Senedd fwy: Pleidleisio o blaid cynyddu nifer yr aelodau

SeneddFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd nifer aelodau o'r Senedd yn cynyddu o 60 i 96

  • Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau i ehangu'r Senedd a chyflwyno system bleidleisio newydd wedi pasio eu cam olaf yn Senedd Cymru.

Pleidleisiodd aelodau'r Senedd o blaid cynyddu eu niferoedd o 60 i 96, mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf i Fae Caerdydd yn 2026.

Roedd angen cefnogaeth dwy ran o dair o aelodau'r Senedd i'r mesur gael ei basio, ac roedd 43 o blaid ac 16 yn erbyn.

Dywed cefnogwyr fod angen 36 yn fwy o aelodau er mwyn craffu ar y broses ddeddfu a gweithredoedd gweinidogion Cymru, mewn Senedd llawer mwy pwerus na'r Cynulliad a gafodd ei sefydlu 25 mlynedd yn ôl.

Cafodd y cynigion ym mesur diwygio'r Senedd eu cefnogi gan Lafur a Phlaid Cymru.

Ond pleidleisiodd y Ceidwadwyr yn erbyn, gan ddadlau y dylai'r gwariant ychwanegol dan sylw - sy'n cael ei amcangyfrif i fod hyd at £17.8m y flwyddyn - fynd i'r gwasanaeth iechyd yn lle hynny.

Yn ystod y ddadl dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw: "Heddiw ry'n ni'n creu hanes.

"25 mlynedd yn ôl, ar 6 Mai 1999, roedd pobl Cymru wedi ethol Cynulliad Cenedlaethol cyntaf Cymru.

"Bryd hynny, doedd dim pwerau deddfu go iawn. Doedd dim rhaniad rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru.

"Dros y chwarter canrif ddiwethaf, mae ein democratiaeth wedi tyfu, wedi datblygu ac wedi aeddfedu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y newidiadau'n dod i rym mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf i Fae Caerdydd yn 2026

Ond dywedodd y Ceidwadwr Darren Millar: "Mae angen mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys ac athrawon ar Gymru; nid oes angen mwy o wleidyddion".

Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Heledd Fychan bod y "cam rydym yn ei gymryd heddiw yn gam enfawr ymlaen, nid yn unig i’r Senedd hon, ond ein cenedl.

"Ein tasg ni fel gwleidyddion fydd sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r diwygiadau i wireddu’r hyn sy’n bosibl ar ran ein cymunedau, ac ar ran Cymru."

Dywedodd Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol ei bod yn cefnogi'r mesur, er ei bod o'r farn y bydd y drefn bleidleisio newydd yn arwain at lai o ddewis i bleidleiswyr.

Beth yw'r drefn bleidleisio newydd?

Mae pryderon wedi’u mynegi am y system bleidleisio newydd i ethol aelodau i’r Senedd fwy.

Bydd y cyfuniad presennol o 40 o ASau lleol ac 20 o Aelodau Seneddol rhanbarthol yn cael ei ddisodli gan 16 o etholaethau mwy, pob un yn cael ei chynrychioli gan chwe aelod.

Bydd pleidiau’n cyflwyno rhestrau o ymgeiswyr sydd wedi’u graddio ar gyfer pob sedd, o dan yr hyn sy'n cael ei alw'n system rhestr gaeedig, gan atal pleidleiswyr rhag cefnogi ymgeiswyr unigol.

Bydd etholiadau'r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair, yn hytrach na phum mlynedd, o 2026 ymlaen.

Bydd y system sy'n cael ei defnyddio yn cael ei dylunio i ethol ymgeiswyr ar sail cyfran y pleidleisiau a gânt yn yr etholaeth.

Bydd gofyn i ymgeiswyr y dyfodol fyw yng Nghymru.

Mae beirniaid yn dweud ei fod yn rhoi gormod o bŵer i bleidiau benderfynu pwy sy’n cael eu hethol.

Ond, yn ôl gweinidogion, fe fydd yn gwneud etholiadau’n symlach drwy roi un papur pleidleisio i bleidleiswyr.

Beth fydd y gost?

Gallai'r gost o ethol 36 o wleidyddion ychwanegol i'r Senedd fod yn £17.8m y flwyddyn, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru.

Mae asesiad gan y Senedd ei hun yn dweud y gallai'r gost fod yn uwch yn ystod y blynyddoedd lle cynhelir etholiadau.

Ym mlwyddyn gyntaf y Senedd newydd, meddai'r asesiad, gallai'r gost fod yn £14.8m o leiaf a chyn uched â £17.7m gan yna ostwng i £13.9m a £16.8m yn 2027/8.

Yn 2030/31, gallai hynny godi i o leiaf £16.3m a chymaint â £19.5m.

Mae'r ffigyrau uchaf yn awgrymu sefyllfa lle mae hyd at bum plaid, hyd at dri phwyllgor ychwanegol a diwrnod ychwanegol o drafodaethau yn y Senedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r costau sefydlu cychwynnol yn £8m. Roedd cyllideb y Senedd yn £67m yn 2023/24.

Be ydy'r farn o blaid ac yn erbyn?

Mae galwadau ers blynyddoedd am fwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd.

Mae cefnogwyr yn dadlau bod cyfrifoldebau Senedd Cymru - sydd wedi tyfu'n sylweddol yn y 12 mlynedd diwethaf - yn golygu bod llwyth gwaith cynyddol ar aelodau o'r Senedd i graffu ar weinidogion a'r deddfau y maen nhw am eu pasio.

Ers 2011 mae'r Senedd wedi gallu pasio deddfau ar amrywiaeth eang o feysydd.

Yn y cyfamser mae gweinidogion wedi cael pwerau codi trethi sydd hefyd yn destun craffu gan y Senedd.

Dywedodd adroddiad panel arbenigol yn 2017 fod angen rhwng 20 a 30 aelod ychwanegol ar y Senedd.

Cytunodd Mark Drakeford ac Adam Price ar fodel ar gyfer ehangu'r Senedd yn 2022 - gan ysgogi'r Ceidwadwyr Cymreig i roi'r gorau i bwyllgor Senedd a oedd yn trafod y mater.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi'r cynlluniau ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig - yr ail blaid fwyaf yn y Senedd ar ôl Llafur - yn eu gwrthwynebu i raddau helaeth ar sail cost.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, o'r farn fod "angen mwy o gapasiti" gan fod mwy o gyfrifoldebau gan y corff i'w gymharu â'i sefydliad yn 1999.

Beth am y cynlluniau ar gyfer cwotâu rhywedd?

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahanu hynny oddi wrth weddill y cynlluniau ynghanol ofnau y gallai fod yn destun her gyfreithiol, ynghanol dadlau ynghylch a yw o fewn pwerau'r Senedd i basio deddf o'r fath ai peidio.