Actores yn rhoi’r gorau i waith cynghorydd ar ôl bygythiad

Shelley Rees
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Shelley Rees ei hethol i gynrychioli ward Pentre ar Gyngor Rhondda Cynon Taf yn 2012

  • Cyhoeddwyd

Mae actores a chyflwynwraig wedi dweud iddi benderfynu rhoi'r gorau i fod yn gynghorydd sir ar ôl cael ei bygwth.

Roedd Shelley Rees yn wyneb cyfarwydd ar Pobol y Cwm am flynyddoedd cyn cael ei hethol i gynrychioli ward Pentre ar Gyngor Rhondda Cynon Taf yn 2012.

Cafodd ei hailethol yn 2017 ond ar ddechrau 2020 fe wnaeth bygythiad gan ddyn lleol ysgwyd ei theulu a phenderfynodd beidio sefyll yn etholiadau lleol 2022.

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru, eglurodd sut aeth y dyn i gartref ei rhieni tra'r oedd hi yn y gwaith.

"'Na'th fy nhad ateb y drws ac roedd Mam yn gallu clywed rhywbeth yn mynd mla'n," meddai.

"Roedd ffrind i fi yn cerdded ei chi ac yn gweld yr holl beth a ffoniodd hi fi a gweud: 'Lle wyt ti? Ma' rwbeth yn mynd mla'n.

"Ffonies i nhw yn syth a des i adre o'r gwaith yn syth a 'wedodd nhw 'na, paid â dod fan hyn, cer i dy dŷ dy hunan'.

"Roedd y dyn yma wedi noco'r drws - o'n i’n gwybod pwy oedd e, o'n i prin yn ei nabod e - ond am ryw reswm wedi penderfynu bod e yn mynd i dŷ Mam a Dad a fy mygwth i. O'n i mor ypset."

Disgrifiad,

Shelley Rees yn sgwrsio gyda Beti George am gael ei bygwth tra'n gynghorydd

"O'n i wastad yn gwybod tase rhywbeth byth yn digwydd le dwi ddim yn teimlo'n saff neu bod fy nheulu ddim yn teimlo'n saff, mae'n rhaid i fi roi'r gorau iddi," meddai.

"Ond o'n i byth yn meddwl bydde fe'n digwydd yn fy mhentre' fy hunan.

"Pan fod rhywun wedi bygwth dy ddiogelwch di a dy deulu, oedd ishe roi stop arno fe… ro’n i’n drist mae’n rhaid i fi fod yn onest."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Shelley Rees yn chwarae rhan Stacey Jones ar Pobol y Cwm - i'w gweld yma gyda'r cymeriad Hywel Llywelyn (yr actor Andrew Teilo)

Fe gafodd Ms Rees - a ddechreuodd ar Pobol y Cwm yn 1993 a sydd wedi actio mewn rhaglenni fel Keeping Faith, Casualty, 35 Diwrnod ac Emmerdale - ei magu yn Nhon Pentre ac mae hi'n dal i fyw yno.

Dywedodd bod yr hyn ddigwyddodd wedi effeithio'n fawr arni gan ei bod wedi parhau i fyw yn ei chynefin dros yr holl flynyddoedd am ei bod yn teimlo'n ddiogel yno a neb yn meddwl amdani fel person enwog.

Doedd hi ddim yn gwybod beth oedd y rheswm tu ôl i'r bygythiad, meddai Ms Rees, sydd bellach hefyd yn cyflwyno ar Radio Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Bu Shelley Rees yn trafod ei chyfnod fel cynghorydd mewn cyfweliad gyda Beti George

'Fy merch ofn mynd mas o'r tŷ'

Mae bygythiadau i wleidyddion, a merched yn benodol wedi bod yn bwnc llosg dros y blynyddoedd diwethaf, gyda phryder am gynnydd mewn sylwadau sarhaus ar-lein ac ymosodiadau.

"Fel cynghorydd ti ar y front line - does dim staff, does dim swyddfa, ti mas 'na - a dyna beth yw pwrpas bod yn gynghorydd," meddai Ms Rees.

"O’n i’n gwybod hynny ond do’n i byth yn meddwl bydde hynny yn digwydd i fi.

"Fi ddim yn gwybod beth yw’r ateb achos ar yr un llaw ro’n i’n teimlo pam bod fi’n rhoi gorau i hyn, dyle bod fi’n aros 'ma', ond o’n i methu oherwydd fy nheulu.

"Gafon ni gyfnod le oedd Lowri [ei merch] ofn mynd mas o’r tŷ. Ro’n i’n checio i weld os oedd y dyn yma o gwmpas achos bod e’n lleol.

"Roedd yr heddlu wedi dweud wrtho fe i gadw draw, ond o’n i’n meddwl 'mae fy nheulu i wedi cefnogi popeth fi erioed wedi neud'… Jon [ei gŵr] yn enwedig… ond pam bod Jon yn dweud 'na' i rywbeth, fi’n gwybod mae eisie fi feddwl fan hyn."