Aros 30 mlynedd mewn achos cam-drin rhyw wedi methiannau heddlu

Michaela Allen yn blentyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Michaela Allen iddi gael ei cham-drin yn rhywiol pan yn saith oed

  • Cyhoeddwyd

Mae dioddefwr mewn achos o gam-drin rhywiol wedi dweud bod methiannau’r heddlu dros 30 mlynedd wedi "dwyn cyfiawnder" oddi wrthi.

Mae Michaela Allen, 36, yn honni iddi gael ei cham-drin gan rywun oedd yn ei gwarchod yn ei chartref yng Nghaerffili.

Er bod Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) wedi dweud y gallai'r gwarchodwr gael ei gyhuddo, dywedodd Michaela na wnaeth yr heddlu erioed weithredu ar hyn ac fe gollwyd tystiolaeth hanfodol, cyn ei ddarganfod eto ac yna’i rannu’n anghywir, gan ddod ag unrhyw obaith o erlyniad i ben.

Mae Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent wedi ymddiheuro am eu methiannau, ac yn dweud eu bod yn cymryd pob adroddiad o ymosodiad rhyw o ddifrif.

Pan ddywedodd Michaela wrth ei mam-gu beth oedd y gwarchodwr wedi ei wneud iddi yn 1995, fe ffoniodd ei mam yr heddlu ar unwaith a ddaeth i'w chyfweld.

Yn fideo cyfweliad yr heddlu sydd wedi’i weld gan BBC Wales Live, mae'r ferch saith oed yn disgrifio sut y gofynnodd iddi roi "grown up kisses".

Fe wrthododd gan ddweud ei fod yn "ddrwg" ond fe wnaeth fygwth dweud wrth ei rhieni ei bod hi'n camymddwyn.

Mae hi'n dweud ar y tâp ei fod yn dweud: "Rwyt ti’n mwynhau hyn yn dwyt ti?"

Mae'n mynd ymlaen i ddisgrifio sut y tynnodd ei throwsus i lawr, ac yn disgrifio genitalia gwrywaidd yn gywir.

Dywedodd ei mam, Stephanie: "Dywedodd y swyddog heddlu yn yr ystafell honno nad oedd hi erioed wedi gweld plentyn yn rhoi cymaint o dystiolaeth fanwl heb gael ei holi. Doedd dim amheuaeth yn fy meddwl bod hyn yn mynd i'r llys."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Michaela ei recordio yn cael ei holi gan yr heddlu

Gorchmynnodd y CPS i'r swyddog heddlu oedd yn gyfrifol am yr achos ofyn i'w rhieni a oedden nhw'n hapus i Michaela wynebu cael ei chroesholi yn y llys, ond dywedodd Stephanie na ddigwyddodd hynny erioed.

"Fe wnes i ffonio'r orsaf heddlu yn barhaus i ddarganfod beth oedd yn digwydd, ac er y bydden i'n cael gwybod y byddai rhywun yn dod yn ôl ata i, doedd neb yn gwneud," meddai Stephanie.

Dros y blynyddoedd, dywedodd Michaela y byddai'n gofyn i'w mam a oedd yr heddlu wedi cymryd unrhyw gamau, gan annog Stephanie i fynd ar ôl y swyddogion dan sylw dro ar ôl tro.

Yn 2017 ceisiodd Michaela ailagor ei hachos, dim ond i gael gwybod na ellid dod o hyd i'r dystiolaeth fideo.

Er mai Heddlu De Cymru oedd yn gyfrifol am yr ymchwiliad gwreiddiol, fe newidiodd y ffin yn 1996 gan olygu mai Heddlu Gwent oedd wedyn â chyfrifoldeb dros Gaerffili.

Mewn ymchwiliad gan Heddlu Gwent yn 2018, dywedwyd nad oedd y swyddog yn yr achos gwreiddiol yn gallu cofio'r achos, ond roedd yn honni y byddai wedi dilyn cyfarwyddyd y CPS.

