Gwaith i brom Hen Golwyn yn 'diogelu cymunedau'

Disgrifiad,

Mae promenâd Hen Golwyn bellach wedi ailagor i'r cyhoedd yn dilyn buddsoddiad gwerth £35m

  • Cyhoeddwyd

Mi fydd gwaith i atgyfnerthu amddiffynfeydd môr yn Hen Golwyn yn diogelu cymunedau sir Conwy am ddegawdau i ddod, yn ôl y cyngor.

Wedi tair blynedd o waith strwythurol mae'r promenâd bellach wedi ailagor i'r cyhoedd yn dilyn buddsoddiad o £18m, fel rhan o gynllun gwerth £35m yn y pen draw.

Roedd pryder yn lleol bod stormydd grymus a chynnydd lefel y môr yn peryglu'r lôn gerllaw ynghyd â'r rheilffordd a phrif draffordd yr A55.

Ar ôl codi lefel y lôn o bron i 2m mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y gwaith yn dweud y bydd yn gwarchod yr ardal ac yn sicrhau gall bobl wneud y mwyaf o'r adnodd "heb boeni".

Yr hen seilwaith 'dan fygythiad'

Fe gafodd y promenâd a'r gwaith strwythurol gwreiddiol eu hadeiladu yn Oes Fictoria ac wedi degawdau o stormydd grymus bu'n rhaid cau'r lôn sawl gwaith.

Yn ôl Cyngor Conwy, y sir honno sydd â'r dwysedd poblogaeth uchaf sy'n byw ger y môr drwy Gymru ac mae'r gwaith yma wedi bod yn holl bwysig i warchod y cymunedau hynny.

"Mae hwn 'di bod yn hanfodol bwysig," medd y Cynghorydd Goronwy Edwards, sy'n gyfrifol am bortffolio Amgylchedd Cyngor Conwy.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna bryder ynghylch yr hen seilwaith 'annigonol', medd Goronwy Edwards

"Mae'r rheilffordd a'r A55 wedi bod dan fygythiad o fethu ac mae hynny wedi'w gydnabod rŵan.

"Roedd yr hen waith Fictoraidd ddim yn ddigonol ac oherwydd y newid hinsawdd oedd o gyd dan fygythiad."

Ychwanegodd y cynghorydd bod gwaith ehangach ar draws y glannau wedi rhoi "lefel o sicrwydd" eu bod yn ddiogel "am ddegawdau i ddod".

Cerrig o chwareli lleol

Y newid mwyaf gweledol yw'r cerrig anferth sydd wedi eu gosod ar hyd y traeth.

Bwriad rhain yw amsugno grym y môr wrth iddo dorri'r glannau, yn ôl cwmni Griffiths fu'n gyfrifol am y gwaith.

Mae 160,000 tunnell o gerrig wedi eu gosod a'r rhan fwyaf o chwareli lleol o Fôn, Penmaenmawr a phentref Helygain.

"Mae'n galluogi i bobl yr ardal wneud y pethau ella 'dan ni'n cymryd yn ganiataol," meddai Cyfarwyddwr y Gogledd ar ran cwmni Griffiths, Owain Thomas.

"Plant yn gallu mynd i'r ysgol, mynd i'r siop heb feddwl am y peth ac fel busnes dyma'r math o beth 'dan ni eisiau bod yn involved mewn.

"Prosiectau sydd yn y cymunedau 'dan ni'n byw a gweithio mewn."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cwmni Griffiths yn falch o fod yn rhan o'r cynllun amddiffyn, medd Owain Thomas

Mae'r gwaith yn dilyn buddsoddiad enfawr ar draws arfordir Bae Colwyn hyd at Fae Penrhyn lle mae lefel y tywod wedi ei gynyddu i greu traethau newydd.

Yn ôl y cwmni, y rheswm y mae cerrig wedi eu defnyddio yn Hen Golwyn yw oherwydd y byddai tywod yn cael ei olchi i ffwrdd gan lif y dŵr.

Roedd y cynllun yn un heriol ar brydiau, gyda'r gweithlu'n gorfod gweithio gyda'r llanw mewn amodau oer a gwyntog.

Un a fu'n gweithio ar y cynllun ers y dechrau ydy Rhys Owen.

"Y peth mwyaf heriol oedd gweithio gyda'r llanw," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gweld y gwaith yn dod i ben yn chwerwfelys i Rhys Owen

"Wrth gwrs oedd angen dechrau yn gynnar yn y bore, weithiau o'n i'n dechrau o'r tŷ rhyw dri, hanner awr wedi tri y bore i fod yma er mwyn gweithio ac weithiau yn gweithio'n hwyr yn nos hefyd.

"Lan y môr o'n i wrthi ac yma ers y dechrau yn gosod y cerrig 'ma.

"Mae'n braf [gweld y cynllun yn dod i ben ac yn] bechod i weld o'n darfod. O'n i'n mwynhau gwneud y gwaith ond braf gweld o hefyd."

Gyda rhan fechan ger ardal Rotary Way eto i'w gwblhau, y gobaith ydy ymhen rhai misoedd y bydd y promenâd i gyd bron, o Hen Golwyn hyd Bae Penrhyn, ar ei newydd wedd ac yn diogelu'r cymunedau am ddegawdau i ddod.

Pynciau Cysylltiedig