Dathlu yn Ystrad Mynach wedi buddugoliaeth Lauren Price

  • Cyhoeddwyd
Y dorf yn Ystrad Mynach yn croesawu Lauren Price ddydd Sul
Disgrifiad o’r llun,

Y dorf yn Ystrad Mynach yn croesawu Lauren Price ddydd Sul

Roedd yna groeso twymgalon i Lauren Price ddydd Sul yn ei chartref yn Ystrad Mynach - ddiwrnod wedi ei buddugoliaeth hanesyddol.

Roedd y stryd y tu allan i gartef ei mam-gu yn orlawn gan bobl a oedd am eu llongyfarch.

Disgrifiad o’r llun,

'Rwy' ar ben y byd,' medd Linda Jones, mam-gu Lauren Price

Cafodd Lauren ei magu gan ei mam-gu, Linda Jones, a'i diweddar dad-cu, Derek.

"Rwy' i ar ben y byd heddiw," meddai ei mam-gu, "mae'n haeddu bob eiliad o'i llwyddiant."

Wrth i'r dorf gasglu o flaen ei chartref roedd Linda Jones yn paratoi cinio - 'soch mewn sach' ar gais Lauren.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ffion Perry wedi bod yn yr ornest nos Sadwrn

Roedd Ffion Perry, sy'n ffrind i Lauren ers pan oedd hi'n fychan, wedi bod yn yr ornest nos Sadwrn a dywedodd bod yr "awyrgylch yn anhygoel" a doedd gen i ddim amheuaeth y byddai hi'n ennill, meddai.

Gwylio o adref gyda ffrindiau oedd Jess Jenkins a dywedodd "ei bod wir wedi dangos i ni Gymry sut oedd cyflawni'r gamp. Ni'n falch iawn ohoni ac mae pawb yn Ystrad hefyd".

Wrth gyrraedd Stryd Penallta, lle mae blwch ffôn aur i gydnabod ei llwyddiant yn y Gemau Olympaidd, dywedodd Ms Price bod gweld y fath dorf yn ei chroesawu yn "anhygoel".

"I fod yn onest doeddwn i ddim yn disgwyl gweld torf fel hyn heddiw. Does dim byd fel ni gefnogwyr Cymreig.

"Ac fe fydd y profiad o gerdded allan yn yr arena neithiwr yn aros gyda fi am byth - dyma un o nosweithiau gorau fy ngyrfa."

Cerdded allan i Yma o Hyd

Fe gerddodd Lauren Price allan am y tro cyntaf i gyfeiliant Dafydd Iwan yn canu 'Yma o Hyd'.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid cael llofnod a llun wedi'r fuddugoliaeth hanesyddol

"Dwi ddim yn siarad Cymraeg," meddai, "ond pan wnes i wrando ar y gân yna rai wythnosau yn ôl roeddwn i'n groen gŵydd i gyd.

"Ro'n yn meddwl y byddai cerdded allan i hynna gyda'r cefnogwyr Cymreig yn canu yn wallgof a dyna ddigwyddodd.

"Rwy'n meddwl bod sawl gornest arall i ddod yng Nghymru. Dwi'n llawn cyffro am y dyfodol."

Un o'r rhai oedd yn ei chefnogi oedd ei phartner a'i chyd-focswraig, Karriss Artingstall.

Wrth iddi ac eraill geisio gael y lluniau gorau ohoni dywedodd bod gweld y dorf a'r gefnogaeth yn anhygoel. Mae'r ffordd y mae'r Cymry yn ei chefnogi yn anghredadwy.

"Mae hi'n gwella o un ornest i'r llall - dyw hi ddim wedi colli rownd ac mae mwy i ddod ganddi."

Mae gan Karriss ornest ymhen rhai wythnosau ac ar ôl hynna efallai y bydd hi'n amser am seibiant, meddai.

"Ry'n ni'n dwy yn 30 eleni - felly mae yna fwy nag un rheswm i ddathlu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y ferch, 29 oed, o Ystrad Mynach yw'r ferch gyntaf o Gymru i ennill pencampwriaeth bocsio byd

Nos Sadwrn fe ddaeth Lauren Price yn bencampwraig byd - hi yw'r ferch gyntaf o Gymru i ennill pencampwriaeth byd ym maes bocsio a'r 14ydd Cymro i gyflawni'r gamp.

Fe drechodd hi ei gwrthwynebydd Jessica McCaskill o Chicago ymhob rownd ond wedi i'r ddwy daro eu pennau yn erbyn ei gilydd yn ddamweiniol penderfynodd y beirniaid nad oedd hi'n ddiogel i'r Americanes barhau.

Hon oedd seithfed gornest broffesiynol Lauren Price - 29 oed - a hynny o flaen torf yng Nghaerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna groeso mawr i Lauren Price ymhlith teulu a ffrindiau

A hithau bellach yn bencampwraig pwysau welter fe allai hi fod yn wynebu pencampwyr fel Natasha Jonas, Sandy Ryan a Mikaela Mayer yn y dyfodol.

Roedd Lauren Price wedi torri un record eisoes - yn Tokyo yn 2020 fe greodd hi hanes wrth iddi fod y cystadleuydd cyntaf o Gymru i ennill medal aur bocsio (69-75kg) yn y Gemau Olympaidd.

Wrth ymateb i'w llwyddiant wedi'r ornest nos Sadwrn dywedodd: "Mae'n rhaid bod hyn cystal ag ennill medal aur.

"Mae Jessica McCaskill yn credyd i'r gamp ond heno fy noswaith i oedd hi.

"Dwi am greu gwaddol ac rwy' i wir yn credu mai dim ond dechrau yw hyn.

"Fe wnaeth hi gymryd ryw ddwy rownd i fi ganfod fy rhythm - roedd hi'n ornest galed ond fe wnes i fwynhau fy hun yno heno.

"Rwy'n mynd i wella ac rwy' i dal i ddysgu."

Pynciau Cysylltiedig