Leighton James: Cyn-asgellwr Cymru ac Abertawe wedi marw

Leighton James
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Leighton James 54 cap i Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Leighton James, cyn asgellwr Cymru a chwaraeodd dros 600 o gemau yng Nghynghrair Bêl-droed Lloegr, wedi marw yn 71 oed.

Cafodd James 54 cap dros Gymru a chwaraeodd 399 o gemau i Burnley dros dri cyfnod a threuliodd ddwy flynedd yn Derby County.

Fe wnaeth hefyd gynrychioli Abertawe, Sunderland, Bury a Chasnewydd mewn gyrfa chwarae 19 mlynedd cyn troi at reoli gyda sawl clwb.

Dywedodd Burnley ac Abertawe eu bod "wedi tristau" gyda marwolaeth James.

Dywedodd Abertawe fod James "yn cael ei ystyried yn eang fel un o chwaraewyr gorau'r Elyrch".

Sgoriodd 10 gôl i Gymru, gan wneud ei ymddangosiad olaf yn 1983.

Ar ôl ei yrfa chwarae aeth ymlaen i reoli nifer o glybiau tu allan i'r gynghrair yng Nghymru a Lloegr, y mwyaf amlwg oedd Accrington Stanley yn 1997-1998.

Yng Nghymru fe wnaeth reoli Llanelli, Aberaman a Hwlffordd.