Gareth Thomas yn ddiolchgar am gefnogaeth wedi ymosodiad

  • Cyhoeddwyd
Gareth Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Thomas allan yn Nghaerdydd nos Sadwrn pan ddioddefodd 'ymosodiad casineb' oherwydd ei rywioldeb

Mae cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol wedi diolch i bobl am eu cefnogaeth ar ôl iddo ddioddef ymosodiad yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Mae Gareth Thomas wedi rhoi neges ar Twitter yn diolch am y gefnogaeth mae ef a'r gymuned LGBT wedi ei dderbyn yn dilyn y digwyddiad.

Roedd Mr Thomas allan yng Nghaerdydd nos Sadwrn pan ddioddefodd "ymosodiad casineb" oherwydd ei rywioldeb.

Datgelodd ei fod yn hoyw yn 2009 gan ddweud ei fod wedi bod yn cuddio ei rywioldeb am flynyddoedd.

Ychwanegodd Mr Thomas y byddai'r "creithiau meddyliol" yn dilyn yr ymsoddiad yn "aros gydag ef am beth amser".

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd tîm cenedlaethol Ffrainc yn gwisgo criau'r enfys yn ystod eu gêm yn erbyn Ffiji ddydd Sadwrn

Mae tîm rygbi Ffrainc wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu gwisgo criau'r enfys yn ystod eu gêm brawf yn erbyn Ffiji ddydd Sadwrn i ddangos eu cefnogaeth i gyn-gapten Cymru.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud bydd y timau cenedlaethol sy'n chwarae dros y penwythnos yn rhydd i wisgo'r criau, gyda'r undeb yn annog chwaraewyr i gymryd rhan.

Cyfiawnder adferol

Yn ei neges yn diolch i'w gefnogwyr, cyfeiriodd Mr Thomas at ei ymosodwyr: "I'r grŵp wnaeth ymosod arna' i, cadwch at eich ymddiheuriad.

"Roeddwn yn credu pob un ohonoch pan wnaethoch chi ymddiheuro."

Yn dilyn yr ymosodiad dywedodd Heddlu'r De: "Ar gais Mr Thomas rydym wedi delio â'r achos gyda "chyfiawnder adferol" - mae'r bachgen wedi cyfaddef ei ran yn yr ymosodiad ac ymddiheuro am ei weithred.

"Nod cyfiawnder adferol yw rhoi anghenion y dioddefwr wrth wraidd y system cyfiawnder, a dod o hyd i ddatrysiad positif ac annog pobl ifanc i fod yn atebol am eu gweithredodd."