Lansio ymgyrch i gael Cymru i gystadlu yn yr Eurovision

Mae yna broblem

Nid yw'r cynnwys yma ar gael yn eich lleoliad chi.

Mae enillydd Cân i Gymru 2024 yn rhyddhau cân fel rhan o ymgyrch newydd i gael Cymru i gystadlu yn yr Eurovision.

Mae Sara Davies yn rhyddhau fersiwn ddawns o Anfonaf Angel gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn i gefnogi ymgyrch label Coco & Cwtsh.

Y Deyrnas Unedig sydd wedi bod yn cystadlu yn yr Eurovision dros y blynyddoedd, yn hytrach na'r gwledydd unigol, ond mae Cymru wedi cael cynrychiolaeth yn y Junior Eurovision.

Yn ôl Sara, roedd hi'n awyddus i fod yn rhan o'r ymgyrch er mwyn dangos i'r byd pam fod Cymru'n cael ei hadnabod fel gwlad y gân.

Ychwanegodd ei bod yn awyddus i recordio fersiwn o Anfonaf Angel gan ei bod hi'n gân sy'n dangos fod Cymru yn gallu cynhyrchu cerddoriaeth "cystal os nad gwell na phobman arall yn y byd".