Gwyliau Mabon a Fel 'Na Mai yn 'hwb i'r Gymraeg'

Gŵyl Fel 'Na MaiFfynhonnell y llun, Gŵyl Fel 'Na Mai
Disgrifiad o’r llun,

Candelas yn perfformio yng Ngŵyl Fel 'Na Mai yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd

Mae trefnwyr gŵyl Gymraeg gyntaf y Rhondda yn gobeithio "gwneud gwahaniaeth mawr" i nifer y bobl sy'n siarad yr iaith yn yr ardal.

Yn dilyn llwyddiant eisteddfod leol y Rhondda sy'n cael ei chynnal yn flynyddol, fe benderfynodd y trefnwyr drefnu digwyddiad "i roi blas o'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru".

Ers hynny, maen nhw wedi bod yn trefnu Gŵyl Mabon fydd yn cael ei chynnal yn nhafarn y Lion yn Nhreorci ddydd Sadwrn.

A hithau'n ddechrau tymor y gwyliau Cymraeg, mae trefnwyr 'Gŵyl Fel 'Na Mai' yn Sir Benfro yn cynnal yr ŵyl honno am y trydydd gwaith ac yn dweud ei bod yn hwb i'r iaith yno hefyd.

Mae trefnwyr yn dweud bod y digwyddiad mynd o nerth i nerth a "fel sa fe'n dod o un o'r digwyddiadau Cymraeg blynyddol".

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Mabon
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Tara Bandito yn perfformio yng Ngŵyl Mabon

'Gorfod teithio i gweld pethe Cymraeg'

Yn ogystal â rhoi llwyfan i artistiaid adnabyddus fel Tara Bandito, Gwilym Bowen Rhys a Dadleoli, bydd sesiynau comedi, sgyrsiau ac adloniant i blant yng Ngŵyl Mabon.

Mae un o'r trefnwyr, Kelly Hanney, yn enedigol o Benygraig yn y Rhondda.

Cafodd hi ei magu mewn cartref di-Gymraeg ac mae'n dweud mai "jyst yn oriau ysgol o ti'n siarad Cymraeg".

"Fel arfer ni'n gorfod trafeilu i weld pethe Cymraeg neu mynd i weithgareddau Cymraeg ond os ni mo'yn i'r iaith dyfu yn yr ardal, ma' rhaid ca'l pethe i neud drwy gyfrwng y Gymraeg tu fas oriau ysgol."

Disgrifiad o’r llun,

Kelly (pedwerydd o'r chwith) yw un o drefnwyr Eisteddfod y Rhondda ac un o'r rhai sydd wedi dechrau Gŵyl Mabon

"Mae llwyth o artistiaid Cymraeg sy'n 'neud cerddoriaeth newydd a gwahanol a ni ishe rannu hwnna gyda pobl.

"Ni mo'yn rhoi blas i bobl o'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru. Mae e mor dda a ni mo'yn rhannu fe gyda mwy o bobl a neud y Gymraeg yn cŵl."

Yn ôl Kelly, "mae'n bwysig cael unrhyw fath o ddigwyddiad yn yr iaith Gymraeg yn lleol fel bo pobl yn gallu clywed yr iaith.

"Mae'r niferoedd o bobl sy'n siarad Cymraeg yn cynyddu yn y Rhondda neu os fi'n mynd i'r siop ma' o leia' un aelod o staff yn siarad Cymraeg a gobeithio ni'n helpu hwnna."

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Mabon

Yn ogystal â chynnig adloniant i siaradwyr Cymraeg, mae Kelly'n credu bod yr ŵyl yn gyfle i "ddenu pobl newydd at yr iaith".

"Ni wedi bod yn rhannu gwybodaeth yn ddwyieithog. Ni gyd yng Nghymru, ni gyd yn Gymraeg a ma' modd mwynhau cerddoriaeth Gymraeg hyd yn oed os ti ddim yn siarad Cymraeg."

Mae Kelly'n egluro pam mai 'Gŵyl Mabon' ydi enw'r digwyddiad.

