Adroddiad mewnol wedi beirniadu ymddygiad pennaeth tân

Stuart MillingtonFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stuart Millington yn wynebu honiadau o aflonyddu yn ei waith yn y gogledd cyn ei benodiad fel pennaeth dros dro Gwasanaeth Tân De Cymru

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth ymchwiliad mewnol i ymddygiad uwch swyddog tân gadarnhau "nifer" o "honiadau ffeithiol" yn ei erbyn yn ymwneud ag aflonyddu, yn ôl dogfen a gafodd ei chyflwyno i dribiwnlys cyflogaeth.

Roedd yna ddadlau ynghylch penodiad Stuart Millington fel prif swyddog tân dros dro Gwasanaeth Tân De Cymru gan gomisiynwyr Llywodraeth Cymru, wedi iddi ddod i'r amlwg ei fod yn wynebu tribiwnlys cyflogaeth.

Mae rheolwr gwylfa, Dafydd Roberts, yn ceisio am iawndal dros honiadau bod Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru wedi ei gosbi dros ei weithgaredd undeb llafur, gyda thyst yn honni bod yna ddiwylliant "gwenwyig".

Gwadu'r honiadau mae Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru, sy'n ceisio dod â'r achos i ben.

Mae tystiolaeth i'r tribiwnlys yn rhoi mwy o fanylion am ymchwiliad mewnol y cyfeiriodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ato yn y Senedd wythnos diwethaf.

Cafodd gwrandawiad cychwynnol ei gynnal ddydd Iau, sy'n enwi dau atebwr - Mr Millington a phennaeth rheolaeth Ros Thomas.

Cafodd Mr Millington secondiad o'i waith fel Prif Swyddog Tân Cynorthwyol yn y gogledd i fod yn bennaeth dros dro yn y de yn dilyn honiadau ar wahân o fwlio ac aflonyddu yn y rhanbarth honno.

Mae'r achos o flaen y tribiwnlys yn ymwneud â chyfres o ddigwyddiadau wedi i Mr Roberts sefydlu, yn rhinwedd ei waith fel cynrychiolydd undeb, sianel negeseuon ar Telegram gyda rheolwyr gwylfa eraill ar 18 Mawrth 2023, yn sgil pryder dros benodiad swydd.

Mae Mr Roberts yn honni bod perthynas uwch swyddog wedi cael penodiad heb hysbyseb na phroses gystadleuol.

Mewn datganiad, honnodd Mr Roberts bod Ms Thomas, "mewn ffordd fygythiol a bwlïaidd", wedi holi swyddogion ystafell reoli a oedden nhw'n cytuno gyda'r farn honno.

Dywedodd bod Mr Millington wedi ei alw i gyfarfod disgyblaeth ar 27 Mawrth.

Fe wnaeth Mr Roberts wrthod mynd heb gynrychiolydd Undeb y Brigadau Tân (FBU), ac mae'n honni i Mr Millington ddweud wrtho ei fod yn gwrthod "cais rhesymol gan reolwyr".

Fe adawodd y gweithle oherwydd straen y sefyllfa, ac mae'n honni i Mr Millington drefnu cyfarfod y diwrnod canlynol.

Ychwanegodd bod Mr Millington, mewn cyfarfod pellach, wedi ymddwyn "mewn ffordd fygythiol a bwlïaidd iawn, gan godi ei lais a siarad gyda'r hawliwr â thôn gyhuddgar a diamynedd", gan bwyso ar Mr Roberts i gytuno ei fod wedi camymddwyn "trwy godi'r mater o nepotistiaeth".

Mae tystiolaeth i'r tribiwnlys yn cynnwys ymchwiliad, ar gais Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru, gan gwmni allanol i bryderon oedd wedi codi ynghylch Mr Millington.

Dywed ebost at farnwr y tribiwnlys gan gyfreithiwr yr hawliwr, Ed Walker, bod yr ymchwiliad wedi "cadarnhau tri a rhannol gadarnhau pedwar" o'r 21 cŵyn y cafodd eu hymchwilio.

