John Ystumllyn yn ysbrydoli gwisg Lewis Hamilton

Lewis HamiltonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwisg Lewis Hamilton i'r Met Gala ei hysbrydoli gan y garddwr o Gymru, John Ystumllyn

  • Cyhoeddwyd

Cafodd gwisg y seren F1 Lewis Hamilton i'r Met Gala nos Lun ei hysbrydoli gan un o arddwyr du cyntaf Cymru.

Cafodd John Ystumllyn ei gymryd fel plentyn o orllewin Affrica yn y 18fed ganrif, cyn cael ei fagu yng Ngwynedd.

Yn un o nosweithiau mwyaf y byd ffasiwn, mae'r Met Gala yn codi arian ar gyfer yr Amgueddfa Gelf Fetropolitan, ac yn cael ei chynnal yn flynyddol yn Efrog Newydd.

Bob blwyddyn, mae'r rhai sy'n mynd i'r digwyddiad - sy'n cael ei drefnu gan brif olygydd Vogue Anna Wintour - yn cael thema i wisgo iddi, a'r thema eleni oedd 'Yr Ardd Amser'.

"Be' dwi'n caru am y Met, a be mae Anna [Wintour] yn ei wneud gyda'r Met, yw fy mod i'n gallu mynd yn ddwfn i’r thema,” meddai Hamilton ar y carped coch.

“Fe wnes i lawer o waith ymchwil a des i ar draws y garddwr 'ma o’r 18fed ganrif a ddaeth - yn oes caethwasiaeth - ar draws o Affrica i Gymru a dod yn arddwr du cyntaf Cymru.

"Fe lwyddodd trwy adfyd, felly dyna o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth."

Pwy oedd John Ystumllyn?

Ffynhonnell y llun, Alamy
Disgrifiad o’r llun,

Darlun olew o John Ystumllyn yn 1754

Er fod pobl ddu yn byw yng Nghymru yn y 18fed ganrif, doedd hi ddim yn gyffredin.

Roedd Prydain yn ymwneud â'r fasnach gaethweision ar draws yr Iwerydd ar yr adeg hon, ond yn amlach na pheidio, roedd y mwyafrif helaeth o'r rhai oedd yn gaethweision yn cael eu cludo'n syth o Affrica i'r Caribî.

Disgrifiad o’r llun,

Mae John Ystumllyn wedi ei gladdu ym mynwent Eglwys Ynyscynhaearn, Cricieth

Fodd bynnag, ar adegau, roedd hi'n ffasiwn cael gwas du ymhlith uchelwyr cymdeithas, ac mae'n debyg mai dyma sut wnaeth y John Ystumllyn ifanc gyrraedd stad wledig yng Ngwynedd.

Mae wedi ei gladdu ym mynwent Eglwys Ynyscynhaearn, Cricieth.

Pynciau Cysylltiedig