Lockyer 'yn derbyn' efallai na fydd yn chwarae eto

Tom LockyerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tom Lockyer yn dal yn gobeithio dychwelyd i'r cae, ond mae wedi dod i delerau â'r posibilrwydd na fydd hynny'n digwydd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r pêl-droediwr Tom Lockyer yn dweud ei fod wedi dod i dderbyn y posibilrwydd na fydd yn gallu chwarae eto ar ôl cael ataliad ar y galon, er nad yw'n llwyr ddiystyru dychwelyd i'r gêm.

Fe lewygodd amddiffynnwr Cymru wrth chwarae i Luton yn erbyn Bournemouth yn Uwchgynghrair Lloegr fis Rhagfyr y llynedd - yr eildro i hynny ddigwydd o fewn saith mis.

Mae wedi dweud ei fod "yn dechnegol wedi marw" am ddau funud a 40 eiliad cyn i barafeddygon ei ddadebru.

Datgelodd ym mis Mawrth bod dod yn dad am y tro cyntaf wedi gwneud iddo ailasesu ei flaenoriaethau wrth edrych tua'r dyfodol.

'Dyw e ddim yn ddiwedd y byd'

"Does dim cyfrinach y byddwn i wrth fy modd yn dychwelyd i bêl-droed," dywedodd wrth BBC Radio Wales.

"Ond yn y pendraw mae'n dibynnu ar gardiolegydd neu arbenigwr sydd wedi ymchwilio'n llawn i'r hyn sydd wedi digwydd ac os gallai ddigwydd eto, oherwydd mae gyda ni ferch fach nawr a hi yw'r flaenoriaeth.

"Byddwn i wrth fy modd yn chwarae pêl-droed eto, wrth gwrs - dyna fy mywyd - ond os nad dyna'r achos rwy' wedi dod i delerau gyda hynny hefyd.

"Rwy' wedi chwarae dros fy ngwlad, rwy' wedi chwarae ymhob cynghrair a sgorio ymhob cynghrair hyd at yr Uwchgynghrair felly dyw e ddim yn ddiwedd y byd.

"Yn y pendraw, mae gyda fi fy iechyd a dyna'r peth pwysicaf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Parafeddygon yn trin Tom Lockyer ar y cae ym mis Rhagfyr 2023 wedi iddo gael ail ataliad ar y galon

Mae'r chwaraewr 29 oed sy'n hanu o Gaerdydd bellach â theclyn ICD (implantable cardioverter-defibrillator) yn ei frest, sydd i fod i ailddechrau'r galon yn syth os oes digwyddiad tebyg yn y dyfodol.

Os na fydd yn gallu chwarae eto, mae'n awyddus i barhau o fewn y byd pêl-droed ac yn bwriadu sicrhau bathodynnau hyfforddi.

"Rwy' wedi gwneud rhywfaint o waith sylwebu hefyd, a wir yn mwynhau, felly mae yna opsiynau.

"Dydw i ddim am wneud dim un o'r rheiny llawn amser ar y funud, yn amlwg.

"Rwy' am geisio canolbwyntio ar ddychwelyd i'r cae, ond os na ddigwyddith hynny rwy'n siŵr bydd yna rywbeth arall ar fy nghyfer."

Ar hyn o bryd mae Lockyer yn rhan o ymgyrch yr elusen British Heart Foundation i annog o leiaf 270,000 o bobl i ddysgu technegau CPR.

"Mae'n llythrennol yn achub bywydau ac rwy'n brawf o hynny," meddai. "Rwy'n gwybod pa mor bwysig yw CPR."