Merch 'wedi gofyn i Neil Foden beidio â'i chyffwrdd'

Neil Foden
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o Neil Foden yn ystod yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

  • Cyhoeddwyd

Mae merch wedi dweud wrth lys sut y byddai prifathro, sydd wedi'i gyhuddo o gamymddwyn rhywiol, yn ei chyffwrdd hyd yn oed ar ôl iddi ddweud wrtho nad oedd hi'n hoff o hynny.

Roedd Neil Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.

Mae'n gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â phum plentyn.

Mae'r honiadau'n dyddio o Ionawr 2019 hyd at Fedi 2023 ac yn cynnwys 13 o gyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.

Gan siarad y tu ôl i sgrin yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, dywedodd y ferch, sy'n cael ei hadnabod fel Plentyn B, ei bod wedi cyfarfod â Neil Foden ar sawl achlysur.

Ar yr achlysuron hynny, meddai'r ferch, fe fyddai Mr Foden yn dal ei dwylo, yn ei chofleidio ac "yn gwasgu ei hun yn ei herbyn".

Ar un achlysur dywedodd ei fod yn dal ei dwylo wrth iddynt orffwys ar ei chôl, a bod ei law yn "agos iawn" i'w mannau preifat.

"Ro'n i'n anghyfforddus iawn. Ro'n i bron mewn stad o sioc," meddai.

Dywedodd hefyd ei bod yn cofio Mr Foden yn "cydio" yng nghefn ei gwddf ar sawl achlysur, er iddi ddweud wrtho ei bod yn "anghyfforddus" â hynny ac nad oedd hi'n hoff o "gyffyrddiad croen i groen".

"Roedd o'n gwneud hynny fel ffordd o fy nghael i'n gyfarwydd â phobl yn cydio yng nghefn fy ngwddf," meddai'r ferch.

"Roedd o'n gwneud hynny er mwyn i mi beidio bod ofn hynny bellach.

"Dywedais wrtho nad oeddwn yn gyfforddus â hynny.

"Yn ystod un achlysur pan ddigwyddodd hynny fe neidiais ac fe ddywedais wrtho nad oeddwn yn hoffi hynny. Fe wnaeth o hynny eto."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Neil Foden yn cyrraedd y llys ar ddiwrnod cyntaf yr achos

Wrth gael ei holi gan y bargyfreithiwr sy'n amddiffyn Neil Foden, Duncan Bould, a oedd y sefyllfa wedi peri cymaint o ofid iddi fel ei bod wedi peidio ei gyfarfod, dywedodd Plentyn B nad oedd hi wedi stopio y cyfarfodydd.

Fe awgrymodd Mr Bould nad oedd Mr Foden erioed wedi gafael yng ngwddf Plentyn B.

"Fe wnaeth o," meddai.

Fe ofynnodd Mr Bould i'r ferch hefyd pam nad oedd hi wedi cyflwyno unrhyw gŵyn tan i Mr Foden gael ei arestio.

"Ar y pryd roeddwn i'n ymddiried ynddo a ddim yn meddwl fawr am y peth," meddai, gan ychwanegu bod ei arestio wedi gwneud iddi ailasesu'r sefyllfa.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Foden yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn

Cafodd ei holi hefyd am sylwadau a ddywedodd ei fod wedi'u gwneud am ei hedrychiad.

Dywedodd eu bod "yn ei chysuro mewn ffordd" ond hefyd "yn ei hanesmwytho".

Gofynnodd Mr Bould iddi ai rŵan oedd hi'n credu hynny ac nid ar y pryd.

"Roeddwn yn credu hynny ar y pryd," meddai.

Gofynnodd Mr Bould hefyd a oedd Neil Foden wedi trafod materion rhywiol gyda Phlentyn B.

"Fe wnaeth," meddai.

'Wedi pinsio ei chlun'

Yn ddiweddarach fe gafodd y llys weld cyfweliad fideo o ferch sy'n cael ei hadnabod fel Plentyn C.

Wrth gael ei chyfweld gan yr heddlu dywedodd bod Neil Foden "wedi pinsio ochr fewnol ei chlun" ac wedi ei chofleidio nifer o weithiau gan roi ei law i fyny ei dillad a chyffwrdd ei chefn a thop ei sgert.

Fe wnaeth o hefyd gyffwrdd â'i gwallt a'i "rwbio", meddai.

Plentyn C yw'r ieuengaf i wneud cwyn am Mr Foden a dywedodd wrth y llys ei bod wedi dweud wrth oedolyn agos iddi beth oedd Neil Foden wedi ei wneud iddi wedi iddo gael ei arestio fis Medi y llynedd.

Wrth roi tystiolaeth y tu ôl i sgrin, dywedodd wrth Duncan Bould ei bod hi'n wir bod Neil Foden wedi gwasgu ei choes.

Gofynnodd Mr Bould i Blentyn C a wnaeth hynny wneud iddi beidio eisiau ei weld mwyach ac fe atebodd hi "nad oedd ganddi ddewis".

Fe wnaeth Mr Bould hefyd herio y dystiolaeth a roddodd mewn cyfweliad fideo i'r heddlu, sef bod Mr Foden wedi cyffwrdd â'i "chefn noeth".

"Fe wnaeth o," meddai.

"Wnaeth o ddim cyffwrdd â'ch gwallt chi?" gofynnodd Mr Bould.

"Fe wnaeth o," meddai Plentyn C.

Fe wnaeth Mr Bould ofyn wedyn i Blentyn C ai y sefyllfa oedd ei bod hi fel arfer yn ceisio dod o hyd iddo, ac y byddai hi'n aros amdano ac fe atebodd "Ie, weithiau."

"Doedd o ddim yn gwneud rywbeth annifyr i chi, oedd o?" gofynnodd.

"Oedd, mi oedd o," atebodd.

Adrodd tystiolaeth Plentyn C

Yn ddiweddarach fe glywodd y llys dystiolaeth gan y person yr oedd Plentyn C wedi ymddiried ynddo.

Dywedodd wrth y llys bod Plentyn C wedi dweud wrthi bod Neil Foden wedi cyffwrdd â'i chlun.

"Fe ddangosodd i mi sut y gwnaeth o roi ei law ar ei chlun a'i symud i fyny. Dywedodd nad oedd yn gyfforddus â hynny. Fe wnes i adrodd hynny," meddai.

Mae'r achos yn parhau.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Pynciau Cysylltiedig