w ben a'i asgwrn cefn, a'r gred ydy bod hynny wedi digwydd wrth i'w gorff gael ei symud o'r sgip i'r lori.

Cafodd y cwest ei ohirio a bydd gwrandawiad llawn ar ddyddiad sydd eto i'w bennu.