Pwy oedd San Siôr?

San SiorFfynhonnell y llun, bbc
  • Cyhoeddwyd

Mae 23 Ebrill yn nodi Diwrnod San Siôr pan fydd y Saeson - a sawl cenedl arall - yn dathlu eu nawddsant.

Ond pwy oedd Siôr? Roedd yn dod o ardal sydd dros 2,000 o filltiroedd i ffwrdd o Loegr, felly sut y daeth o'n sant cenedlaethol i’n cymdogion agosaf ni?

Dyma saith ffaith am San Siôr.

1. Mae’n debyg y cafodd ei eni yn Cappadocia, sydd o fewn ffiniau Twrci heddiw. Yr adeg yna roedd Cappadocia yn dalaith ddwyreiniol o’r Ymerodraeth Rufeinig, ac felly mae’n debygol y byddai San Siôr wedi bod rhan o ddiwylliant Rhufeinig-Groegaidd.

Ffynhonnell y llun, Britannica
Disgrifiad o’r llun,

Yr ardal mae haneswyr yn credu ble y daeth San Siôr, sy'n rhan o wladwriaeth Twrci heddiw

2. Doedd o ddim yn farchog. Ers tua’r 11eg ganrif mae Siôr yn cael ei ystyried fel marchog dewr a oedd yn ymladd o gefn ei geffyl. Ond mewn gwirionedd mae’n debyg mai swyddog yn y Fyddin Rufeinig oedd Siôr, yn y taleithiau dwyreiniol.

3. Roedd Siôr yn ferthyr, ac fe gafodd ei ddienyddio tua’r flwyddyn 303 Oed Crist oherwydd ei ffydd Gristnogol. Mae’n debyg cafodd ei ladd yn ystod erlyniaeth yr Ymerawdwr Diocletian, am iddo wrthod gwneud offrwm i’r duwiau paganaidd. Er gwaetha’ iddo cael ei boenydio'n ddifrifol, doedd Siôr ddim am wadu ei ffydd Gristnogol, a chafodd ei ddienyddio yn ninas Lydda, ym Mhalestina.

4. Fuodd San Siôr erioed i Loegr. Er hyn, roedd ei enw fel dyn moesol a sanctaidd wedi teithio dros Ewrop ac roedd yr ŵyl yn ei enw – 23 Ebrill – yn cael ei ddathlu yn Lloegr o’r nawfed ganrif. Daeth yn boblogaidd gyda brenhinoedd Lloegr ac roedd Edward I (teyrnasu 1272-1307) yn chwifio baneri San Siôr (croes goch ar gefndir gwyn) er cof amdano. Ni chafodd y faner yma ei ddefnyddio i gynrychioli Lloegr nes teyrnasiad Harri VIII (1509-1547).

Ffynhonnell y llun, getty images
Disgrifiad o’r llun,

Digwydd bod, mae Dydd San Siôr yn disgyn ar ben-blwydd (a'r diwrnod fu farw) un o'r Saeson enwocaf erioed, William Shakespeare

5. Cafodd Siôr ei wneud yn Sant gan y Pab Gelasius yn y flwyddyn 494 Oed Crist. Er i’r diwrnod gael ei nodi mewn gŵyl bob blwyddyn ar 23 Ebrill (mae rhai yn tybio oedd diwrnod ei farwolaeth), nid tan 1415 yn dilyn Brwydr Agincourt y cafodd y dydd yr arwyddocâd cenedlaethol i Loegr rydyn ni’n ei ‘nabod heddiw.

6. Yn ôl y stori fe aeth San Siôr i fewn i ddinas Silene (yn Libya heddiw) ar gefn ei geffyl i achub y bobl rhag ddraig oedd yn ymosod ac yn bwyta’r trigolion lleol. Ond, mae hon yn chwedl sy’n dyddio o flynyddoedd cyn oes y Siôr go iawn.

Mae yna ddarluniau sy’n bodoli heddiw a grëwyd yn y nawfed ganrif, ac mae’n debyg mai symboliaeth oedd rhain o’r frwydr rhwng da a drwg. Cafodd y stori ei ddatblygu dros y blynyddoedd ac roedd yn cael ei ddefnyddio fel ysbrydoliaeth gan fyddinoedd wrth fynd i ymladd mewn rhyfel.

Ffynhonnell y llun, getty images
Disgrifiad o’r llun,

San Siôr yn lladd y ddraig, er mae'n debyg y cyfunwyd chwedlau gwahanol i ffurfio'r stori yma.

7. Nid Lloegr yw’r unig le sy’n dathlu Diwrnod San Siôr. Mae hefyd yn nawddsant i Fwlgaria, Ethiopia, Gwlad Groeg, Georgia, Portiwgal, Rwmania, Syria, Lebanon, ardaloedd Catalonia ac Aragon yn Sbaen, a’r dinasoedd Alcoi yn Sbaen, Venice a Genoa yn Yr Eidal, a Rio de Janeiro ym Mrasil.

Ffynhonnell y llun, getty
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Barcelona neu Saeson yn y dorf ar gyfer Barcelona v Paris Saint-Germain?... Mae San Siôr yn nawddsant ar Loegr a Chatalonia.

Pynciau Cysylltiedig