Heb unrhyw gamau pellach, dywedodd yr heddlu y byddai'r dystiolaeth fideo wedi cael ei "daflu i ffwrdd yn gyfreithlon yn 1996".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Michaela fod Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent wedi ei "methu" dros dri degawd

Dywedodd Michaela: "Roedd yn hollol dorcalonnus i ddarllen hynny. Heb y dystiolaeth, roedd yn gadael bwlch mawr, felly roedd yn golygu na allai'r troseddwr gael prawf teg, ond lle oedd fy mhrawf teg i?"

Gan gredu na fyddai hi byth yn cael cyfiawnder, fe ddywedodd ei stori ar y cyfryngau cymdeithasol yn 2022 gan deimlo "dyletswydd gofal i rybuddio'r cyhoedd".

Yn fuan wedyn, deallodd bod y fideo roedd yr heddlu wedi dweud iddo gael ei ddinistrio wedi cael ei ddarganfod.

"Ges i sioc o gael swyddog CID yn curo ar fy nrws, gan honni eu bod o bosibl wedi dod o hyd i fy nhystiolaeth," meddai Michaela.

Mewn llythyr, fe wnaeth Heddlu De Cymru feio diffyg cofnodi tapiau tystiolaeth, a dim ond ym mis Gorffennaf 2021 pan y cafodd 8,605 o dapiau eu digideiddio - y daethpwyd o hyd i dâp Michaela.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Michaela wedi bod yn aros ers 1996 i'w cham-driniwr honedig fynd gerbron llys

Rhoddodd y wybodaeth yna obaith i Michaela y byddai hi o'r diwedd yn wynebu ei cham-driniwr honedig yn y llys.

Ar gais yr heddlu, dywedodd Michaela ei bod wedi gwneud "popeth y gwnaethon nhw ofyn i mi ei wneud" gan gynnwys dileu negeseuon Facebook am yr achos.

Yn methu credu’n iawn bod yr heddlu wedi dod o hyd i'r tâp, gofynnodd am gopi, ond fe gafodd wybod na allai ei gael tan ddiwedd yr ymchwiliad.

Er gwaethaf hyn, fe gafodd ei synnu o weld y tâp yn cyrraedd yn y post.

Oherwydd y camgymeriad hwn, dywedodd y CPS wrth Michaela ym mis Medi 2023 nad oedden nhw'n teimlo "y gellid rhoi prawf teg i'r un oedd yn cael ei amau".

Disgrifiad o’r llun,

Margaret (ar y dde), mamgu Michaela, oedd y person cyntaf iddi ymddiried ynddi i son am y cam-drin

Dywedodd Michaela: "Mae’r cyfle i gael tegwch am yr hyn ddigwyddodd i mi wedi cael ei ddwyn oddi arnaf.

"Pan dwi wedi bod yn mynd ar ôl pethau, dwi wedi cael fy nghyhuddo o fod yn ddiamynedd.

"Mae’r rhwystredigaeth wedi fy arwain at ddagrau ar un pwynt. Dwi’n cael fy nhrin fel plentyn pan dwi'n trio cael atebion."

Dywedodd Stephanie: "Mae’n teimlo fel petai fy enaid wedi’i ddinistrio. Gwybod yn y bôn bod fy merch yn dal i ddioddef mewn sawl ffordd."

Mae Michaela nawr yn ceisio hawlio iawndal ond dywedodd nad oedd hynny’n ymwneud â'r arian, ond yn hytrach "atebolrwydd am y methiannau".

"Dyma'r unig opsiwn sydd gen i ar ôl i’w dal nhw’n gyfrifol - mae ‘di dod i’r pen i mi." ychwanegodd.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC neu mi allwch chi ffonio 0800 077 077 am ddim unrhywbryd i glywed gwybodaeth wedi'i recordio.

Pynciau Cysylltiedig