Cwest: Lefel uchel o alcohol yng ngwaed dyn fu farw

y lon lle ddigwyddodd y gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Fraser Lloyd Parry mewn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd yn Sir Gaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd

Roedd dyn 32 oed fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn yfed, clywodd cwest yn Neuadd y Dref Llanelli.

Roedd Fraser Lloyd Parry o Gwrtnewydd, Llanybydder yn teithio ar y B4336 ar 17 Tachwedd 2023 pan fu ei fan Vauxhall Combo wen mewn gwrthdrawiad â Ford Fiesta glas a BMW X5 llwyd am 21:53.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad rhwng pentrefi Llanllwni a Llanfihangel-ar-arth. Bu farw Mr Parry yn y fan a’r lle.

Dywedodd y swyddog a oedd yn ymchwilio i'r achos, y Sarjant Gareth James o Heddlu Dyfed Powys, wrth y cwest fod pedair merch, a oedd yn teithio yn y Ford Fiesta glas, wedi dioddef anafiadau difrifol a bu'n rhaid i yrrwraig y Ford Fiesta gael ei thorri o’r cerbyd.

Esboniodd hefyd bod y Fan Vauxhall yn dilyn y BMW o gyfeiriad Llanllwni yn agos, ac wedi symud i ganol y ffordd cyn gwrthdaro â’r Ford Fiesta oedd yn dod o’r cyfeiriad arall.

Doedd dim niwed mawr i’r BMW ac ni ddioddefodd gyrrwr y BMW anafiadau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Sarjant James fod y tywydd yn arw yn ystod y gwrthdrawiad

Lefel uchel o alcohol yn y gwaed

Yn ôl y Sarjant James, roedd y tywydd yn arw â chyflwr y ffordd yn wlyb.

Clywodd y cwest nad oedd Mr Parry, sef gyrrwr y fan, yn gwisgo gwregys ar y pryd. Roedd y pedair merch yn y Ford Fiesta yn gwisgo eu gwregysau adeg y gwrthdrawiad.

Wrth gyfeirio at yr adroddiad tocsicoleg dywedodd Sarjant James ei fod yn dangos bod 240mg o alcohol i bob 100ml yng ngwaed Mr Parry. 80mg yw’r lefel cyfreithiol.

Ychwanegodd nad oedd modd profi p’un ai bod hyn wedi cael effaith ar y ddamwain ai peidio.

Wrth gyfeirio at dystiolaeth yr archwiliad post mortem, dywedodd yr Uwch Grwner dros dro, Paul Bennett, fod anafiadau i’r abdomen, rhwyg i’r iau a gwrthdrawiad ffordd yn rhan o achos marwolaeth Mr Parry.

Dangosodd yr archwiliad hefyd bod lefel uchel o alcohol yn y gwaed.

Wrth ddod i’w gasgliad, dywedodd yr Uwch Grwner dros dro, Paul Bennett fod Mr Parry wedi marw o ganlyniad i anafiadau mewnol.

Dywedodd ei fod yn glynu at ffeithiau, yn hytrach na rhagdybio, gan nodi achos marwolaeth Mr Parry fel gwrthdrawiad.