Profiad 'trawmatig' dynes wedi i'w char fynd ar dân
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Hen Golwyn yn dweud ei bod wedi ei hysgwyd ar ôl i'w char fynd ar dân ar gylchfan.
Fe welodd Rhian Graham, 70, fwg yn dod o fonet ei char, a chlywodd ddau berson yn gweiddi arni i ddod allan o'r cerbyd ar frys.
O fewn munudau, roedd blaen y car Vauxhall Crossland yn llawn fflamau, ac roedd rhannau o'r car wedi eu gludo i'r ffordd.
Mae Ms Graham wedi cwyno i wneuthurwr y car gan fod y cerbyd yn llai na dyflwydd oed.
Dywedodd Vauxhall nad ydyn nhw'n ymwybodol o unrhyw broblemau gyda'r math yma o gar, ac nad oes ganddynt gofnod bod Ms Graham wedi cysylltu â nhw.
Fe ddigwyddodd y tân yn Llanelwy ddydd Sadwrn, 27 Ebrill, tra bod Ms Graham yn gyrru i ymarfer cerddorol yno.
Fe wnaeth hi stopio ger cylchfan oddi ar yr A55 wrth aros am fwlch yn y traffig pan wnaeth hi sylwi ar "heidiau o fwg" yn dod o dan y bonet.
"Yna daeth dau ddyn ata i, a gwelais i'r fflamau yn dod allan, ac o fewn munud, roedd y fflamau wedi llyncu blaen y cerbyd, gan ymestyn yn uwch na'r to."
Dywedodd Ms Graham fod y synau wedi gwneud y sefyllfa yn un mwy brawychus, wrth i'r olwynion ffrwydro a ffenest flaen y car chwalu.
Fe wnaeth y gwasanaeth tân gyrraedd yn sydyn gan ddiffodd y fflamau cyn iddyn nhw ledu cefn y cerbyd.
Ond roedd y gwres o'r tan wedi toddi rhannau o'r car a'u glynu i'r tarmac.
"Mae'r profiad wedi bod yn un trawmatig iawn," meddai Ms Graham.
"Ro'n i'n lwcus iawn mod i wedi stopio, a bod y ddau ddyn wedi gweld y tân mewn da bryd.
"Mae fy merch yn 27 ac mae ganddi Syndrom Down - dwi'n cadw cael flashbacks o beth fyddai wedi digwydd pe bai'r fflamau wedi ymddangos pan ro'n i'n gyrru lawr y draffordd, a'i bod hi yn y car gyda fi."
Dywedodd y gwasanaeth tân ei bod hi'n anodd dweud yn syth beth oedd achos y tân gan fod cymaint o ddifrod i'r car.
Fe wnaeth Ms Graham brynu'r car newydd ym mis Gorffennaf 2022, ac mae hi'n galw ar y gwneuthurwr, Vauxhall, i ymchwilio ymhellach.
Ond yn dilyn cais am sylw gan BBC Cymru, dywedodd Vauxhall nad ydyn nhw "wedi cael unrhyw gyswllt â pherchennog y cerbyd".
"Nid oes unrhyw broblemau rydyn ni'n ymwybodol ohonynt gyda’r model hwn a byddem yn croesawu cyswllt gan y cwsmer i drafod eu sefyllfa â nhw’n uniongyrchol," meddai llefarydd.