Wrecsam: Enwi trenau newydd ar ôl sêr Hollywood

Ryan Reynolds a Rob McElhenney
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Ryan Reynolds a Rob McElhenney ddim yn y digwyddiad fore Sadwrn ond roedd darnau cardbord o'r ddau

  • Cyhoeddwyd

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi enwi dau drên newydd ar ôl dinasoedd genedigol perchnogion clwb pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Cafodd y 'Robin Goch Philadelphia' a ‘Draig Goch Vancouver’ eu dadorchuddio ddydd Sadwrn gan Brif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, cyn y gêm gartref yn erbyn Stockport.

Yn ôl llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru, roedden nhw "eisiau cydnabod y gwaith a'r effaith gadarnhaol y mae'r perchnogion wedi'i gael yn yr ardal gan gynnwys sut maen nhw wedi helpu'r gymuned leol a busnesau."

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

'Robin Goch Philadelphia' a ‘Draig Goch Vancouver' ydi enwau'r trenau newydd

Doedd Ryan Reynolds a Rob McElhenney ddim yn y digwyddiad yn Wrecsam fore Sadwrn ond roedd darnau cardbord o'r ddau.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething: “Mae wedi bod yn wych bod yn Wrecsam a gweld dau o’r ychwanegiadau diweddaraf at stoc Trafnidiaeth Cymru, rhan o’n buddsoddiad o £800m.

“Mae yna wefr go iawn yn Wrecsam y dyddiau yma. Mae Rob a Ryan wedi gwneud cyfraniad anhygoel i’r gymuned ac mae’n wych eu bod yn cael eu cydnabod gyda’r trenau newydd, ac rwy’n siŵr bydd pob cefnogwr Wrecsam eisiau teithio ar y trenau newydd mor fuan â phosib.”

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd prif weinidog Cymru, Vaughan Gething, bod "Rob a Ryan wedi gwneud cyfraniad anhygoel i’r gymuned"

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates: "Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi rhoi Wrecsam, y clwb pêl-droed gwych a'r rhanbarth ehangach ar lwyfan byd-eang.

"Rwy'n falch iawn ein bod yn cydnabod hyn drwy enwi dau o'n trenau newydd sbon, a wnaed yng Nghymru, i’w anrhydeddu.

"Mae'n arbennig o addas ei fod yn digwydd wrth i'r llen gau ar dymor hynod lwyddiannus arall i Glwb Pêl-droed Wrecsam."

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru

Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: "Rydym wrthi'n cyflwyno trenau newydd sbon ar draws ein rhwydwaith Cymru a'r Gororau a thrwy gydol y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweithio gydag ysgolion a chymunedau lleol i helpu i'w henwi.

"Mae cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam yn defnyddio ein gwasanaethau'n gyson ac mae'n amlwg cymaint mae perchnogion y clwb wedi cyfrannu'n gadarnhaol i'r ardal.

"Rydym yn falch o enwi ein trenau newydd ar ôl dinasoedd genedigol Ryan a Rob ac edrychwn ymlaen at groesawu cefnogwyr arnynt.”

Pynciau Cysylltiedig