Ras Ultra Eryri 2024: 'Ras heriol i'r rhedwyr'

Mi oedd rhai o redwyr mynydd gorau’r byd yng Nghymru'r penwythnos yma ar gyfer ras Ultra-Trail Snowdonia-Eryri.

Fe ddechreuodd 3,000 o redwyr o 65 gwlad rasio yn Llanberis gyda’r Sais Mark Derbyshire yn fuddugol yn y ras 100 milltir i ddynion mewn amser o 23 awr 41 munud.

Mi oedd yna bedair ras - 100 milltir, 100km, 50km a 25km - gyda’r cwrs hir yn daith heriol o gwmpas Parc Cenedlaethol Eryri i’r rhedwyr a oedd yn gorfod esgyn 10,000 o fetrau i gyd.