Cwest: Mam ifanc yn gorwedd ar ffordd adeg gwrthdrawiad

Anna Llywelyn Roberts gyda'i theuluFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Anna Roberts gyda'i phartner Iwan a'u merch Erin

  • Cyhoeddwyd

Mae crwner wedi dod i'r casgliad fod mam ifanc o Bwllheli, Gwynedd yn gorwedd ar y ffordd pan gafodd ei tharo gan gar.

Bu farw Anna Llewelyn Roberts, 27, yn dilyn gwrthdrawiad ar lôn yr A499 ger y Ffôr, yn oriau mân y bore ar 20 Awst, 2022.

Mewn cwest yng Nghaernarfon ddydd Gwener, dywedodd y crwner fod Anna Llywelyn Roberts wedi marw o ganlyniad i "anafiadau lluosog yn dilyn gwrthdrawiad ar y ffordd".

Mewn datganiad, dywedodd mam Anna y bydd ei merch yn "cael ei cholli'n fawr".

Roedd Anna wedi bod allan gyda ffrindiau mewn clwb nos ym Mhwllheli cyn y gwrthdrawiad.

Fe ddangosodd camerâu cylch cyfyng hi'n gadael y clwb ychydig wedi 01:00 i'r man tacsis tu allan.

Roedd y camerâu'n dangos Ms Roberts yn gadael y man tacsis wedyn am 01:35 wrth iddi gerdded am gyfeiriad Y Ffôr.

Fe ddigwyddiodd y gwrthdrawiad angheuol tua 02:16 ar ffordd yr A499.

'Roedd hi'n rhy hwyr'

David Wyn Jones oedd yn gyrru'r car a darodd Ms Roberts fis Awst 2022, ac roedd yn gyrru i'w gartref yn Llanbedrog ar ôl bod yn Sir Gaerhirfryn yn cludo ei fab.

Dywedodd Mr Jones y byddai'n beth arferol iddo gyrraedd ei gartref yn oriau mân y bore ac nad oedd wedi blino adeg y gwrthdrawiad.

Roedd Mr Jones yn gyrru car Ford Focus pan ddigwyddodd y ddamwain.

Disgrifiodd y daith cyn y gwrthdrawiad gan ddweud: "Roedd hi'n daith arferol, ambell i fan lle'r oedd yna draffig, ambell beth yn achosi oedi, ond fel arall yn daith arferol.

"Wrth ddod rownd y gornel, pasio'r coed, nes i sylweddoli fod 'na ryw fath o gysgod, ond cyn i mi sylweddoli beth oedd o, roedd hi'n rhy hwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cwest ei gynnal yng Nghaernarfon

Dywedodd Ian Thompson, Ymchwilydd Gwrthdrawiadau Fforensig Heddlu'r Gogledd, fod Mr Jones yn teithio ar gyflymder cyfartalog o 53mya eiliadau cyn y gwrthdrawiad.

Y terfyn cyflymder yn y man lle ddigwyddodd y gwrthdrawiad ydi 40mya.

Fe ddangosodd adroddiad yr heddlu nad oedd goleuadau car Mr Jones ar y gosodiad llawn (full beam) ar y pryd.

Roedd Mr Jones yn meddwl y byddai wedi bod yn teithio gyda'r goleuadau ar eu cryfaf ar y pryd gan nad oedd unrhyw gerbydau eraill ar y ffordd ac mai wedi'r gwrthdrawiad y newidiodd cryfder y goleuadau (dipped beam).

Dywedodd Mr Thompson: "Pe byddai Mr Jones wedi bod yn teithio ar gyflymder o 40mya gyda'r goleuadau llawn ymlaen ar ei gar, mi fyddai wedi parhau i fod yn sefyllfa anodd iawn iddo stopio mewn pryd."

Fe ddangosodd yr archwiliad post mortem nad oedd Ms Roberts yn sefyll adeg y ddamwain, a'i bod yn gorwedd ar y ffordd.

Roedd hi hefyd yn gwisgo dillad tywyll ar y pryd.

Dangosodd yr archwiliad hefyd nad oedd unrhyw dystiolaeth o gyffuriau yn ei system ond fod ganddi lefel alcohol 193mg/l ar yr adeg fyddai wedi gallu arwain ati i fod yn ansefydlog wrth gerdded.

'Disglair a chariadus'

Mewn datganiad, dywedodd Haf Roberts, mam Anna, bod gan ei merch lawer o gynlluniau i'w hun a'i theulu ac y bydd hi'n "cael ei cholli'n fawr".

Roedd Anna yn gyn-ddisgybl Ysgol Llangybi cyn dilyn cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda'r gobaith o fod yn nyrs.

Fe benderfynodd wedyn nad oedd gyrfa nyrsio yn apelio ati mwyach, ac fe ymgeisiodd am swydd gyda chwmni Rondo Media lle bu'n gweithio am saith mlynedd.

Dywedodd Ms Roberts fod cydweithwyr ei merch "fel teulu iddi".

Mewn datganiad pellach ar ddiwedd y cwest, dywedodd teulu Anna bod eu bywydau “wedi chwalu" yn dilyn ei marwolaeth 20 mis yn ôl.

"Nid oes modd disgrifio’r golled, y galar na’r hiraeth," maen nhw'n dweud. "Mae dysgu byw hebddi’n hunllefus. Diolch i deulu a ffrindiau sydd wedi ac yn parhau i’n cefnogi a’n cynnal.”

Dywedodd Shane Smith, y cyfreithiwr o gwmni Slater and Gordon sy'n cynrychioli'r teulu bod "ganddynt hawl i atebion ac mae angen dysgu gwersi" yn dilyn trawma "difrifol [er na] ddaw canlyniad heddiw ddim ag Anna'n ôl".

Fe gydymdeimlodd Crwner Gogledd-Orllewin Cymru, Kate Robertson, â theulu Ms Roberts gan ddweud ei bod hi'n amlwg yn "ferch ifanc ddisglair a chariadus, ac roedd ei theulu yn amlwg yn golygu popeth iddi".

Pynciau Cysylltiedig