"William Abraham oedd aelod seneddol cynta'r ardal yn San Steffan ac enw barddol e o'dd Mabon ac o'dd e wedi brwydro i gael un diwrnod y mis bant o gwaith i'r glowyr so dyna pam ni wedi trefnu fe dros penwythnos cynta' mis Mai."

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Fel ‘Na Mai
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r trydydd tro i Wyl Fel 'Na Mai gael ei chynnal yng Nghrymych

'Gwneud gwahaniaeth i'r iaith a'r gymuned'

Gŵyl gerddorol arall sy'n cael ei chynnal dros benwythnos gŵyl y banc ydi 'Gŵyl Fel 'Na Mai' yng ngogledd Sir Benfro.

Yno, bydd enwau cyfarwydd fel Al Lewis a'r band a Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio yn ogystal â bandiau newydd lleol fel Gelert, enillwyr gwobr Richard a Wyn Fflach 2024.

Rhidian Evans ydi prif swyddog Menter Iaith Sir Benfro ac mae'n un o drefnwyr yr wŷl.

"Mae'n dod â'r ardal at ei gilydd yn dda ac yn ddigwyddiad cymunedol i'r teulu i gyd", meddai.

"Does dim gŵyl Gymraeg arall yn y sir ar y raddfa yma ac mae'r elfen gymdeithasol yr un mor bwysig â'r elfen gerddorol."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl un o drefnwyr Gŵyl Fel 'Na Mai, Rhidian Evans (ar y dde), mae gwyliau gerddorol "yn gwneud gwahaniaeth i'r iaith a'r gymuned"

Mae hefyd yn dweud bod y digwyddiad yn hwb i'r iaith Gymraeg.

"Dyw pethe ddim fel oedden nhw. Mae pobl ddi-gymraeg yn symud i ardaloedd arfordirol yng ngogledd y sir i ymddeol ac mae rhai yn penderfynu dysgu Cymraeg ac yn gefnogol drwy ddod i'r ŵyl.

"Roedd de'r sir yn arfer bod yn fwy Seisnigaidd ond ma' hynny wedi dechrau newid nawr ac mae trydedd ysgol uwchradd Gymraeg yn agor Medi nesaf yn ardal Penfro.

"Er bod y cyfrifiad yn dangos peth dirywiad yn ardal draddodiadol yr iaith, ma' digwyddiad fel hwn yn hwb i'r iaith... mae'r ŵyl yn ffordd o gael pobl at ei gilydd ac mae popeth yn Gymraeg - y staff a'r bandiau."

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Fel ‘na Mai
Disgrifiad o’r llun,

Candelas yn diddanu'r dorf yng Ngŵyl Fel ‘'Na Mai

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Fel ‘na Mai
Ffynhonnell y llun, Gŵyl Fel 'Na Mai
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gŵyl Fel 'Na Mai yn disgwyl cynulleidfa eleni eto

Yn ôl y trefnwyr mae hi'n ŵyl i bawb ac eleni am y tro cyntaf, bydd safle gwersylla.

"Ni'n denu pobl o'r gymuned leol a thu hwnt. Mae rhai o Gaerdydd yn dod i wersylla ac fe ddaeth rhai o Batagonia llynedd.

"Ma hwn fel sa fe'n dod yn un o'r digwyddiadau Cymraeg blynyddol."

Ond mi hoffai Rhidian weld mwy o gyllid yn y dyfodol.

"Mae'n cyllideb ni'n fach. Dyw pobl ddim yn sylweddoli costau cynnal digwyddiad fel hyn - yswiriant, golau, sain ond ni'n lwcus o gael grantiau a phobl sy'n fodlon ein noddi ni yn lleol. Bydden ni methu neud e heb hynny.

"Mae angen rhagor o fuddsoddiad yn y math yma o beth yn enwedig wrth geisio cyrraedd miliwn o siaradwyr.

"Mae digwyddiad fel hyn yn gwneud gwahaniaeth i'r iaith a'r gymuned."

Pynciau Cysylltiedig