Mae'n dweud bod y gwasanaeth tân wedi gwrthod rhoi copi o'r adroddiad i'r hawliwr.

Roedd ei ymddygiad, fe nododd, yn "is nag sydd i'w ddisgwyl neu a fyddai wedi bod o gymorth" mewn wyth achos, gan gynnwys:

  • Diffyg rhybudd i Mr Roberts o fwriad Mr Millington i siarad â fo ar 27 Mawrth;

  • Defnyddio'r term "terfysgaeth sefydliadol" mewn sgwrs gyda chadeirydd Gogledd Cymru FBU, Stuart Stanley;

  • Codi ei lais mewn cyfarfod ar 5 Ebrill 2023, gan ofyn wrth Mr Roberts pan nad oedd wedi gwisgo ei iwnifform ar gyfer yr achlysur, a methu rhoi gwybodaeth yn uniongyrchol i Mr Roberts "o ran cynllun canlyniad boddhaol" ar ddiwedd y cyfarfod.

"Mae tystiolaeth bod [Mr Roberts] wedi teimlo braw oherwydd gweithredoedd [Mr Millington] tuag ato," dywed yr adroddiad.

"Gan fod y trafferthion wedi codi o ganlyniad gweithredoedd [Mr Roberts] fel cynrychiolydd undeb llafur, mae'r ymchwiliwr felly yn credu bod yna achos ar yr olwg gyntaf y gallai gweithredoedd [Mr Millington] yn erbyn [Mr Roberts] fod yn gyfystyr ag anffafriaeth/aflonyddwch ar sail ei waith undeb.

"Mae'r ymchwiliad wedi cadarnhau nifer o'r honiadau ffeithiol gan [Mr Roberts] yn erbyn [Mr Millington].

"Gallai'r ymddygiad sy'n destun cŵyn (petai'n cael ei gadarnhau) hefyd fod yn gyfystyr â bwlio ac aflonyddu, sy'n gyfystyr â chamymddygiad neu gamymddygiad dybryd."

'Aelodau staff ofn siarad'

Mae'r atebwyr yn gwadu honiadau Mr Roberts, ac yn honni bod Ms Thomas wedi "pryderu ynghylch tôn yr hawliwr" yn y negeseuon Telegram.

Ddydd Iau, fe glywodd gwrandawiad cychwynnol y tribiwnlys gan gyn-gydweithwyr a swyddogion FBU.

Ar ran yr atebwyr, fe gyhuddodd Jonathan Walters gadeirydd FBU Brigâd Dân De Cymru, Gareth Tovey o fod yn rhan o "ymgyrch wleidyddol y mae'r FBU yn ei phorthi" - rhywbeth y gwadodd Mr Tovey.

Dywedodd Duncan Stewart Ball, ysgrifennydd rhanbarthol yr FBU, o ymweld ag ystafell reoli'r gwasanaeth, bod hi'n "glir bod aelodau staff ag ofn a phryder ynghylch siarad".

"Cawsom wybod sawl tro y bydden nhw'n cael eu holi gan [y tîm rheoli] yn dilyn ein hymweliad ynghylch beth ddywedwyd a gan bwy."

Yn ei datganiad hithau, dywedodd Ruth Bateman, trefnydd brigâd gyda'r FBU, ei bod wedi derbyn galwadau ffôn gan sawl aelod FBU yn y stafell reoli yn gofyn am gymorth a chefnogaeth "oherwydd doedden nhw ddim yn gallu mynd at [y tîm rheoli], a chefnogi aelodau sydd wedi disgrifio'r diwylliant yn y stafell reoli fel gwenwynig ac ag awyrchylch waith annymunol".

Mae Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru wedi cyflwyno cais i beidio bwrw ymlaen gyda'r achos, gan ddadlau bod Mr Roberts wedi oedi'n rhy hir cyn ei gyflwyno.

Fe ohiriodd barnwr y tribiwnlys, Stephen Povey, y gwrandawiad er mwyn ystyried y cais.